Cyfarfodydd

Adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2
  • Cyfyngedig 3

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr eu hadroddiad blynyddol a’u cyfrifon ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023. Cawsant sicrwydd bod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi argymell cymeradwyo’r adroddiad, a chytunwyd ar y fersiwn derfynol i'w chyhoeddi, yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau.


Cyfarfod: 22/05/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Diweddariad i PAPAC

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr wybodaeth i’w darparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn dau faes yn dilyn Craffu ar y Cyfrifon ar gyfer 2021-22. Roedd y rhain yn ddadansoddiad o'r prosiectau a weithredwyd fel rhan o’r gronfa brosiectau, a chrynodeb o ganlyniadau'r arolwg staff a'r arolwg pwls. Gofynnodd y Comisiynwyr am rywfaint o eglurhad a chytunwyd ar gynnwys y llythyr at y Pwyllgor.


Cyfarfod: 30/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Gyfrifon 2021-22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Ar 7 Rhagfyr 2022, cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i’r saith o argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Gyfrifon 2020-21.


Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i roi gwybodaeth ychwanegol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 12

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y llythyr sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn dilyn y sesiwn graffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2021-22.

Yn benodol, trafododd y Comisiynwyr y rhaglenni cymorth a gynigir i staff y Comisiwn, gan gytuno y dylid cadw llygad barcud ar y sefyllfa. Hefyd, cafodd trefniadau eraill o ran cyflogaeth eu trafod, fel staff cymorth yr Aelodau a chontractwyr y Comisiwn.


Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2021-22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15
  • Cyfyngedig 16

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Comisiynwyr fersiwn derfynol yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022, yn amodol ar unrhyw fân waith cywiro neu olygu.

Wrth wneud hynny, trafodwyd elfennau yn ymwneud â'r ieithoedd swyddogol, a chytunwyd i gyfeirio atynt yn fwy amlwg o fewn blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Croesawodd y Comisiynwyr y dull o gyhoeddi’r adroddiad ar ffurf cyfres newydd o dudalennau ar y we sy’n cyflwyno uchafbwyntiau’r adroddiad (a’r adroddiadau blynyddol eraill – Amrywiaeth a Chynhwysiant, y Cynllun Ieithoedd Swyddogol a Chynaliadwyedd). Daethpwyd i’r casgliad bod hyn yn gwneud cynnwys yr adroddiad yn llawer mwy hygyrch a hylaw.

Bydd yr Adroddiad yn cael ei lofnodi a’i osod ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru ac fe’i cyhoeddir ar-lein cyn diwedd tymor yr haf.


Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Gohebiaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 19
  • Cyfyngedig 20
  • Cyfyngedig 21

Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Ymateb i sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 24

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn dilyn y sesiwn graffu ym mis Hydref.


Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 27

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Comisiynwyr adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020. 


Cyfarfod: 04/05/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad blynyddol – sylwadau’r Comisiynwyr ar y drafft

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 30
  • Cyfyngedig 31

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi trafod fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn yn ymwneud â 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020, er mwyn rhoi sylwadau cyn cwblhau'r adroddiad.

Roedd y Comisiynwyr yn croesawu’r gwaith hyd yma gan gydnabod y byddai diweddariadau ychwanegol i adlewyrchu digwyddiadau diweddar. Awgrymwyd hefyd y dylid cynnwys adran edrych ymlaen.

 

Bydd yr adroddiad yn cael ei osod a'i gyhoeddi ar-lein yn dilyn cymeradwyaeth derfynol ym mis Mehefin.

 


Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad blynyddol a chyfrifon

Copi caled yn unig

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019.

 

Gwnaethant nodi un mater a oedd wedi codi ers eu trafodion blaenorol, yn ymwneud â dyfarniad diweddar iawn yn y Goruchaf Lys a oedd wedi effeithio ar rwymedigaethau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad yng nghyfrifon y Comisiwn.

 

Byddai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i osod cyn diwedd tymor yr haf.

 


Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19

Drafft fel ar 3 Mehefin (Saesneg yn unig)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 36
  • Cyfyngedig 37
  • Cyfyngedig 38

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2019, ac roeddent yn fodlon ar yr hyn a welwyd.

 

Bydd y fersiwn derfynol i’w chymeradwyo ym mis Gorffennaf, ac yna caiff ei gosod erbyn diwedd tymor yr haf. Bydd ar gael ar-lein.

 


Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2017-18

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 41
  • Cyfyngedig 42

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y drafft o'u Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cwmpasu 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018, yn amodol ar unrhyw fân waith cywiro neu olygu. Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei osod cyn diwedd tymor yr haf a'i gyhoeddi ar-lein.

 


Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Adroddiad a chyfrifon blynyddol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 45
  • Cyfyngedig 46

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2016 hyd at 31 Mawrth 2017.

 

Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau i ystyried sylwadau gan Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a chan Gomisiynwyr; ynghyd â phroses prawfddarllen derfynol, fformatio a brandio.

 

Caiff y fersiwn derfynol ei gosod yn Gymraeg ac yn Saesneg cyn diwedd tymor yr haf, a bydd ar gael ar-lein a thrwy nifer cyfyngedig o gopïau argraffedig.


Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 49

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft ar gyfer 2016-17 a diolchwyd am eu cyfraniadau.

Roedd Adroddiad drafft yn cael ei anfon i Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, gyda drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 17 Gorffennaf ac yn cael ei gyhoeddi ar ôl hynny.

CAM I'W GYMRYD: Y Bwrdd Rheoli i roi gwybod am unrhyw newidiadau pellach erbyn 26 Mai.

 

 


Cyfarfod: 12/05/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)

Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16

Eitem lafar.

 

Cofnodion:

Roedd yr Adroddiad blynyddol a'r cyfrifon ar fin cael eu cwblhau a gofynnwyd i'r Bwrdd roi gwybod am unrhyw sylwadau erbyn hanner dydd 13 Mai, cyn i'r drafft terfynol gael ei anfon i Swyddfa Archwilio Cymru ei adolygu. Rhoddodd y Bwrdd ganmoliaeth i Nia Morgan a'r tîm Cyllid, Chris Warner ac eraill am eu gwaith ar yr adroddiad.


Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Paratoi ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2015-16, a’u symleiddio

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 54

Cofnodion:

ACARAC (30) Papur 9 - Paratoi ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2015-16, a’u symleiddio

8.1        Rhannodd Nicola fersiwn ddrafft o’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, a baratowyd gan y Pennaeth Cyllid a benodwyd yn ddiweddar, i adlewyrchu canllawiau 'Simplifying and Streamlining Accounts' Trysorlys Ei Mawrhydi.  Bydd y gyfres interim o gyfrifon yn profi’r cynllun newydd hwn a chroesawodd y Pwyllgor y newidiadau a ddrafftiwyd hyd yn hyn.  Gofynnwyd i'r swyddogion beidio â thanbrisio'r gwaith sydd ynghlwm â pharatoi'r gyfres interim o gyfrifon, o ystyried y newidiadau yng nghynllun y ddogfen.  

Camau gweithredu

-        Nicola i gyflwyno gwaith archwilio interim ym mis Chwefror. 

 


Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (26 Medi 2014)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 - 2014: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i edrych eto ar y mater hwn ar ôl cael y wybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad.

 


Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 - 2014

PAC(4)-24-14 papur 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Peter Black AC - Comisiynydd

Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nicola Callow – Cyfarwyddwr Cyllid

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 – 2014, gan holi Peter Black AC, Comisiynydd, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, a Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid y Cynulliad.

2.2 Cytunodd Claire Clancy:

·       i ddarparu amlinelliad o'r camau a gymerwyd yn dilyn y digwyddiad twyll

·       i ddarparu manylion pellach ynghylch llithriad y prosiect Adnoddau Dynol â'r Gyflogres

·       i anfon darn o Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2013-14 sy'n dangos y cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ôl gradd 

·       i ddarparu amlinelliad o raddau effeithlonrwydd ynni Tŷ Hywel a'r Senedd

·       i ddarparu gwybodaeth fanwl am y costau TGCh ar gyfer 2013-14, gan gynnwys y costau rhedeg arferol a'r gwariant a wnaed fel rhan o'r prosiect i ddod â darpariaeth TGCh yn fewnol

 

 


Cyfarfod: 20/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2012-13

Cofnodion:

Cyhoeddir Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar-lein ar  11 Gorffennaf. Anfonir copïau at yr Aelodau cyn diwedd y tymor a bydd rhywfaint o gopïau ar gael, gyda chrynodeb, yn nigwyddiadau'r Comisiwn dros yr haf. 

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar nifer fach o newidiadau.


Cyfarfod: 28/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Y fframwaith ar gyfer adroddiad blynyddol Comisiwn y Cynulliad a’r datganiad o gyfrifon ar gyfer 2012-13

Cofnodion:

Cafodd amlinelliad arfaethedig o’r Adroddiad Blynyddol ei gyflwyno er mwyn i’r Comisiwn ei ystyried. Cytunwyd ar y fframwaith.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i barhau gyda’r gwaith ar yr adroddiad.


Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad a chyfrifon blynyddol ar gyfer 2011-12

Papur 3

Cofnodion:

Mae Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-12 yn rhoi trosolwg strategol ar flaenoriaethau strategol Comisiwn y Cynulliad, ac yn rhoi pwyslais cryf ar adeiladu Cynulliad ar gyfer y dyfodol

Caiff yr Adroddiad Blynyddol ei gyhoeddi arlein ar 12 Gorffennaf a chaiff y ddogfen lawn, gan gynnwys cyfrifon, ei gosod yn ffurfiol erbyn diwedd y tymor.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad.


 


Cyfarfod: 08/03/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

3 Fframwaith ar gyfer adroddiad a datganiad o gyfrifon blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2011-12

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bydd Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2011-12 yn rhoi trosolwg strategol ar flaenoriaethau strategol Comisiwn y Cynulliad, ac yn rhoi pwyslais cryf ar adeiladu Cynulliad ar gyfer y dyfodol. 

Adroddiad Blynyddol ar gyfer y cyhoedd fydd hwn, ond bydd hefyd o ddiddordeb i Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn ymdrin â nifer o themâu, gan gynnwys paratoi ar gyfer yr etholiad a’r diddymiad; yr etholiad a’r aelodaeth newydd; gwaith Comisiwn newydd y Cynulliad a’r trefniadau ar gyfer busnes y Cynulliad.

Cytunodd y Comisiwn ar gynnwys arfaethedig yr Adroddiad Blynyddol, Cytunwyd i gyhoeddi adroddiad gwahanol yn amlinellu’r hyn y mae’r Comisiwn wedi’i gyflawni yn ystod blwyddyn gyntaf y Pedwerydd Cynulliad; adroddiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yn bennaf fydd hwn. 

Cam i’w gymryd: swyddogion i fwrw ymlaen â’r paratoadau angenrheidiol.


Cyfarfod: 29/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

2 Adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Comisiwn yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2010-11. Nodwyd y byddai proses ar wahân yn cael ei dilyn ar gyfer y cyfrifon yn yr un cyfnod. Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad fyddai’n craffu ar y cyfrifon - Angela Burns, fel y Comisiynydd â chyfrifoldeb dros y gyllideb a llywodraethu, oedd cynrychiolydd y Comisiwn. Byddai’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon wedyn yn cael eu cyhoeddi ar y cyd mewn un ddogfen ar 14 Gorffennaf.

 

Yn ogystal â chyfrifoldeb statudol y Comisiwn i baratoi a chyflwyno’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, roedd y Comisiynwyr am sicrhau y byddai’r cyhoeddiad yn cyrraedd cynifer o bobl â phosibl a cyflawnwyd hyn drwy ddarparu fersiwn ar-lein ar ffurf llinell amser ryngweithiol a fyddai’n hollol hygyrch. Yn ogystal, byddai crynodeb hefyd yn cael ei baratoi ac ar gael i’r cyhoedd.

 

Roedd y naratif yn rhoi adolygiad o weithgarwch yn 2010-11 a byddai’n cael ei werthfawrogi gan y sawl sy’n edrych ar hanes y Cynulliad. Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau penodol, a fydd yn cael eu cynnwys mewn fersiwn ddiwygiedig. Yn ogystal, byddai Iwan Williams yn trafod gwelliannau penodol a awgrymwyd gan Sandie Mewies.

 

Gweithred: Iwan Williams i drafod y gwelliannau awgrymodd Sandy Mewies. Claire Clancy i ddiwygio’r naratif fel yr awgrymwyd yn y cyfarfod.