Cyfarfodydd
Strategaeth Comisiwn y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Agwedd strategol at gyllidebau ac arbedion
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiwn y dull y bydd swyddogion yn ei ddefnyddio i ddod o hyd i'r arbedion
sydd eu hangen i lenwi’r bwlch cyllid yng Nghyllideb ddrafft 2024-25, a
darparwyd gwybodaeth i ddechrau ystyried arbedion cynaliadwy tymor hwy o
2025-26 ymlaen.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai swyddogion yn dod â chynigion ar gyfer
llenwi bwlch cyllidebol 2024-25 i gyfarfod y Comisiwn ym mis Ionawr; gan nodi y
byddai'r cynigion hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar reoli costau newidiol a’r
Gronfa Prosiectau.
Cytunwyd hefyd i fwrw
ymlaen â chynigion ar gyfer arbedion cynaliadwy tymor hwy fel rhan o’r broses o
ddatblygu cyllideb 2025-26 y flwyddyn nesaf, ar ôl cwblhau cylch cynllunio’r
hydref/gaeaf..
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Cymeradwyodd y
Comisiwn y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig ar gyfer y cyfnod 2024-25 i
2026-27, gydag addasiadau wedi’u gwneud ers iddo ystyried drafft ar 25 Medi.
Croesawodd y
Comisiynwyr gynnwys y cynllun gweithlu a nodwyd bod darn o waith ar y gweill
i’w wneud gan Gynghorwyr Annibynnol y Comisiwn i archwilio strwythur staffio’r
Comisiwn, gan gynnwys meincnodi â seneddau eraill, ac mai Ken Skates fyddai’r
Comisiynydd arweiniol ar gyfer y gwaith.
Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr y Fframwaith Adnoddau Tymor
Canolig drafft ar gyfer y cyfnod 2024-25 i 2026-27, a buont yn ystyried y
berthynas rhwng y dull hwn o gynllunio mwy manwl yn y tymor hwy, a’r cylch
gosod cyllideb blynyddol.
Trafododd y Comisiynwyr yr ymagwedd at y tymor
canolig a'r fframwaith fel arf i gynllunio ar gyfer – a rheoli ac ymateb yn
effeithiol i – unrhyw fwlch rhwng yr adnoddau sydd eu hangen, a'r adnoddau sydd
ar gael mewn modd strategol. Byddai'r fframwaith yn nodi gofynion y gyllideb a
ragwelir ar gyfer 2025-26 a 2026-27, wedi'u gosod ar sail 'senario twf a
reolir' yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig; yn cynnig Sefydliad Targed y
Comisiwn bob blwyddyn ariannol fel rhan o'r Cynllun Gweithlu, fel y prif ddull
strategol ar gyfer alinio blaenoriaethau adnoddau ag argaeledd adnoddau; ac yn
mabwysiadu strategaeth datblygu staff drwy'r Cynllun Gweithlu i sicrhau bod
adnoddau pobl yn cyd-fynd â blaenoriaethau.
Nododd y Comisiynwyr y bwriadwyd i’r ddogfen fod yn ddogfen weithredol i lywio'r
gwaith o bennu cyllideb flynyddol y Comisiwn, a'i flaenoriaethau mewnol. Buont
yn myfyrio ar y berthynas ag ymarfer arbed costau'r flwyddyn gyfredol, a gofyn
am gynnal iteriad pellach o waith er mwyn nodi meysydd i'w trafod gan y
Comisiwn yn ei gyfarfod nesaf mewn perthynas â blaenoriaethu darpariaeth
gwasanaeth, arbed costau a chynhyrchu incwm.
Trafododd y Comisiynwyr lesiant staff a'r offer sydd ar gael i gefnogi hyn.
Gwnaethant groesawu gwybodaeth am y ddarpariaeth newydd o ran y Cynllun
Gweithredu ar yr Economi, a oedd ar fin cychwyn ar gyfer staff y Comisiwn, yr
Aelodau a'u staff. Buont hefyd yn ystyried nifer o fanylion penodol, a gofyn am
nodyn ynghylch teleffoni, a threfniadau ar gyfer cael gwared ar offer TGCh.
Nododd y Comisiynwyr
grynodeb gweithredol y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, ar sail y gwaith
pellach sydd i'w wneud.
Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig Drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
Cofnodion:
Cafodd y Comisiwn ddiweddariad ar waith i
ddatblygu fframwaith cyllidebol a chynllunio'r gweithlu yn y tymor canolig.
Roedd hyn yn seiliedig ar egwyddorion a rhagdybiaethau cynllunio y cytunwyd
arnynt, i helpu i reoli'r pwysau sylweddol ar adnoddau yn y dyfodol i'r
Comisiwn. Cyflwynwyd cynigion cyllideb drafft 2024-25 iddynt hefyd, yn amodol
ar waith manylach cyn cyflwyno cynnig cyllideb derfynol yng nghyfarfod y
Comisiwn ym mis Medi.
Nododd y Comisiynwyr gefndir a gyrwyr ar gyfer Fframwaith
Adnoddau Tymor Canolig, yn rhoi mwy o amlygrwydd i'r persbectif tymor hwy, gan
gydnabod nad yw'r broses graffu flynyddol ar y gyllideb yn newid. Nodwyd y
senarios cynllunio ariannol a’r adnoddau ychwanegol y byddai eu hangen ar bob
un dros y cyfnod 2024-25 i 2026-27. Y
dull cyffredinol o ymdrin â'r Fframwaith fyddai galluogi tryloywder ar gostau
rhaglenni mawr drwy ei wahanu oddi wrth adrodd costau gweithredol presennol y
Comisiwn a chyflwyno Targed Cynllunio Gweithlu blynyddol i gynnwys Ffactor
Effeithlonrwydd a bennir bob blwyddyn ar y lefel y bydd angen i gyfran o'r twf
gofynnol mewn sefydliad bob blwyddyn gael ei amsugno gan y sefydliad cyfredol
ar y pryd.
Trafododd y Comisiynwyr awgrym i gynnwys Aelodau yn fwy
colegol yn y dull tymor canolig a hirdymor o bennu cyllideb a chynigiwyd i
ddeiliad portffolio'r Comisiwn ar gyfer y gyllideb a llywodraethu gael cynnig
bod yn rhan o weithgaredd i gefnogi hynny.
Cytunodd y Comisiynywr y bydd swyddogion yn parhau i ddatblygu cynigion
cyllideb 2024-25, ar y cyd â’r Llywydd a’r Comisiynwyr, cyn cyflwyno cynnig
terfynol ar y gyllideb ddrafft i’r Comisiwn ym mis Medi.
Bydd y gyllideb
ddrafft derfynol yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog yn yr
hydref.
Cyfarfod: 26/09/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Rheoli Adnoddau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr
wybodaeth yn argymell dull o reoli adnoddau yn dilyn yr ymarfer adolygu
capasiti y gofynnwyd amdano, a ddaeth i ben dros yr haf.
Mae'r wybodaeth yn
nodi heriau tymor canolig o ran adnoddau a phwysau costau y mae'n rhaid i'r
Comisiwn eu rheoli; ac yn crynhoi opsiynau strategaeth rheoli adnoddau.
Adlewyrchodd y Comisiynwyr fod gofynion o ran capasiti yn rhai allanol – yn
ogystal â rhai sy’n cael eu cynllunio’n fewnol – ac na ellir eu rheoli bob
amser, a thrafodwyd pwysigrwydd peidio â chreu pwysau gormodol ar staff.
Nododd y Comisiynwyr y
tybiaethau cynllunio strategol a ganlyn:
· mae’n bosibl na fydd y twf o ran gofynion am adnoddau
dros y tair blynedd nesaf yn cael ei gyllido'n llawn;
· rhaid sicrhau bod gofynion y Comisiwn am adnoddau dros y
3-4 blynedd nesaf (y cyfnod hyd at flwyddyn gyntaf y Seithfed Senedd, pan fydd
effaith y cynigion presennol ar gyfer diwygio’r Senedd yn cael eu teimlo’n
llawn) yn cael eu rheoli’n rhagweithiol;
· dylid sicrhau mai rheoli unrhyw dwf arfaethedig yn
niferoedd staff y Comisiwn fydd y prif ddull o reoli’r pwysau ar adnoddau dros
y cyfnod hwn, gan nodi y bydd y gallu i reoli costau cyfalaf gofynnol, pwysau
chwyddiant a’r twf mewn gofynion costau sefydlog amrywiol yn gyfyngedig iawn
fel arall; ac
· mae’n bosibl na fydd adnoddau ar gael ar gyfer y costau
sefydlu ychwanegol posibl sy’n gysylltiedig â rhaglen Ddiwygio’r Senedd, y tu
hwnt i’r rhai a gyflwynwyd eisoes i’r Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai’r Bwrdd Gweithredol yn
datblygu Cynllun Ariannol Tymor Canolig dros dair blynedd, ar gyfer y cyfnod o
2024-25 hyd at 2026-27, sy’n gosod ‘cap’ ar nifer staff cyffredinol y Comisiwn,
yn ogystal â gofyniad i gydbwyso’r twf mewn refeniw rheoladwy gydag arbedion
effeithlonrwydd cymesurol yn ystod y cyfnod o dair blynedd a gwmpesir gan y
Cynllun Ariannol Tymor Canolig, er mwyn ceisio mynd i’r afael â'r heriau sydd
yn ein hwynebu o ran adnoddau. Dywedodd y Comisiynwyr na ddylai Diwygio’r
Senedd fod ar draul gwasanaethau’r Comisiwn a ddarperir. Fe gytunon nhw i weld
y cynllun drafft yn y gwanwyn.
At hynny, tynnodd y
Comisiynwyr sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â staff er mwyn iddynt deimlo’n
hyderus y byddai’r broses yn gweithio.
Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Strategaeth y Comisiwn (diweddarwyd)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad i’r blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd a wnaed yn dilyn
trafodaeth yn y cyfarfod diwethaf, gyda geiriad yn gysylltiedig â'r Comisiwn
fel sefydliad dwyieithog.
Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ffyrdd o weithio: Datblygu Strategaeth Rheoli Adnoddau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi dull o reoli adnoddau Comisiwn y
Senedd ar gyfer gweddill y Chweched Senedd, yng nghyd-destun Diwygio'r Senedd. Trafodwyd
pwysigrwydd cymryd golwg eang, er mwyn deall y darlun llawn.
Nododd y Comisiynwyr y cynhelir adolygiad o gapasiti ac adnoddau presennol
y Comisiwn, gan gynnwys y posibilrwydd o ddyrannu adnoddau presennol i amsugno
costau cyfalaf trosiannol tebygol unrhyw gynlluniau terfynol i ddiwygio'r
Senedd. Cytunwyd i gael 'Strategaeth Rheoli Adnoddau' ddrafft yn yr hydref.
Nododd y Comisiynwyr y
tybiaethau cynllunio dros dro a nodwyd a chytunwyd ar y safbwynt mewn egwyddor
y byddai angen ymdrin â chostau cyfalaf trosiannol unrhyw gynlluniau terfynol
Diwygio'r Senedd drwy geisiadau am yr arian angenrheidiol, anghylchol, wedi’i
gyfiawnhau, drwy broses y gyllideb flynyddol.
Nododd y Comisiynwyr
hefyd y byddai proses fewnol drylwyr a gynhelir ar y pryd, gan gefnogi
ceisiadau am dwf cyllidebol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a wneir yn y Chweched
Senedd hefyd yn cynorthwyo'r Seithfed Senedd pan ddaw i bennu ei hanghenion o
ran adnoddau. Byddai unrhyw gynnydd mewn capasiti ac adnoddau yn cael ei wneud
yn raddol briodol yn y blynyddoedd i ddod, o linell sylfaen gadarn.
Cyfarfod: 09/05/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Cynllun Cyflawni Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
Gynllun Cyflawni Corfforaethol 2022-23 y Comisiwn.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cyflawni Strategaeth y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cyfeiriad Strategol y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Yn dilyn ystyriaeth ym
mis Gorffennaf a mis Medi o’r hyn a ddysgwyd, prif sbardunau ar gyfer newid a'r
dull ystwyth o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, cytunodd y Comisiynwyr ar
strategaeth y Comisiwn, a fydd yn pennu cyfeiriad lefel uchel ar gyfer ei waith
dros y pum mlynedd nesaf.
Cyfarfod: 12/07/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cyfeiriad Strategol y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
- Cyfyngedig 36
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiynwyr fyfyrdodau eu rhagflaenwyr ar yr hyn a ddysgwyd drwy’r darnau mwyaf
arwyddocaol / agweddau allweddol o waith y Comisiwn yn y Bumed Senedd, a’r ffactorau
sy'n sbarduno newid, a fyddai’n dylanwadu ar gyfeiriad y strategaeth ar gyfer y
Chweched Senedd.
Trafododd y
Comisiynwyr yr angen i allu arloesi, a'u cyfrifoldebau ehangach i Gymru. Nodwyd
ganddynt fod buddsoddi mewn ymchwil ac arfer da yn y defnydd o ieithoedd
swyddogol yn ystod y pandemig a gwneud cynnydd ar arferion caffael yn faterion
i'w hystyried ynghyd â ffyrdd o weithio yn y dyfodol, a chytunwyd i drafod
ymhellach yn yr hydref.
Cyfarfod: 15/03/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyfeiriad Strategol y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
Cofnodion:
Myfyriodd y Comisiynwyr ar yr hyn a ddysgwyd drwy’r
darnau mwyaf arwyddocaol o waith y Comisiwn, ac agweddau allweddol arno yn
ystod y Bumed Senedd, ochr yn ochr â ffactorau sy'n sbarduno newid hyd y gellir
rhagweld i ddarparu cyfeiriad i'r strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd.
Fe wnaethant drafod
agweddau yn ymwneud â phob un o'u meysydd portffolio a rhoi adborth i lywio'r
crynodeb o fyfyrdodau a'r ffactorau sy’n sbarduno newid i’w cyflwyno i’r
Comisiwn nesaf. Fe wnaethant nodi’r manteision o ehangu dealltwriaeth o rôl a
chyfrifoldebau'r Comisiwn, a gofyn am roi ffocws ar helpu dinasyddion i ddeall
rolau Aelodau o’r Senedd.
Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Cyfeiriad strategol y Comisiwn
Cofnodion:
Cyflwynwyd trosolwg
byr i’r Comisiynwyr o feysydd a nodwyd i lywio’r drafodaeth gyda hwy yn unigol
i gofnodi myfyrdodau o'r hyn a ddysgwyd drwy'r darnau o waith/agweddau
allweddol mwyaf arwyddocaol ar waith y Comisiwn yn ystod y bumed Senedd, a nodi
materion a allai lywio’r cyfeiriad gweithredu ynghyd â ffactorau sy'n sbarduno
newid ar gyfer y dyfodol agos.
Bydd y myfyrdodau hyn
yn cael eu defnyddio wrth lunio papur byr i’w drafod yn y cyfarfod nesaf, ac
felly helpu i ddatblygu strategaeth y Comisiwn dros y blynyddoedd nesaf.
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Y Cynulliad ar dudalen
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
ddogfen fer a luniwyd i grynhoi diben, gweledigaeth, nodau, blaenoriaethau a
gwerthoedd cyfredol Comisiwn y Cynulliad.
Cyfarfod: 19/03/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Diwrnod cwrdd i ffwrdd ar Strategaeth y Comisiwn
Cofnodion:
Fel rhan
o gylch cynllunio diwygiedig y Comisiwn, cytunodd y Comisiynwyr y byddai’n
ddefnyddiol parhau â’r dull a ddefnyddiwyd y llynedd, sef cynnal gweithdy nodi
strategaeth flynyddol mewn diwrnod cwrdd i ffwrdd.
Cyfarfod: 11/07/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cyfarfod: 30/06/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2016-2021
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
- Cyfyngedig 54
Cyfarfod: 12/05/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Strategaeth y Comisiwn 2016-2021
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 57
- Cyfyngedig 58
Cofnodion:
Adolygwyd drafft pellach o'r strategaeth i sicrhau'r Bwrdd ei bod yn
adlewyrchu'r trafodaethau, yn gysylltiedig â'r gyllideb ac yn dangos y lefel
gywir o uchelgais, gan sicrhau parhad ar yr un pryd. Trafododd y Bwrdd rai mân
newidiadau, ond cytunwyd bod y drafft yn dda fel arall.
Bydd y strategaeth yn cael ei chyflwyno i gyfarfod y Comisiwn ar 30
Mehefin.
Cytunwyd na fyddai papurau drafft y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi'n fewnol
ac y byddai Dave Tosh yn egluro Cylch Gorchwyl y Bwrdd Rheoli.
Cyfarfod: 07/03/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Strategaeth a gwerthoedd corfforaethol y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 61
- Cyfyngedig 62
- Cyfyngedig 63
Cofnodion:
Cyflwynodd
Anna Daniel bapur a baratowyd fel fframwaith i gynorthwyo'r Bwrdd Rheoli i
ystyried yr hyn a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Comisiwn newydd mewn perthynas
â'i nodau a'i flaenoriaethau strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn
ogystal, gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried gwerthoedd y sefydliad a sut y gellid eu
hadnewyddu.
Trafododd
y Bwrdd Rheoli y fframwaith a'r argymhellion a chytunodd y byddai:
·
yn
integreiddio strategaeth y gyllideb yn strategaeth y Comisiwn;
·
yn
pwysleisio parhad y nodau yn ystod Cynulliadau blaenorol, ac yn cryfhau'r
dystiolaeth am y llwyddiant a gyflawnwyd yn sgil y nodau;
·
yn
ymgorffori'r themâu o'r atodiad yn yr adran craffu ar y gorwel ac yn nodi'r
meysydd blaenoriaeth arfaethedig o dan y nodau strategol i'w hystyried gan y
Comisiwn;
·
yn
rhoi lle mwy amlwg i'r cyfrifoldebau Cydraddoldebau, Dwyieithrwydd a
Chynaliadwyedd;
·
yn
ailedrych ar y gwerthoedd corfforaethol wedi i'r Comisiwn gytuno ar ei nodau
a'i flaenoriaethau strategol.
Camau
i’w cymryd:
Anna Daniel i gwrdd â Claire Clancy i drafod y fersiwn nesaf o'r papur
strategaeth.
Cyfarfod: 06/03/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Cyfarfod Strategaeth y Comisiwn - 3 Ebrill
papur
4
Cofnodion:
Bydd
cyfarfod strategaeth preifat yn cael ei gynnal ar 3 Ebrill lle byddai'r
Comisiynwyr yn trafod eu blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn,
paratoadau ar gyfer trosglwyddo i'r Pumed Cynulliad a materion cyfansoddiadol
sylweddol sydd ar y gorwel.
Cyfarfod: 14/07/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
2 Strategaeth ddrafft ddiwygiedig y Comisiwn 2011-16
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(3) Papur 2 - Strategaeth ddrafft ddiwygiedig y Comisiwn 2011-16, Eitem 2 PDF 76 KB Gweld fel HTML (2/1) 15 KB
Cofnodion:
Mae’r strategaeth ddrafft ar gyfer 2011-16 wedi cael ei
diweddaru i adlewyrchu sylwadau gan y Comisiynwyr am eu blaenoriaethau a’u
dyheadau ar gyfer y sefydliad.
Cytunwyd ar y fersiwn ddiwygiedig o’r datganiad o bwrpas
a’r nodau strategol drafft, yn amodol ar fân newidiadau
pellach y gofynnodd y Comisiynwyr amdanynt, i symleiddio geiriad y strategaeth.
Cyfarfod: 29/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
3 Strategaeth ddrafft y Comisiwn 2011-16
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(2) Papur 3 - Strategaeth Ddrafft y Comisiwn 2011-16, Eitem 3 PDF 171 KB Gweld fel HTML (3/1) 50 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd Claire Clancy y papur a
oedd yn cynnwys drafft o strategaeth lefel uchel ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Nodwyd y byddai Strategaeth newydd y Comisiwn yn cael ei hategu gan gynlluniau
gwasanaeth ar gyfer pob un o feysydd gwasanaeth y Cynulliad. Byddai’r rhain yn
pennu amcanion, a byddai perfformiad yn cael ei fesur yn eu herbyn.
Cytunodd y Comisiwn ar y tri nod
strategaethol, ond gofynnwyd am waith pellach ar eiriad y trydydd nod i’w wneud
yn fwy positif. Awgrymodd y Comisiynwyr bedwerydd nod strategol hefyd er mwyn
gwneud y Cynulliad yn ‘llysgennad’ dros Gymru.
Roedd manylion yn y strategaeth
ddrafft ynghylch sut y byddai staff y Comisiwn yn darparu’r nodau. Y bwriad
oedd esbonio disgwyliadau’r Comisiwn a gwneud pethau’n glir i helpu gyda
chyflawni’r nodau strategol. Cafwyd nifer o awgrymiadau gan y Comisiynwyr i’r
perwyl hwn. Cytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig o’r strategaeth ddrafft yn
cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 14 Gorffennaf.
Gweithred: Claire Clancy i baratoi fersiwn
ddrafft ddiwygiedig o Strategaeth y Comisiwn.