Cyfarfodydd

Cydraddoldebau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 10/07/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Darparu Cynhyrchion Gofal Personol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad ar ôl y chwe mis cyntaf o ddarparu cynhyrchion mislif am ddim yn yr holl dai bach ar Ystâd y Senedd, yn dilyn cymeradwyaeth y Bwrdd Gweithredol o gynnig gan Ochr yr Undebau Llafur.


Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)

Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6
  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Cyflwynodd y Comisiynydd gyda’r portffolio Cydraddoldebau yr Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer 2022-23, a oedd yn adrodd ar gynnydd a wneir gan dimau ar draws Comisiwn y Senedd o ran cyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Comisiwn (2022-26).

Nododd y Comisiynwyr y penawdau o ddiddordeb ac eitemau newydd yn adroddiad eleni gyda'r bwriad o gynyddu tryloywder data a gwella hygyrchedd. Trafodwyd y data economaidd-gymdeithasol a lledaeniad daearyddol yr ymateb i recriwtio i swyddi’r Comisiwn.

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad i'w gyhoeddi, ynghyd â'r gyfres gysylltiedig o adroddiadau data Amrywiaeth a Chynhwysiant a fyddai'n cyflawni dyletswyddau'r sector cyhoeddus a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Cytunodd y Comisiynwyr hefyd ar y cynnig i adnewyddu aelodaeth y Comisiwn o Raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ar gyfer 2024/25.   


Cyfarfod: 11/07/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10
  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ddrafft. Croesawyd y cynnydd a wnaed ac roeddent yn gefnogol o’r camau nesaf a nodwyd, gan fyfyrio ar arwyddocâd yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y strategaeth.


Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Diweddariad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a fydd yn cael ei roi i’r Pwyllgor ynghylch y Gwaith Craffu ar Gyfrifon 2020-21. Bydd y llythyr yn cynnwys gwybodaeth am gynnydd wrth ymateb i’r argymhellion ynghylch gwaith y Comisiwn fel cyflogwr yn ei ymrwymiad parhaus i hybu cynhwysiant i bawb.


Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)

Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021-22

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17
  • Cyfyngedig 18
  • Cyfyngedig 19
  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2021-22 ynghyd â’r gyfres o adroddiadau data ar amrywiaeth a chynhwysiant a chynllun gweithredu cyfunol.

Croesawodd y Comisiynwyr yr adroddiad ar y gwaith a wnaed a'r camau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r adroddiad ar gyflog cyfartal a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, y bwlch cyflog ethnigrwydd a’r bwlch cyflog anabledd. Roedd y Comisiynwyr hefyd yn awyddus i feincnodi yn erbyn sefydliadau eraill.

Nododd y Comisiwn fod dadansoddiadau o gefndir economaidd-gymdeithasol ymgeiswyr am swyddi mewnol ac allanol wedi'u cynnwys. Hefyd, nodwyd y bydd data economaidd-gymdeithasol yn cael eu casglu ar gyfer gweithlu'r Comisiwn eleni ac y bydd dadansoddiad o’r data hyn yn cael ei gynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf.


Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar y fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2019-20 ar Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r adroddiad monitro data am y gweithlu ac arferion recriwtio, a'r adroddiad ar gyflog cyfartal a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ynghyd ag unrhyw gamau wrth symud i’r dyfodol.

Mae’r adroddiadau hyn yn amlinellu’r cynnydd gan dimau ar draws Comisiwn y Senedd wrth gyflawni ein hamcanion Amrywiaeth a Chynhwysiant a nodir yn y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant. Canolbwyntiodd trafodaethau’r Comisiynwyr ar y data BAME, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi gwelliannau pellach i ddenu ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a chefnogaeth i’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Trafododd y Comisiynwyr y cyflawniad diweddar o gyrraedd achrediad Platinwm Buddsoddwyr Mewn Pobl, a diolchwyd i'r staff am yr holl waith oedd ynghlwm wrth hynny.


Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad blynyddol drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 26
  • Cyfyngedig 27
  • Cyfyngedig 28
  • Cyfyngedig 29

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar y gyfres o adroddiadau sy'n ymdrin â gweithgareddau amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019. Fe wnaethant gefnogi'r cynnig i gyhoeddi'r adroddiad monitro ar ddata am y gweithlu a'r amrywiaeth o ran recriwtio ac adroddiad ar archwiliad cyflog cyfartal a'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel adroddiadau ar wahân er mwyn gwella tryloywder.

 

Croesawodd y Comisiynwyr y ffaith y byddai'r Comisiwn yn un o'r sefydliadau sector cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i gyhoeddi rhywfaint o'r data. 

 


Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad Blynyddol Drafft ar Amrywiaeth a Chynhwysiant

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32
  • Cyfyngedig 33

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad, a gyflwynwyd gan Joyce Watson fel y Comisiynydd Cyfrifol, ac y dylid cyhoeddi'r adroddiad terfynol.


Cyfarfod: 04/12/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adroddiad blynyddol ar Amrywiaeth a Chynhwysiant

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 36
  • Cyfyngedig 37
  • Cyfyngedig 38
  • Cyfyngedig 39

Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd ar gyfer y Pumed Cynulliad ac Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol

Papur 2 ac atodiadau

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 42
  • Cyfyngedig 43
  • Cyfyngedig 44

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ddrafft newydd a baratowyd i gymryd lle Cynllun Cydraddoldeb y Cynulliad 2012-16. Yn benodol, gwnaethant drafod agweddau ar y contractau a ddelir gan y Comisiwn.

 

Trafododd y Comisiynwyr hefyd gynnydd ar draws y Cynulliad yn erbyn camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb 2012-16, fel y nodir yn Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-16.  Gwnaethant ofyn am fanylion pellach ynglŷn â'r wybodaeth o ran proffiliau oedran yn yr adroddiad.

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21 a chytunwyd y bydd Joyce Watson, sef yr Aelod sy'n gyfrifol am y portffolio, yn arwain ar oruchwylio'r cynllun gweithredu corfforaethol. Hefyd, cytunodd y Comisiwn ar fersiwn ddrafft Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2015-16 yn barod i'w gyhoeddi.

 


Cyfarfod: 20/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2012-13

Cofnodion:

Mae'r Adroddiad Cydraddoldeb yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ôl cynllun Cydraddoldeb y Comisiwn ar gyfer 2012-16. Mae'r adroddiad yn nodi nifer o gyraeddiadau arwyddocaol dros y flwyddyn, ond hefyd mae'n cydnabod bod rhai cyfleoedd i wella. Diolchodd y Comisiynwyr i staff am eu hymrwymiad parhaus i ddarparu'r agenda cydraddoldeb a oedd yn parhau i ddangos cyfraniad cadarnhaol y Cynulliad yn y maes hwn. 

Cytunwyd ar yr adroddiad.


Cyfarfod: 12/07/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)

4 Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2011-12

Papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mae Comisiwn y Cynulliad yn llunio Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wnaed ar y camau a nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb 2008-2012. Mae'r adroddiad yn rhoi trosolwg o'r gwaith y mae staff y Comisiwn wedi ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng mis Ionawr 2011 a mis Mawrth 2012. 

Mae uchafbwyntiau'n cynnwys hyrwyddo cymryd rhan mewn democratiaeth drwy ymgyrch 'Pleidleisiwch 2011’; datblygu ffyrdd o ymgysylltu ag amrywiol grwpiau ledled Cymru; cefnogi rhwydweithiau staff; dod yn rhif 20 ym mynegai cydraddoldeb Stonewall 2012; cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan grwpiau amrywiol, a datblygu taflenni gwybodaeth i addysgu Aelodau am eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

Cymeradwyodd y Comisiynwyr waith y Tîm Cydraddoldeb a nodi'r llwyddiannau niferus yn ystod y cyfnod yr adroddwyd amdano.

 

Cytunwyd y byddai rhai newidiadau i'r adroddiad, gan gynnwys amlygu'r llwyddiannau mwyaf arwyddocaol yn fwy eglur a lleihau hyd cyffredinol y ddogfen, cyn ei chyhoeddi.


Cyfarfod: 02/02/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

2 Cynllun Cydraddoldeb Comisiwn y Cynulliad 2012-16

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchodd y Llywydd i Ross Davies am lunio a chyflwyno gwybodaeth ar gyfer Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall a nododd bod safle’r Cynulliad wedi gwella eto eleni i fod yr 20fed lle mwyaf ystyriol o bobl hoyw i weithio yn y DU, a’r trydydd yn y DU yn y categori Llywodraeth. Mynegodd y Comisiynwyr eu llongyfarchiadau i bawb oedd wedi cymryd rhan, yn ogystal â’r rhai sy’n ymwneud â’r rhwydwaith staff, sydd hefyd yn cynnwys staff cymorth Aelodau’r Cynulliad, ac a ddaeth i’r brig yn y categori rhwydwaith gorau Cymru eleni.

 

Cyflwynwyd y papur ar y cynllun cydraddoldeb gan Sandy Mewies AC.

 

Mae Deddf Cydraddoldeb 2012 yn nodi bod angen i’r Comisiwn gyhoeddi ei amcanion cydraddoldeb erbyn mis Ebrill 2012. Datblygwyd Cynllun Cydraddoldeb 2012-16, mewn ymgynghoriad ag Aelodau, eu staff a staff y Cynulliad, yn ogystal â phartneriaid allanol a rhanddeiliaid, i gynnwys dyletswyddau cyfreithiol y Comisiwn mewn cysylltiad â chydraddoldeb, ethos corfforaethol y Comisiwn, rolau a chyfrifoldebau, ein hamcanion mwyaf blaenllaw, y fethodoleg ar gyfer ymgynghori ar y cynllun a chynllun gweithredu. Er bod rhai o’r camau yn cynrychioli meysydd gwaith newydd, mae llawer ohonynt yn adeiladu ar y gwaith a wnaed hyd yma i ymgorffori cydraddoldeb yng ngwaith y Cynulliad.

 

Y Tîm Cydraddoldeb fydd yn cefnogi ac yn monitro’r Cynllun, unwaith y cytunir arno. Cyflwynir adroddiad blynyddol i’r Comisiwn ar gynnydd yn ôl y Cynllun bob mis Ebrill.

 

Canmolodd y Comisiynwyr y dulliau ymgynghori trwyadl a fu ar waith wrth ddatblygu’r cynllun a nodwyd ei fod yn adeiladu ar sylfeini cadarn. Trafodwyd y bydd angen sicrhau bod digon o ddata ar gael i fonitro’r cynllun, yn arbennig mewn cysylltiad â chyfansoddiad y gweithlu.

 

Cytunwyd bod y cynllun yn ddarn o waith sylweddol a thrwyadl. Diolchwyd i’r tîm Cydraddoldeb a phawb a fu’n ymwneud â’r gwaith o baratoi’r strategaeth am eu hymdrechion hyd yma.

 

Cytunwyd ar y Cynllun Cydraddoldeb 2012-16 yn ffurfiol gan y Comisiwn.

 

Cam i’w gymryd: Swyddogion i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir i wella dulliau monitro’r gweithlu. Bydd adolygiad llawn o’r cynllun ym mis Ebrill 2013.