Cyfarfodydd

P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw'r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/12/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ddarparu crynodeb o'r sefyllfa a gasglwyd gan fyrddau iechyd ac i rannu'r ymatebion a gafwyd. Cytunodd hefyd i ofyn am ymateb pellach yn amlinellu pa gamau pellach y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni'r cyfleusterau a'r gwasanaethau a amlinellwyd.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw’r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy’n colli plentyn drwy gamesgoriad.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn iddo ymyrryd i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cael ei gefnogi a’i alluogi i ddarparu cyfleusterau ar wahân i bobl sy’n mynd drwy gamesgoriad.

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at bob bwrdd iechyd i dynnu sylw at y ddeiseb a’r materion a godwyd gan y deisebydd a gofyn:

 

  • am wybodaeth ynghylch darparu cyfleusterau yn eu hysbytai ar gyfer cefnogi teuluoedd sy’n profi camesgoriad, ac yn benodol a oes cefnogaeth ar gael ar wahân i wardiau mamolaeth neu a ellid ei gwella yng ngoleuni profiad y deisebydd; ac
  • am fanylion gwasanaethau cymorth parhaus sydd ar gael i deuluoedd sydd mewn profedigaeth, drwy gamesgoriad a thrwy achosion eraill.

 

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-965 Annog y Llywodraeth i gyflwyno ward ar wahân, heblaw'r ward famolaeth, ar gyfer teuluoedd sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf, gan gydnabod y trawma y mae rhieni’n ei brofi wrth golli babi, a dymunodd ddiolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y materion hyn. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn beth y mae'r Gweithgor yn ei wneud yn benodol i sicrhau bod gan bobl sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad fynediad i fannau a chyfleusterau sy'n briodol i'w sefyllfa, ac a ellir ystyried argymhellion adroddiad Triniaeth Deg i Fenywod Cymru fel rhan o hyn.