Cyfarfodydd
NDM7342 Dadl Plaid Cymru - Cwricwlwm Newydd Arfaethedig
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 01/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 11)
- Gweddarllediad ar gyfer 01/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 01/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dadl Plaid Cymru - Cwricwlwm Newydd Arfaethedig
NDM7342 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn datgan cefnogaeth
gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i
ddatblygu fel:
a) dysgwyr
uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;
b) cyfranwyr mentrus,
creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
c) dinasyddion
egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac
d) unigolion iach,
hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
2. Yn cytuno bod
cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl
anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.
3. Yn croesawu
cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd
camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i
bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y
bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.
4. Yn cytuno y dylai’r
elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:
a) hanes pobl ddu
a phobl o liw; a
b) hanes Cymru.
5. Yn cytuno y dylai’r
cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg,
ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol
er mwyn cyflawni’r nod hwn.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le:
Yn cytuno y gall y
cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion
hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag
anghyfiawnder o bob ffynhonnell.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a
rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o
ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo
dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi
dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar
o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”
Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag
Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i
hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru
a thu hwnt; a
b) sefydlu gweithgor i
oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr
adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a
phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Yn cytuno y dylai’r
cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.
Cwricwlwm i Gymru -
Y Dyniaethau – Canllawiau
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff
gwelliannau 3 a 4 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4, dileu
is-bwyntiau 4(a) a 4(b) a rhoi yn eu lle:
hanes Cymru; hanesion
y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon; a hanesion rhannau eraill o'r byd, a
bod:
(i) pob un o'r uchod i
gynnwys hanes pobl dduon a phobl o liw; a
(ii) pob un o'r uchod
yn cael eu rhoi mewn cyd-destun;
addysgu sgiliau achub bywyd,
fel y nodwyd yn flaenoriaeth gan y Senedd Ieuenctid.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le:
Yn cytuno y dylai'r
cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg,
gan sicrhau bod cymorth ar gyfer dysgu Cymraeg yn ystyried yr effaith
fanteisiol a geir eisoes yn sgil y ffaith bod dysgwyr o dan ddylanwad
amgylcheddol amlycach i’r Saesneg.
Gwelliant 5 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn
cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar
gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.
Gwelliant 6 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y cwricwlwm
newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn
yr ysgol.
Gwelliant 7 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r ffordd
orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint
dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.
Gwelliant 8 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm
newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd
arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;
b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd
a gwaith;
c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac
d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau
gwerthfawr o gymdeithas.
2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i
unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.
3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar
lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu
gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol
sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o
ganlyniad.
4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:
a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a
b) hanes Cymru.
5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl
yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y
rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
1 |
46 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le:
Yn cytuno y gall y
cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion
hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag
anghyfiawnder o bob ffynhonnell.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
4 |
42 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a
rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod bod
canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo
dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi
dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar
o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”
Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag Estyn
er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i
hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru
a thu hwnt; a
b) sefydlu gweithgor i
oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau
neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau
pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Yn cytuno y dylai’r
cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
4 |
22 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol
Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn
cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar
gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y cwricwlwm
newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn
yr ysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
40 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r ffordd
orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint
dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
1 |
14 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm
newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd
arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;
b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd
a gwaith;
c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac
d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau
gwerthfawr o gymdeithas.
2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i
unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.
3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar
lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu
gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol
sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o
ganlyniad.
4. Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y
Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng
Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel
dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”
5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru
yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a
lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a
b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac
adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â
chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd
ethnig.
6. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu
Cymraeg a Saesneg.
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
14 |
12 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.