Cyfarfodydd
Protocol Cyllidebau rhwng Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 21/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Cynnig i gymeradwyo protocol ynghylch newidiadau i’r cynnig cyllidebol
NDM4948 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo'r
Protocol ynghylch Newidiadau
i Gynnig y Gyllideb, a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor sy'n gyfrifol
am y swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog
19.
Gosodwyd y Protocol ynghylch Newidiadau
i Gynnig y Gyllideb gerbron y Cynulliad ar 14 Mawrth 2012.
Dogfen Ategol:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.57
NDM4948 Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo'r Protocol ynghylch Newidiadau i Gynnig y Gyllideb, a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 19.
Gosodwyd y Protocol ynghylch Newidiadau i Gynnig y Gyllideb gerbron y Cynulliad ar 14 Mawrth 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 25/01/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)
Protocol y Gyllideb Ddrafft gyda Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/1)
- Cyfyngedig 5 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (9/2)
Cofnodion: