Cyfarfodydd

P-05-1006 Rhyddhau'r £59 miliwn o bunnoedd i'r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 17/11/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-05-1006 Rhyddhau'r £59 miliwn o bunnoedd i'r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y sail nad oes llawer mwy y gellid ei wneud ar hyn o bryd, yn sgil y cymorth ariannol sydd bellach ar gael i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw a goruchwyliaeth barhaus y grŵp rhanddeiliaid cerddoriaeth COVID-19 yn y maes hwn.

 

 


Cyfarfod: 29/09/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 P-05-1006 Rhyddhau’r £59 miliwn o bunnoedd i’r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ofyn:

 

  • pam na ddefnyddiwyd y cyllid canlyniadol llawn o £59 miliwn ar gyfer y Gronfa Adferiad Diwylliannol; a
  • sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddi i sicrhau bod adeiladau a ddefnyddir fel lleoliadau cerdd yn cael eu gwarchod yn ystod y pandemig ac nad ydynt yn cael eu colli i’w hailddatblygu neu at ddibenion eraill.

 

Nododd y Pwyllgor fwriad i gau’r ddeiseb ar ôl cael y wybodaeth hon.