Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-Drin Domestig

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 26)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-Drin Domestig

NDM7649 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cam-drin Domestig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Awst 2020 a 20 Ionawr 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Cam-drin Domestig (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 3)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.43

NDM7649 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cam-drin Domestig i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Awst 2020 a 20 Ionawr 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Cam-drin Domestig (Saesneg yn unig)

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 22/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig – trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-06-21 – Papur 32 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd arno.  Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 08/02/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cam-drin Domestig – trafod y materion allweddol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

CLA(5)-05-21 – Papur 32 – Cyngor cyfreithiol

CLA(5)-05-21 – Papur 33 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 16 Rhagfyr 2020

CLA(5)-05-21 – Papur 34 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 15 Hydref 2020

CLA(5)-05-21 – Papur 35 – Llythyr at y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 13 Hydref 2020

CLA(5)-05-21 – Papur 36 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 6 Hydref 2020

CLA(5)-05-21 – Papur 37 – Llythyr at y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, 30 Medi 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru ar y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 28/01/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Cam-drin Domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad ar y  Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol.

 


Cyfarfod: 26/01/2021 - Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd ar ddyddiad cau diwygiedig o 25 Chwefror i’r Pwylgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cam-drin Domestig at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda'r un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.

 

 


Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y Bil Cam-drin Domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.6.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.

 


Cyfarfod: 11/01/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Bil Cam-drin Domestig

CLA(5)-01-21 - Papur 69 - Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, 16 Rhagfyr 2020

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.7.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.

 


Cyfarfod: 02/11/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan Gymorth i Fenywod Cymru ynghylch y Bil Cam-drin Domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.6.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gymorth i Fenywod Cymru ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.

 


Cyfarfod: 19/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cam-drin Domestig

CLA(5)-30-20 – Papur 42 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, 15 Hydref 2020

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

 


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig.

 


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig - trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu ymateb ar y cyd gyda'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

 


Cyfarfod: 12/10/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cam-drin Domestig: Trafod gohebiaeth

CLA(5)-29-20 – Papur 46 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, 6 Hydref 2020

CLA(5)-29-20 – Papur 47 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cam-drin Domestig a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am eglurhad pellach cyn drafftio ei adroddiad.

 


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd (Eitem 2)

2 Ystyriaeth o’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.

 


Cyfarfod: 28/09/2020 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cam-drin Domestig - trafod materion allweddol

CLA(5)-27-20 – Papur 52 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

CLA(5)-27-20 – Papur 53 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Cam-drin Domestig, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.