Cyfarfodydd

Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 02/10/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Porthladdoedd a Thrydaneiddio Rheilffordd - craffu dilynol

Edwina Hart AC, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
James Price,
Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Jeff Collins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Seilwaith, Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

3.2 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ddychwelyd i’r Pwyllgor ar gyfer craffu pellach ar ganlyniad ei thrafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ynglŷn ag ariannu trydaneiddio.

3.3 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru.

3.4 Cytunodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor pan fydd ganddi ragor o wybodaeth am y digwyddiad yn y gogledd o ran nam ar ddrws trên.

3.5 Cynigodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i ddarparu papur i’r Pwyllgor ar ddatblygu isadeiledd porthladdoedd yng nghyd-destun dinas-ranbarthau.

 

 


Cyfarfod: 03/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru

 

NDM5053 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Cysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2012.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

 

Dogfennau Ategol:

 

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:11

 

NDM5053 Nick Ramsay (Mynwy)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Cysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2012.

 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Medi 2012.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 

 


Cyfarfod: 30/05/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru: Trafod yr Adroddiad Drafft

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar wneud rhai gwelliannau a gaiff eu cytuno y tu allan i gyfarfod o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 24/05/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru: Trafod yr Adroddiad Drafft

Cofnodion:

5.1 Bu’r Aelodau’n trafod yr adroddiad. Bydd adroddiad drafft pellach yn cael ei drafod yn ddiweddarach.


Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)

1 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru: Trafod yr Adroddiad Drafft

Dogfennau ategol:

  • Draft Report (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a thrafodir adroddiad drafft arall rywbryd yn y dyfodol.


Cyfarfod: 22/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Papur 1

Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru

Ed Townsend, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio, Cyngor Dinas Casnewydd

Sheila Davies, Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer Adfywio a’r Amgylchedd, Cyngor Dinas Casnewydd

 

Papur 2

Fforwm Economaidd Gogledd Cymru

Sasha Wyn Davies, Cyngor Sir Ynys Môn (drwy fideogynadledda)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Ed Townsend a Sheila Davies o Fforwm Economaidd De-ddwyrain Cymru a Sasha Wyn Davies o Fforwm Economaidd Gogledd Cymru. Roedd Sasha Wyn Davies yn cymryd rhan drwy gyfrwng fideo gynhadledd. Holodd yr Aelodau y tystion.


Cyfarfod: 22/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Papur 4

Rail Freight Group

Robin Smith, Cynrychiolydd Cymru

 

Papur 5

Road Haulage Association

Peter Cullum, Pennaeth Materion Rhyngwladol

Papur 6

Freight Transport Association

Christopher Snelling, Pennaeth y Polisi ar Gludo Nwyddau ar Reilffyrdd a’r Gadwyn Gyflenwi Fyd-eang

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Robin Smith o’r Rail Freight Group, Peter Cullum o’r Road Haulage Association a Christopher Snelling o’r Freight Transport Association. Holodd yr Aelodau y tystion.

 


Cyfarfod: 22/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Papur 3

Edwina Hart AC – Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Carl Sargeant AC – Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau 

Jeff Collins, Cyfarwyddwr Cyflawni, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y ddau Weinidog a’u swyddogion. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

 


Cyfarfod: 22/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Papur 1

Cruise Cymru

Brian King, Is-gadeirydd

Wyn Parry, Aelod

 

Papur 2

Irish Ferries

Paddy Walsh, Rheolwr Porthladdoedd y Deyrnas Unedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Brian King o Cruise Wales a Paddy Walsh o Irish Ferries. Holodd yr Aelodau y tystion.


Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Papur 1

Alec Don, Prif Weithredwr, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau

 

Papur 2

Matthew Kennerley, Cyfarwyddwr Porthladd, De CymruCymdeithas Porthladdoedd Prydain

Papur 3
Ian Davies, Cyfarwyddwr Llwybr Coridor y De - Stena Line

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Alec Don a Mark Andrews o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Matthew Kennerley o Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a Ian Davies o Stena Line i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

Cytunodd Matthew Kennerley i ddarparu copi o lyfryn am barciau ynni yn ne-orllewin Lloegr i Aelodau.


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - sesiwn dystiolaeth

Flybe

Papur 2

Niall Duffy, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Materion Cyhoeddus

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Niall Duffy o Flybe. Bu’r Aelodau yn holi’r tystion.

 

Cytunodd Flybe i ddarparu rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor am y ffordd amlasiantaethol a gaiff ei defnyddio gan Finnair i ddatblygu llwybrau o fewn y Ffindir.


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - sesiwn dystiolaeth

Maes Awyr Caerdydd

Papur 1

Steve Hodgetts, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Masnach

Catrin Elis, Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Steve Hodgetts a Catrin Elis o Faes Awyr Caerdydd. Bu’r Aelodau yn holi’r tystion.


Cyfarfod: 08/03/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU

Papur 1

Jonathan Moor, Cyfarwyddwr, Awyrennu

Richard Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Masnach a Seilwaith Morol

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jonathan Moor a Richard Bennett o’r Adran Drafnidiaeth. Bu’r Aelodau yn holi’r tyst. 


Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth

Papur 2

Papur 3

Yr Athro Stuart Cole, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg

Martin Evans, Ysgol Fusnes Prifysgol Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Martin Evans a’r Athro Stuart Cole i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tystion.

 

3.2 Bydd y cwestiynau na chawsant eu gofyn yn cael eu hanfon at yr Athro Cole, a gytunodd i ddarparu nodyn.