Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Lluoedd Arfog

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 23/11/2021 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog

NDM7836 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Lluoedd Arfog i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil y Lluoedd Arfog

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7836 Hannah Blythyn (Delyn)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Lluoedd Arfog i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil y Lluoedd Arfog

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

11

50

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 22/11/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 5)

5 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i'w adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog, a bod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn o ran y Memorandwm wedi'i threfnu ar gyfer 23 Tachwedd.

 


Cyfarfod: 04/10/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol (Eitem 9)

9 Ystyriaeth o Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Lluoedd Arfog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd ac ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Yn amodol ar fân newidiadau, bydd yn cytuno ar yr adroddiad yn electronig.

 

 


Cyfarfod: 27/09/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 5)

5 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - adroddiad drafft

LJC(6)-07-21 – Papur 7 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd arno. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.

 


Cyfarfod: 13/09/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 11)

11 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Lluoedd Arfog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 22/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 10)

10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-10-21 – Papur 77 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd arno.

 


Cyfarfod: 15/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog - trafod yr adroddiad drafft

CLA(5)-09-21 – Papur 26 – Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog, a chytunodd i ystyried fersiwn ddiwygiedig yn ei gyfarfod nesaf.

 


Cyfarfod: 08/03/2021 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil y Lluoedd Arfog - trafod y materion allweddol

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

CLA(5)-08-21 – Papur 37 – Nodyn Cyngor Cyfreithiol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil y Lluoedd Arfog a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.