Cyfarfodydd

P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 04/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 3)

3 P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ohebiaeth gan y Bwrdd Iechyd, Cymdeithas yr Ysbytai Cymunedol a'r deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Bwrdd Iechyd i godi pryderon y deisebydd a Chymdeithas yr Ysbytai Cymunedol, a gofyn yn benodol am y canlynol:

  • diweddariad pellach ar ymdrechion recriwtio, gan gynnwys ymdrechion i recriwtio y tu allan i'r ardal (yn y DU);

manylion penderfyniad y Bwrdd Iechyd i dynnu’r hawl i ofyn cwestiynau i’r cyhoedd mewn cyfarfodydd cyffredinol yn ôl.

 


Cyfarfod: 11/12/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 5)

5 P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom ynghylch y diffyg cynnydd ers cau’r ysbyty’n gynharach eleni ar 13 Ebrill. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn gofyn am ddiweddariad chwarterol ar ba gamau a gymerwyd i recriwtio staff, a gofyn am ymateb i'r cwestiynau pellach a ddarparwyd gan y deisebydd.

 


Cyfarfod: 11/09/2023 - Y Pwyllgor Deisebau (Eitem 2)

2 P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb ar agor tan y ceir diweddariad o gyfarfod cyhoeddus Llais sydd wedi’i drefnu yn ddiweddarach ym mis Medi.

 

Yn ogystal â hyn, cytunodd y Pwyllgor i anfon y ddeiseb at i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gofyn beth sy'n cael ei wneud am y mater.