Cyfarfodydd

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Ystyried Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Matthew Richards - Uwch Gynghorydd Cyfreithiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Papur 1 – Ystyried Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y sefyllfa o ran talu cydnabyddiaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru a nodwyd bod y Prif Weithredwr a'r Clerc wedi ymgynghori â'r Prif Weinidog. Penderfynodd y Pwyllgor y dylai trefniadau talu cydnabyddiaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru aros fel y'u nodir yn ei amodau a thelerau cyfredol.


Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Ystyried cyngor cyfreithiol mewn perthynas ag Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Briff cyfreithiol – Adran 7, Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol gan staff y Comisiwn mewn perthynas ag adran 7 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.


Cyfarfod: 01/07/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Gohebiaeth gan Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Papur 2 - Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru.

 


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Goblygiadau'r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Trafod yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 30/04/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Goblygiadau Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Ystyried yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes ynghylch goblygiadau’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Llywydd yn argymell:

 

·         bod swyddogaethau cleient a goruchwylio’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn cael eu rhannu rhyngddo a phwyllgor arall;

·         bod y Pwyllgor Cyllid yn gyfrifol am ystyried, cymeradwyo a gwneud addasiadau i’r amcangyfrif o incwm a gwariant Swyddfa Archwilio Cymru.

·         y dylid sefydlu pwyllgor newydd gyda chyfrifoldeb am oruchwylio trefniadau llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru.


Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9.)

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir ar y cynnig

 

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.50

Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:

Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 05/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)

Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.44

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil

 

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1. Technegol a chanlyniadol

28, 29, 14, 26, 15A, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24

2. Cynllun dirprwyo

2, 3

 

3. Aelodau sy’n gyflogeion SAC

4, 5, 6, 7, 25

 

4. Cynllun blynyddol

8, 9, 11

 

5. Paratoi adroddiadau interim

10, 12, 13

 

6. Trosglwyddo staff i SAC

1*, 1A*, 27

* Caiff y gwelliannau hyn eu gwaredu yn y drefn a ganlyn—1A, 1

Dogfennau Ategol:
Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.20

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.

Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:

1. Technegol a chanlyniadol

28, 29, 14, 26, 15A, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24

2. Cynllun dirprwyo

2, 3

 

3. Aelodau sy’n gyflogeion SAC

4, 5, 6, 7, 25

 

4. Cynllun blynyddol

8, 9, 11

 

5. Paratoi adroddiadau interim

10, 12, 13

 

6. Trosglwyddo staff i SAC

1*, 1A*, 27

* Caiff y gwelliannau hyn eu gwaredu yn y drefn a ganlyn—1A, 1

Cynhaliwydy pleidleisiau yn y drefn a nodir yn y Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli:

Derbyniwyd gwelliant 28 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 29 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ni chynigwyd gwelliant 25.

Derbyniwyd gwelliant 8 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 9 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 10 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 11 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 12 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 13 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1A yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 27 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Ni chynigwyd gwelliant 26.

Ni chynigwyd gwelliant 15A.

Derbyniwyd gwelliant 15 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 16 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 17 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 18 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 19 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 20 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 21 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 22 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 23 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd gwelliant 24 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Barnwyd bod holl adrannau ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.


Cyfarfod: 28/01/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 2 – Ystyried Gwelliannau

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, bydd y Pwyllgor yn gwaredu’r gwelliannau i’r Bil yn y drefn a ganlyn:

 

Adrannau 1-37

Atodlenni 1-4

 

Dogfennau ategol:

Rhestr o welliannau wedi’u didoli

Grwpio gwelliannau

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

 

Cofnodion:

2.1 Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, bydd y Pwyllgor yn gwaredu â gwelliannau i’r Bil yn y drefn a ganlyn:

 

Adran 1:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 1 wedi’i derbyn.

 

Adran 2:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 2 wedi’i derbyn.

 

Adran 3:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 3 wedi’i derbyn.

 

Adran 4:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 4 wedi’i derbyn.

 

Adran 5:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 5 wedi’i derbyn.

 

Adran 6:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 6 wedi’i derbyn.

 

Adran 7:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 7 wedi’i derbyn.

 

Adran 8:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 8 wedi’i derbyn.

 

Adran 9:

Tynnwyd gwelliant 37 (Aled Roberts) yn ôl.

 

Adran 10:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 10 wedi’i derbyn.

 

Adran 11:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 11 wedi’i derbyn.

 

Adran 12:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 12 wedi’i derbyn.

 

Adran 13:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 13 wedi’i derbyn.

 

Adran 14:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 14 wedi’i derbyn.

 

Adran 15:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 15 wedi’i derbyn.

 

Adran 16:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 16 wedi’i derbyn.

 

Adran 17:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 17 wedi’i derbyn.

 

Adran 18:

 

Derbyniwyd gwelliant 1 (Jane Hutt) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Derbyniwyd gwelliant 2 (Jane Hutt) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Derbyniwyd gwelliant 3 (Jane Hutt) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Adran 19:

 

Derbyniwyd gwelliant 4 (Jane Hutt) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Ni chynigiwyd gwelliant 44 (Aled Roberts).

 

Derbyniwyd gwelliant 5 (Jane Hutt) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Adran 20:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 20 wedi’i derbyn.

 

Adran 21:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 21 wedi’i derbyn.

 

Adran 22:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 22 wedi’i derbyn.

 

Adran 23:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 23 wedi’i derbyn.

 

Adran 24:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 24 wedi’i derbyn.

 

Adran 25:

 

Derbyniwyd gwelliant 6 (Jane Hutt) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Adran 26:

 

Derbyniwyd gwelliant 7 (Jane Hutt) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).

 

Adran 27:

Ni chafodd gwelliannau eu cyflwyno i’r adran hon, felly bernir bod Adran 27 wedi’i derbyn.

 

Adran 28:

Ni chafodd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)

Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

NDM5112 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.22

NDM5112 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69(ii), sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

NDM5111 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

Gosodwyd Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2012.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2012.

Dogfennau Ategol

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Memorandwm Esboniadol

Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifron Cyhoeddus
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol



Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

NDM5111 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

Gosodwyd y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2012.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 23 Tachwedd 2012.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 19/11/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Adroddiad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Papurau:

CLA(4)-23-12(p4)Llythyr oddi wrth y Cadeirydd i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ dyddiedig 9 Hydref 2012

CLA(4)-23-12(p5)Ymateb y Gweinidog dyddiedig 25 Hydref 2012

CLA(4)-23-12(p6)Adroddiad drafft

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 19/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafoddodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 


Cyfarfod: 06/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - themâu allweddol a materion sy'n dod i'r amlwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ystyriodd y Pwyllgor y themâu allweddol a’r materion a ddaeth i’r amlwg yn ystod y gwaith craffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 


Cyfarfod: 22/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan y Comisiwn Archwilio a’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ fel rhan o waith craffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn Nghyfnod 1.

 

Cam i’w gymryd:

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am sicrwydd pellach ar y materion canlynol

 

  • y bydd telerau ac amodau staff Swyddfa Archwilio Cymru yn cael eu diogelu ar ôl trosglwyddo o gyflogaeth yr Archwilydd Cyffredinol i Swyddfa Archwilio Cymru newydd ac y bydd y trefniadau trosglwyddo yn cydymffurfio’n llwyr â thelerau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981;
  • na fydd creu Swyddfa Archwilio Cymru newydd yn arwain at unrhyw rwymedigaethau treth ychwanegol;
  • na fydd y trefniadau newydd yn gwahardd neu’n atal yr Archwilydd Cyffredinol rhag cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol.

 

 


Cyfarfod: 22/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Nicola Charles, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt, yr Aelod sy’n Gyfrifol am y Bil a’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; a Nicola Charles, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru.

 

Cam i’w gymryd:

 

6.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn atodol i’r Pwyllgor ar:

 

·         y rhyngberthynas rhwng Awdurdod yr Heddlu a’r Prif Gwnstabl;

·         enghreifftiau o fodelau bwrdd goruchwyliol a gweithredol sy’n gweithredu mewn perthynas â swyddogaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru;

·         sut, o dan y darpariaethau yn y Bil, y byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn parhau i allu rhoi trefniadau sicrhau ansawdd cadarn ar waith y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol er mwyn parhau i gydymffurfio â Safonau Archwilio Rhyngwladol.


Cyfarfod: 22/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan y Comisiwn Archwilio

PAC(4) 22-12 – Papur 2 – Tystiolaeth gan y Comisiwn Archwilio

 

Martin Evans

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Martin Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Polisi Archwilio, y Comisiwn Archwilio.


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Athro Heald a Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU fel rhan o’r gwaith o graffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 1.


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan Reolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU

Amyas Morse, Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Amyas Morse, Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol y DU.


Cyfarfod: 16/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan yr Athro David Heald

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro David Heald.


Cyfarfod: 08/10/2012 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)

5. Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Papers:

CLA(4)-20-12(p1) – Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru

CLA(4)-20-12(p2) – Memorandwm Esboniadol

CLA(4)-20-12(p3) – Adroddiad y Cynghorwyr Cyfreithiol

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) a Prospect fel rhan o’i waith craffu Cyfnod 1 ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).

 


Cyfarfod: 01/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan Prospect ac Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS)

Gareth Howells, Prospect

David Rees, Prospect

Ben Robertson, Undeb y PCS

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ben Robertson, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS); Gareth Howells, Prospect; a David Rees, Prospect.

 

 

 


Cyfarfod: 01/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru): Cyfnod 1 - Tystiolaeth gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)

Vernon Soare, Cyfarwyddwr Gweithredol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vernon Soare, Cyfarwyddwr Gweithredol, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW).

 

Cam gweithredu:

 

2.2 Cytunodd Mr Soare i anfon nodyn ychwanegol at y Pwyllgor yn nodi a yw ICAEW yn cefnogi’r model corff corfforaethol a sefydlwyd ar gyfer y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) yn Lloegr.

 

 


Cyfarfod: 24/09/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ystyried tystiolaeth ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ac Archwilydd Cyffredinol Cymru fel rhan o waith craffu Cyfnod 1 ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru).


Cyfarfod: 24/09/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Tystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

PAC(4) 17-12 – Papur 2 – Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mike Usher, Cyfarwyddwr Grŵp – Archwilio Ariannol

Martin Peters, Rheolwr Cydymffurfio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Mike Usher, Cyfarwyddwr y Grŵp – Archwilio Ariannol, Swyddfa Archwilio Cymru; a Martin Peters, Rheolwr Cydymffurfiaeth, Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Pwynt Gweithredu:

 

6.2 Cytunodd Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddarparu nodyn atodol i’r pwyllgor ar:

·         ei amcangyfrif o oblygiadau ariannol y Bil,

·         a’i bryderon yn ymwneud â threfniadau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau ar gyfer trosglwyddo staff i’r Swyddfa Archwilio Cymru newydd a sefydlir gan y Bil.


Cyfarfod: 24/09/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaeth Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Nicola Charles, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

5.1 Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, sef yr Aelod sy’n gyfrifol am y Bil; Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; a Nicola Charles, Gwasanaeth Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru.


Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ystyried Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei gylch gorchwyl a’i ddull o graffu ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) a chytunodd i lansio ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan.