Cyfarfodydd
Cyllid Iechyd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 12/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Trafod y dystiolaeth
Cyfarfod: 12/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Tystiolaeth gan Gonffederasiwn GIG Cymru
PAC(4)-29-13
papur 1
Helen
Birtwhistle – Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru
Allison
Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Holodd y Pwyllgor Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr
Conffederasiwn GIG Cymru, ac Allison Williams, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm
Taf, ynghylch y Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt.
Camau gweithredu:
Cytunodd Allison Williams i anfon nodyn ar sefyllfa
ariannol Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn seithfed mis y flwyddyn ariannol hon.
Cytunodd Allison Williams i anfon nodyn ar gyfanswm y
cyffuriau a gafodd eu gwastraffu gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf ym mlwyddyn ariannol
2012-13.
Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt: Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
6.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ynghylch Cyllid Iechyd 2012-13 a
thu hwnt.
Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-28-13
papur 1
David
Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif
Weithredwr, GIG Cymru
Kevin Flynn
- Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru
Martin
Sollis - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Holodd
y Pwyllgor David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Kevin Flynn, Dirprwy Brif
Weithredwr GIG Cymru a Martin Sollis, Cyfarwyddwr Cyllid Llywodraeth Cymru,
ynghylch Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt.
Camau
gweithredu:
·
Cytunodd Mr
Sissling i anfon manylion y costau yr eir iddynt gan Fyrddau Iechyd ar gyfer
cymorth allanol i reoli cyllidebau.
·
Cytunodd Mr
Sissling i anfon manylion am Fformiwla Townsend.
·
Cytunodd Mr
Sissling i anfon nodyn yn rhoi manylion am y dadansoddiad a wnaed o achosion o
ganslo triniaethau dewisol yn ystod y gaeaf 2012/13.
Cyfarfod: 05/11/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt: Tystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
PAC(4)-28-13
papur 2
Adam
Cairns, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Holodd
y Pwyllgor Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
ynghylch Cyllid Iechyd 2012-13 a thu hwnt.
Cam
gweithredu:
·
Cytunodd Mr
Cairns i anfon nodyn ynglŷn â sut yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfrifo’r
ffigur a roddwyd i nodi bod y contract meddygon ymgynghorol yn llai effeithiol,
sef 14%.
·
Cytunodd Mr
Cairns i anfon nodyn ynghylch nifer bresennol y cleifion yn y Bwrdd Iechyd a
oedd yn aros i’w gofal gael ei drosglwyddo.
Cyfarfod: 28/01/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Ystyried adroddiad drafft ar Gyllid Iechyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6/1)
Cofnodion:
6.1 Trafododd y
Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Gyllid Iechyd a chytunodd i’w ystyried
ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ar Gyllid Iechyd
Cofnodion:
4.1 Oherwydd
cyfyngiadau amser, ni thrafododd y Pwyllgor yr eitem hon.
Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol
Drwy Fideogynadledda: Bwrdd Iechyd Lleol
Betsi Cadwaladr (09.00 – 9.45)
Mary Burrows, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro
(9.45 – 10.30)
Adam Cairns, Prif Weithredwr,
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Kevin Orford, Cyforwyddwr Cyllid, Bwrdd
Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Mary Burrows, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
a Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd
Meddwl.
2.2 Holodd y
Pwyllgor y tystion.
Camau gweithredu:
Gofynnwyd i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddarparu:
·
nodyn
ynghylch faint o gyllid a ddarparwyd i awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd
sector i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau; a
·
ffigurau
yn rhoi manylion am gwynion ffurfiol, pryderon a chanmoliaeth a leisiwyd wrth y
Bwrdd Iechyd, gan gynnwys y patrymau dros y tair blynedd diwethaf. Nododd y
Pwyllgor y byddai hefyd yn gofyn am ffigurau tebyg gan Fyrddau Iechyd eraill.
2.3 Croesawodd y
Cadeirydd Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro;
a Kevin Orford, Cyfarwyddwr Dros Dro - Materion Ariannol, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
2.4 Holodd y
Pwyllgor y tystion.
Camau Gweithredu:
Gofynnwyd i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddarparu:
·
eglurhad
o sut mae’r Bwrdd Iechyd yn rhannu arfer da â sefydliadau eraill o ran prynu
defnyddiau traul yn effeithiol;
·
nodyn
ynghylch faint o gyllid a ddarparwyd i awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd
sector i gynorthwyo’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau.
Cyfarfod: 27/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Trafod y dystiolaeth ar Gyllid Iechyd
Cofnodion:
6.1 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunodd y Pwyllgor i drafod y dystiolaeth
a gafodd ar Gyllid Iechyd yn ei gyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 27/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Gonffederasiwn y GIG
Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y
Cadeirydd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru.
3.2 Holodd y
Pwyllgor y tyst.
Cyfarfod: 27/11/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Cyllid Iechyd - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4) 27-12 – Papur 1 – Lywodraeth Cymru
David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant
Kevin Flynn, Cyfarwyddwyr Cyflawni / Dirprwy Brif Weithredwr,
GIG Cymru
Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffael, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Dogfennau ategol:
- PAC(4) 27-12 (p1) Cyllid iechyd - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, Eitem 2 PDF 398 KB Gweld fel HTML (2/1) 80 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau
Cymdeithasol a Phlant; Kevin Flynn,
Cyfarwyddwr Cyflawni/Dirprwy Brif Weithredwr, GIG Cymru; ac Alan Brace,
Cyfarwyddwr Cyllid Interim.
2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y tystion.
Camau Gweithredu:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
·
Rhagor o wybodaeth am y costau sy’n gysylltiedig â’r
pecynnau diogelu cyflogau.
·
Rhagor o wybodaeth am sut mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro
Morgannwg wedi arbed arian wrth leihau ei weithlu.
·
Rhagor o wybodaeth am y cynnydd yn nifer y bobl hŷn sy’n cael
triniaeth mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gyllid Iechyd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
- Cyfyngedig 34
Cofnodion:
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod sut y dylai ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gyllid Iechyd.
Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
6 Sesiwn Friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd'
PAC(4) 16-12 – Papur 1 – Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyllid Iechyd’
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
6.1 Gwahoddodd y
Cadeirydd Archwilydd Cyffredinol Cymru (ynghyd â Gillian Body, Archwilydd
Cyffredinol Cynorthwyol, a Matthew Coe, Rheolwr Archwilio Ariannol) i roi briff
i’r Pwyllgor ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ‘Cyllid Iechyd.’
6.2 Cyflwynodd yr
Archwilydd Cyffredinol friff i’r Pwyllgor ar y prif faterion sy’n codi o’i
adroddiad ac atebodd gwestiynau’r Aelodau.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd yr
Archwilydd Cyffredinol i ddarparu:
·
Nodyn yn dweud pryd cafodd Byrddau
Iechyd Lleol gynnig broceriaeth gan Lywodraeth Cymru.
Cyfarfod: 17/07/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Opsiynau ar gyfer ymdrin ag adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 'Cyllid Iechyd'
Cofnodion:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor
i gynnal ymchwiliad i Gyllid Iechyd.