Cyfarfodydd

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2023-24

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 01/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 4 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: Ymateb i argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ail Gyllideb Atodol 2023-24 - 25 Ebrill 2024

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 24/04/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar ail gyllideb atodol 2023-24 – 18 Mawrth 2024

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 13/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 3)

Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-2024

NDM8493 Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Chwefror 2024.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a

(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad Pwyllgor y Llywydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.03 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

NDM8493Rebecca Evans (Gŵyr) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Chwefror 2024. 

Troednodyn: 

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: 

(i)y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; 

(ii)yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; 

(iii)cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; 

(iv)cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; 

(v)cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a 

(vi)manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A. 

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: 

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

27 

23 

51 

Derbyniwyd y cynnig. 

 


Cyfarfod: 06/03/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-07-24 P1 – Adroddiad drafft (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y gwaith Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2023-24 a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.

 


Cyfarfod: 29/02/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 5)

Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 29/02/2024 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 3)

3 Craffu ar Ail Gyllideb Atodol 2023-24 Llywodraeth Cymru

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2023-24

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth a Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol wrth Graffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

 

·         Nodyn ar y meysydd o'r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n tanwario ar hyn o bryd.

 

·         Nodyn ar lefel y cymhorthdal fesul teithiwr mewn perthynas â threnau yng Nghymru.