Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 13)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

NDM8509 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) - Biliau Seneddol - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8509 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Rhagfyr 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) - Biliau Seneddol - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

9

45

Derbyniwyd y cynnig.

 


Cyfarfod: 04/03/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 7)

7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau.


Cyfarfod: 07/02/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 6)

6 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1     Trafododd y Pwyllgor y Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw).

 


Cyfarfod: 05/02/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)

13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 31/01/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig (Eitem 2)

2 Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw)

Dogfennau ategol: