Cyfarfodydd
NDM8479 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 07/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 6)
- Gweddarllediad ar gyfer 07/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 07/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai
NDM8479 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu, er bod
angen o leiaf 12,000 o gartrefi newydd ar Gymru bob blwyddyn, bod Llywodraeth
Cymru wedi adeiladu prin hanner y nifer hwnnw dros y degawd diwethaf.
2. Yn cydnabod ffigurau
a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2023 bod 103,000 o anheddau sy'n
wirioneddol wag yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sefydlu tasglu
penodedig o gynllunwyr i fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y cynghorau â'r
perfformiad arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor;
b) cefnogi datblygwyr
bach yng Nghymru i adeiladu cartrefi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a
chynghorau lleol, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol o ran tai; ac
c) troi eiddo gwag yng
Nghymru yn ôl i fod yn gartrefi.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod:
a) bron i 90,000 o
aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd; a
b) 11,273 o unigolion
mewn llety dros dro ym mis Hydref 2023, a bod 3,403 ohonynt yn blant dibynnol o
dan 16 oed.
2. Yn gresynu:
a) mai dim ond 5,775 o
unedau mae Llywodraeth Cymru wedi eu darparu ers 2021, er gwaethaf y targed o
ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector
cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon; a
b) bod dros 139,000 o
gartrefi cymdeithasol ar rent wedi eu colli i'r farchnad agored erbyn i'r Hawl
i Brynu gael ei diddymu yng Nghymru yn 2019, gan gyfrannu'n fawr at yr argyfwng
tai presennol.
3. Yn credu:
a) mai'r ateb i argyfwng
tai Cymru yw cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ar gyfer aelwydydd
incwm canolig ac isel, i'w rhentu ac i'w prynu; a
b) y bydd sicrhau
cyfradd llawer uwch o gartrefi mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol hefyd
yn dylanwadu'n gadarnhaol ar fforddiadwyedd yn y farchnad dai ehangach.
4. Yn croesawu'r:
a) ymrwymiad yn y
Cytundeb Cydweithio i gyhoeddi Papur Gwyn sy'n nodi cynigion i sefydlu system o
renti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fwy fforddiadwy; a
b) diwygio radical ar
gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd a
ddatblygwyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym er mwyn cyrraedd
neu ragori ar y targed i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w
rhentu o fewn y sector cymdeithasol.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr heriau
y mae’r sector tai yn eu hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws
y Deyrnas Unedig.
2. Yn croesawu’r camau y
mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd a’i buddsoddiad mewn tai.
3. Yn nodi ymrwymiad
uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol,
carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
4.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd â Plaid Cymru, er mwyn
cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai
cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn
cael eu defnyddio unwaith eto.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8479 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu, er bod angen o
leiaf 12,000 o gartrefi newydd ar Gymru bob blwyddyn, bod Llywodraeth Cymru
wedi adeiladu prin hanner y nifer hwnnw dros y degawd diwethaf.
2. Yn cydnabod ffigurau a
ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2023 bod 103,000 o anheddau sy'n
wirioneddol wag yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) sefydlu tasglu penodedig o
gynllunwyr i fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y cynghorau â'r perfformiad
arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor;
b) cefnogi datblygwyr bach yng
Nghymru i adeiladu cartrefi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a chynghorau
lleol, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol o ran tai; ac
c) troi eiddo gwag yng Nghymru
yn ôl i fod yn gartrefi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod:
a) bron i 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai
cymdeithasol ar hyn o bryd; a
b) 11,273 o unigolion mewn llety dros dro ym mis Hydref
2023, a bod 3,403 ohonynt yn blant dibynnol o dan 16 oed.
2. Yn gresynu:
a) mai dim ond 5,775 o unedau mae Llywodraeth Cymru wedi
eu darparu ers 2021, er gwaethaf y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi carbon
isel newydd i'w rhentu o fewn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y
llywodraeth hon; a
b) bod dros 139,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent wedi
eu colli i'r farchnad agored erbyn i'r Hawl i Brynu gael ei diddymu yng Nghymru
yn 2019, gan gyfrannu'n fawr at yr argyfwng tai presennol.
3. Yn credu:
a) mai'r ateb i argyfwng tai Cymru yw cynyddu'r cyflenwad
o gartrefi fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm canolig ac isel, i'w rhentu ac
i'w prynu; a
b) y bydd sicrhau cyfradd llawer uwch o gartrefi mewn
perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol hefyd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar
fforddiadwyedd yn y farchnad dai ehangach.
4. Yn croesawu'r:
a) ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio i gyhoeddi Papur
Gwyn sy'n nodi cynigion i sefydlu system o renti teg a dulliau newydd o wneud
cartrefi'n fwy fforddiadwy; a
b) diwygio radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur
Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o'r Cytundeb
Cydweithio.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o
adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym er mwyn cyrraedd neu ragori ar y targed i
ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector
cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
40 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu
hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws y Deyrnas Unedig.
2. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu
cymryd a’i buddsoddiad mewn tai.
3. Yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i
ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol, carbon isel yn ystod tymor y
Llywodraeth hon.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd
â Plaid Cymru, er mwyn cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i
wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau
bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
15 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8479 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr heriau y mae’r sector tai yn eu
hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws y Deyrnas Unedig.
2. Yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu
cymryd a’i buddsoddiad mewn tai.
3. Yn nodi ymrwymiad uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i
ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol, carbon isel yn ystod tymor y
Llywodraeth hon.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd
â Plaid Cymru, er mwyn cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i
wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau
bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
15 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.