Cyfarfodydd
Busnes yr wythnos hon
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/02/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Busnes yr wythnos hon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Dydd Mawrth
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Dywedodd y
Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Pwyllgor y Senedd Gyfan yn
ymgynnull am gyfarfod byr, yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn, i ystyried cynnig i
gytuno ar y Drefn Ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru
(Aelodau ac Etholiadau).
Dydd
Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal cyn y Ddadl Fer.
·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.