Cyfarfodydd
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/02/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth
27 Chwefror 2024
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud) symudwyd ymlaen i 20 Chwefror
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog
Partneriaeth Gymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (30
munud)
Gofynnodd
Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar fuddsoddi mewn addysg a hyfforddi
gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a
gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 14 Chwefror.
Dywedodd y Trefnydd y byddai'r Llywodraeth yn ystyried y cais.
Gofynnodd
Darren Millar am ddatganiad llafar ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Dywedodd y
Trefnydd na fyddai datganiad llafar yn cael ei drefnu nes bod ymgynghoriad ar y
Cynllun wedi cau ar 7 Mawrth, ac y dylai'r Aelodau annog unrhyw un sydd â
diddordeb yn y ffordd y mae’r Cynllun wedi’i ddylunio achub ar y cyfle i ymateb
i'r ymgynghoriad.