Cyfarfodydd
Ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5.)
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid Buddsoddi i Arbed
NDM5246 Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fuddsoddi i Arbed a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 26 Mawrth 2013.
Nodyn:
Gosodwyd ymateb y Gweinidog Cyllid yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2013.
Dogfennau ategol:
Llythyr
gan y Gweinidog Cyllid i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.31
NDM5246 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Fuddsoddi
i Arbed a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 26 Mawrth 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid
Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Richard Clarke, Pennaeth yr Uned Buddsoddi i Arbed
Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig; a Richard Clarke, Pennaeth Buddsoddi i Arbed.
2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
·
Nodyn ar ddosbarthiad daearyddol
ceisiadau Buddsoddi i Arbed;
·
Nodyn yn esbonio sut mae Llywodraeth
Cymru yn sicrhau bod prosiectau yn glir o ran y meini prawf y mae angen iddynt
eu dilyn wrth wneud cais am gyllid Buddsoddi i Arbed;
·
Rhagor o fanylion am aelodaeth panel
cyfnod 2, gan gynnwys manylion am lefelau’r arbenigedd ar y paneli hynny, ac am
y camau a gymerir i sicrhau bod y broses yn codi llai o ofn ar y rhai sy’n
ymgeisio;
·
Eglurhad o sut bydd Llywodraeth Cymru
yn rheoli’r gred sydd ar led bod tebygrwydd rhwng y meini prawf asesu ar gyfer y
Gronfa Buddsoddi i Arbed a’r Gronfa Cydweithio Rhanbarthol;
·
Nodyn ar y gwahaniaeth rhwng y gwaith
gwerthuso a wnaed gan Brifysgol Abertawe ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Castell-nedd a Phort Talbot mewn perthynas â’r
prosiect Darbodus.
Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Trafod y dystiolaeth ynghylch Buddsoddi i Arbed
Cofnodion:
Cyfarfod: 16/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Buddsoddi i Arbed - Adborth ynghylch ymweliadau aelodau'r Pwyllgor
Cofnodion:
Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ystyried tystiolaeth ar y rhaglen Buddsoddi i Arbed
Cofnodion:
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar ei ymchwiliad i’r rhaglen Buddsoddi i Arbed.
Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Buddsoddi i Arbed - Cyfoeth Naturiol Cymru
FIN(4) 21-12 –
Papur 1 – Rhaglen Cymru Fyw
Gretel Leeb, Uwch
Swyddog Cyfrifol, Swyddog Gweithredol Rhaglen ‘Cymru Fyw’
Rob Bell, Adran
Gyllid, Rhaglen ‘Cymru Fyw’
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Gretel Leeb, Uwch Swyddog â Chyfrifoldeb, rhaglen Cymru Fyw; a Rob
Bell, yr Adran Gyllid, rhaglen Cymru Fyw, i’r cyfarfod.
2.2 Holodd y
Pwyllgor y tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd y
rhaglen Cymru Fyw ddarparu:
·
Rhagor
o wybodaeth am y pwerau benthyca sydd ar gael i’r rhaglen Cymru Fyw i ariannu’r
gwaith o sefydlu’r un corff amgylcheddol.
·
Rhagor
o wybodaeth am beth fyddai’r gwelliannau amgylcheddol a’r gwasanaethau i bobl a
busnesau o gyfanswm arbedion y prosiect.
Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
FIN(4) 20-12 - Papur 3 – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - Ymgyrch Wyn: Adennill a Chynnal Annibyniaeth
Fiona Jenkins,
Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd
Lynne Aston, Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol
Dogfennau ategol:
- FIN(4)-20-12 : Papur 3 - Bwrdd Lechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Ymgyrch Wyn : Adennill a Chynnal Annibyniaeth (Saesneg yn unig), Eitem 4 PDF 324 KB Gweld fel HTML (4/1) 246 KB
Cofnodion:
4.1 Croesawodd y Cadeirydd Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd.
4.2 Holodd yr Aelodau y tystion.
Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
FIN(4)-20-12 Papur 2 – Prosiect Pŵer Ffotofoltäig Solar Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Dr Rosie Plummer, Cyfarwyddwr
Clive Edwards, Rheolwr gweithrediadau a chyfleusterau
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Rosie Plummer, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Clive Edwards, Pennaeth Cyfleusterau, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, i’r cyfarfod.
3.2 Holodd yr Aelodau y tystion.
Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Buddsoddi i Arbed - Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd ar Buddsoddi i Arbed.
Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr
FIN(4)-20-12 Papur 1 – Prosiect Gwella eich Lle: Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr
David Sutherland, Pennaeth Technoleg, Eiddo a Gwasanaethau Cwsmeriaid
Dogfennau ategol:
- FIN(4)-20-12 (p1) Prosiect Gwella eich Lle: Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, Eitem 2 PDF 135 KB Gweld fel HTML (2/1) 21 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Sutherland, Pennaeth TGCh ac Eiddo, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i’r cyfarfod.
2.2 Holodd yr Aelodau y tyst.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd David Sutherland i ddarparu:
· Nodyn yn esbonio’r gwaith cynllunio ariannol a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran y prosiect Gwella Eich Lle, gan gynnwys a gafodd arian cyfatebol ei ddefnyddio.
Cyfarfod: 07/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Buddsoddi i Arbed - Trafod y dystiolaeth
Cofnodion:
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar yr ymchwiliad i Fuddsoddi i Arbed.
Cyfarfod: 07/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Buddsoddi i Arbed - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
FIN(4) 16-12 – Papur 1 – Llywodraeth Cymru
Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyllid ac Arweinydd y Tŷ
Richard
Clarke, Pennaeth y Uned Buddsoddi i Arbed
Jeff Andrews, Cynghorydd Arbennig
Dogfennau ategol:
- FIN(4) 19-12 (p1) Buddsoddi i Arbed - Llywodraeth Cynulliad Cymru, Eitem 2 PDF 172 KB Gweld fel HTML (2/1) 12 KB
- FIN(4) 19-12 (p1) Buddsoddi i Arbed - Llywodraeth Cynulliad Cymru - Atodiad 2 (Saesneg yn Unig), Eitem 2 PDF 132 KB Gweld fel HTML (2/2) 19 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt, y
Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ;
Jeff Andrews, Cynghorydd Arbenigol; a Richard Clarke, Pennaeth yr Uned
Buddsoddi i Arbed.
2.2 Craffodd yr
Aelodau ar waith y Gweinidog.
Camau Gweithredu:
Cytunodd Llywodraeth
Cymru i ddarparu:
·
Rhagor o wybodaeth
ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu’r saith argymhelliad a ddeilliodd
o werthusiad interim Buddsoddi i Arbed.
·
Tabl yn amlinellu
cyfanswm yr arbedion sydd wedi’u cyflawni gan brosiectau ers rhoi’r rhaglen
Buddsoddi i Arbed ar waith.
·
Tabl o’r holl
ad-daliadau a wnaed gan brosiectau Buddsoddi i Arbed ers rhoi’r rhaglen ar
waith.
·
Dadansoddiad
blynyddol o’r prosiectau a gafodd eu cyhoeddi ym mhob rownd Buddsoddi i Arbed
a’r dyfarniadau prosiect a gafodd eu cynnwys ym mhob dyraniad o’r gyllideb.