Cyfarfodydd

Rheoli Asedau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 06/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus

 

NDM5345 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Awst 2013.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2013.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

NDM5345 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Awst 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 10/07/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Rheoli Asedau yn y Sector Cyhoeddus - trafod yr adroddiad drafft

FIN(4)-13-13 papur 4

Dogfennau ategol:

  • Papur 4 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau drafftio.


Cyfarfod: 08/05/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Rheoli Asedau - (Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus) Arddangos ei system E-Pims

Cofnodion:

7.1 Arddangosodd Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus ei system E-Pims i’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Rheoli Asedau – Ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau.


Cyfarfod: 24/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Rheoli Asedau – Tystiolaeth gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

David Bentley, Pennaeth Rheoli Asedau, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus Cyfrifeg Eiddo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd David Bentley, Pennaeth Rheoli Asedau, y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) – Eiddo.

 

2.2 Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at David Bentley gyda’r cwestiynau canlynol, sy’n canolbwyntio’n benodol ar Reoli Asedau yng Nghymru:

 

·         Mae strategaeth gyfalaf Llywodraeth Cymru, y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (WIIP), yn cyfeirio at reoli asedau ond dim ond o ran nodi'r angen i ddefnyddio'r sylfaen asedau yn well.  Yn eich barn chi sut y dylai rheoli asedau yn y llywodraeth ganolog, ac yn y sector cyhoeddus ehangach, gael ei gysylltu â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn ymarferol?

·         Yn eich papur, gan gyfeirio at gynlluniau rheoli asedau llywodraeth leol Cymru, yr ydych yn nodi bod y rhan fwyaf o'r rhain yn cyfeirio i ryw raddau at amcanion strategol neu bolisi, ond rhaid bod y cyfeiriadau hyn yn rhai gwirioneddol yn ymarferol.  Yn eich profiad chi, a yw’n wir nad yw cysylltiadau o'r fath yn rhai gwirioneddol yn ymarferol, ac os yw rheoli asedau'n cael ei weld fel gwasanaeth cefnogi mewn rhai meysydd, fel y mae peth o'n tystiolaeth yn ei awgrymu, sut y gellir sicrhau bod cysylltiadau strategol o'r fath yn fwy diriaethol?

·         Yn eich papur mewn perthynas â gwersi a ddysgwyd o Gymru [tudalennau 13-14]  yr ydych yn rhoi deg enghraifft o lle yr ydych wedi rhoi cymorth i awdurdodau lleol mewn perthynas â rheoli eiddo.  A oedd y cyfan o'r rhain yn awdurdodau lleol o Gymru a sut y mae'r trefniadau hyn yn codi, er enghraifft a yw'r awdurdod yn cysylltu â chi am gymorth gyda phrosiect?


Cyfarfod: 18/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ystyried y Dystiolaeth ar Reoli Asedau

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ar ei ymchwiliad i Reoli Asedau.

 


Cyfarfod: 18/04/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Rheoli Asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Piers Bisson Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diwygio'r Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid

Sioned Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Eiddo

 

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth; Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Sioned Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Eiddo; a Deborah Paramore, Rheolwr Rhaglenni, Tîm Diwygio GwasanaethAU Cyhoeddus.

 

2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidogion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu’r canlynol:

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am arbedion a gafwyd o’r Strategaeth Lleoliad a gwaith rheoli’r ystâd weinyddol;

·         Rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella dibynadwyedd a chysondeb yn y gwaith o gyflwyno gwybodaeth er mwyn galluogi meincnodi a rheoli perfformiad;

·         Enghreifftiau o ble y defnyddiwyd ceisiadau llwyddiannus Buddsoddi i Arbed er mwyn mynd i’r afael â materion Rheoli Asedau;

·         Arbedion a wnaed gan ddefnyddio dull y Gweithgor Asedau Cenedlaethol, yn gymesur ag arbedion a wnaed gan fodel y Scottish Futures Trust.

 


Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mark Osland, Diprwy Gyfarwyddwr Cyllid, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Val Whiting, Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Mark Osland, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, yr Adran Iechyd Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant;  a Val Whiting, Pennaeth Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant i’r cyfarfod.

 

5.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu:

 

  • Rhagor o wybodaeth ynghylch trosglwyddo’r £35m o gyfalaf i refeniw a natur y prosiectau dan sylw a oedd yn hwyluso trosglwyddo'r arian hwn.
  • Rhagor o wybodaeth am y prosiectau sydd wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i wella trefniadau cydweithredu ar gyfer cyflenwi gwasanaethau.
  • Copi o ganllawiau Cod Ystadau..
  • Nodyn ar y gwahaniaethau o ran y driniaeth gyfreithiol / ariannol o drosglwyddo tir yn y GIG yn wahanol i sectorau eraill.

 

 


Cyfarfod: 06/03/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru

Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
James Price,  Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Chris Sutton, aelod o fwrdd Ardal Fenter Canol Caerdydd ac aelod o'r Gr
ŵp Gorchwyl a Gorffen Adolygu Ardrethi Busnes

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Croesawodd y Cadeirydd Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; Chris Sutton, Aelod o Fwrdd Parth Menter Canol Caerdydd ac Aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardrethi Busnes; a Tim Howard, Pennaeth Eiddo, Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i’r Cyfarfod.

 

6.2 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog.

 

 

 


Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gydwasanaethau GIG Cymru

FIN(4) 03-13 – Papur 1 – Cydwasanaethau GIG Cymru

 

Neil Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaeth Cyfleusterau, Cydwasanaethau GIG Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Neil Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwasanaethau Cyfleusterau, Cydwasanaethau GIG Cymru, i’r cyfarfod.

 

3.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tyst.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Cydwasanaethau GIG Cymru i ddarparu:

 

·         Astudiaethau achos sy’n dangos sut y mae GIG Cymru wedi cydweithio â chyrff cyhoeddus eraill ym maes rheoli asedau er mwyn gwella’r broses o ddarparu gwasanaethau.

·         Rhestr o enghreifftiau sy’n dangos lle mae cyrff sydd ynghlwm â GIG Cymru wedi defnyddio’r Protocol Trosglwyddo Tir yn effeithiol.


Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Christopher Chapman, Rheolwr RhaglenEffeithlonrwydd a Chaffael, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Jonathan Fearn, Cadeirydd Grŵp ar y Cyd CLAW/ACES ar Eiddo ac Ystadau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Christopher Chapman, Rheolwr Rhaglenni – Effeithlonrwydd a Chaffael, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a Jonathan Fearn, Cadeirydd Grŵp Eiddo ac Ystadau CLAW/ACES, i’r cyfarfod.

 

2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gan ofyn cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod trafodion y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Rheoli asedau - Tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

FIN(4) 03-13 – Papur 2 – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

 

Phil Fiander, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mathew Brown, Cymunedau Rheolwr Buddsoddi y Gronfa

Peter Williams, Cyfarwyddwr, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Phil Fiander, Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; Mathew Brown, Rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol; a Peter Williams, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru.

 

4.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu:

 

·         Nodyn yn amlinellu enghreifftiau o sefydliadu yn y sector gwirfoddol sy’n rheoli asedau fel adnoddau, a hynny er mwyn gwella’r broses o ddarparu gwasanaethau, ac sy’n gwneud hyn fel rhan o’u strategaeth gyffredinol.

 


Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

Ystyried y dystiolaeth ar Reoli Asedau

Cofnodion:

10.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ar reoli asedau, a thystion posibl ar gyfer y cyfarfodydd sydd i ddod.

 

10.2 Cytunodd y Pwyllgor i baratoi arolwg ar gyfer prif weithredwyr cyrff cyhoeddus er mwyn cael rhagor o dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad.


Cyfarfod: 30/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Rheoli Asedau - Tystiolaeth gan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus

FIN(4) 02-13 – Papur 2 – Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus

 

Dr Helen Paterson, Cadeirydd Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Sioned Evans, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr Helen Paterson, Cadeirydd Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; a Sioned Evans, Cymorth i’r Rhaglen Waith ynghylch Caffael a Rheoli Asedau, Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus, a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Eiddo, Llywodraeth Cymru.

 

5.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer yr adeiladau cyhoeddus y gellid eu defnyddio fel llety;

·         Sesiwn i ddangos i’r Aelodau sut mae e-PIMS, sef cronfa ddata eiddo y sector cyhoeddus, yn gweithio; 

·         Rhagor o wybodaeth ynghylch y naw prosiect peilot sy’n ymwneud â rheoli asedau a sut y cawsant eu dewis;

·         Nodyn ynglŷn â sut mae Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus yn mynd i’r afael â’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei adroddiad ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’ i nodi a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da gan y gwasanaethau brys i ddarparu gwasanaethau o fewn y gyllideb, i wneud defnydd da o gydweithio a darparu newid trawsffurfiol.

·         Copi electronig o ddogfen Llywodraeth Cymru ynghylch Cyflwr yr Ystad.

·         Rhagor o wybodaeth sy’n rhagamcanu nifer yr adeiladau sy’n rhan o ystad weinyddol Llywodraeth Cymru.

 

 

   


Cyfarfod: 30/01/2013 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ystyried y dystiolaeth ar Reoli Asedau

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer ei ymchwiliad i’r broses o Reoli Asedau.


Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Pennu cwmpas yr Ymchwiliad i Reoli Asedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau gwmpas ei ymchwiliad i Reoli Asedau.