Cyfarfodydd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Trosedd a Llysoedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 30/09/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd mewn perthynas â darpariaethau sy'n ymwneud â'r drosedd o gam-drin neu esgeulustod bwriadol gan weithwyr gofal
NDM5540 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol
a'r Llysoedd sy'n ymwneud â throsedd esgeulustod bwriadol neu gamdriniaeth gan
ofalwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24
Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd yma:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/criminaljusticeandcourts.html
(Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.05
NDM5540 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y
Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd sy'n ymwneud â throsedd esgeulustod
bwriadol neu gamdriniaeth gan ofalwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 24 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 18/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd: trafod yr adroddiad drafft
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
10.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd, a chytunodd arno.
Cyfarfod: 08/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd
NDM5549
Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau Yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r
Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio
dilysrwydd amrywiol orchmynion, camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill
sy’n ymwneud â chynllunio, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mai 2014 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25
Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae
copi o'r Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd i'w weld yma: http://services.parliament.uk/bills/2013-14/criminaljusticeandcourts.html
[ Saesneg yn unig]
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 17.42
NNDM5549 Carl Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd sy’n cyflwyno gofyniad
i gael caniatâd yr Uchel Lys cyn y ceir herio dilysrwydd amrywiol orchmynion,
camau, cynlluniau a dogfennau strategol eraill sy’n ymwneud â chynllunio, i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 03/07/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd: Ymateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio i'r llythyr gan y Cadeirydd ar 5 Mehefin
E&S(4)-17-14 paper 12
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
7.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.
Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Trosedd a Llysoedd mewn perthynas â Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
NDM5088 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried
darpariaethau yn y Bil Trosedd a Llysoedd sy’n diwygio adran 33(B) o Ddeddf
Diogelu’r Amgylchedd 1990 sy’n ymwneud â maint y digollediad y caiff llysoedd
ynadon ei orchymyn mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod a geir mewn perthynas
â chostau glanhau gwastraff a ollyngir, a drinnir neu a waredir yn
anghyfreithlon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2012 yn unol â Rheol
Sefydlog Rhif 29.2(iii).
Dogfennau Ategol
I weld copi o’r Bil ewch i:
http://services.parliament.uk/bills/2012-13/crimeandcourts/documents.html
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.47
NDM5088 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Trosedd
a Llysoedd sy’n diwygio adran 33(B) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 sy’n
ymwneud â maint y digollediad y caiff llysoedd ynadon ei orchymyn mewn
cysylltiad â cholled neu ddifrod a geir mewn perthynas â chostau glanhau
gwastraff a ollyngir, a drinnir neu a waredir yn anghyfreithlon, i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6
Tachwedd 2012 yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 07/01/2013 - Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Trosedd a Llysoedd
CLA(4)-01-13(p3) Adroddiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (6./1)