Cyfarfodydd

P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 P-04-490 Meddyginiaeth gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf.


Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn i'r Gweinidog pa gamau yr oedd wedi eu cymryd yn benodol i ymgynghori â chleifion HIV ynghylch y canllawiau; a

·         gofyn am farn grwpiau o gleifion HIV ynghylch y mater.

 


Cyfarfod: 25/03/2014 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         y Gweinidog i ofyn:

o   a yw ei swyddogion mewn sefyllfa i roi rhagor o fanylion ynghylch sut y penderfynwyd ar amcangyfrif o £15 miliwn a pha gyfran o hyn y gellir ei briodoli i arbedion ar feddyginiaethau HIV gwrth-retrofeirysol; ac

o   am wybodaeth benodol ynghylch y rhesymau dros hyd y cyfnodau presgripsiwn presennol am feddyginiaethau gwrth-retrofeirysol; ac

·         at y deisebydd yn gofyn am sylwadau ar lythyr y Gweinidog a gwybodaeth gysylltiedig.

 

 


Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn gofyn ei farn am sylwadau'r deisebydd.  Yn benodol:

 

·         i ba raddau y caiff clinigwyr wyro o'r canllawiau;

·         sut y cyfrifwyd yr amcangyfrif o £15-50 miliwn o arbedion, a'r rheswm am yr amrywiaeth eang yn y ddau ffigur; a

·         gofyn i'r Gweinidog a yw'r canllawiau'n cael eu defnyddio yn y GIG yn rhannau eraill y DU.

 

Hefyd, cytunodd y Pwyllgor, yng ngoleuni'r cyfeiriad yn llythyr y Bwrdd Iechyd Lleol, i ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd Lleol yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr asesiad a wnaed gan yr Ymgynghorwyr Iechyd Rhywiol o'r problemau a wynebwyd gan gleifion.

 

 


Cyfarfod: 18/06/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a

·         Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro yn holi eu barn am y ddeiseb.