Cyfarfodydd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gofal
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 27/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Gofal
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3b.1 Nododd y Pwyllgor y
llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â’r Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Gofal.
Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Gofal
NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud
â threfniadau cyfatebol y DU
ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau
parhad yn y gofal i oedolion
yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol
i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil
Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(i).
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 22 Gorffennaf 2013 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(i).
I weld copi o’r Bil
ewch i:
Bill documents — Care Bill [HL] 2013-14 — UK Parliament (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
17.48
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem
a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân.
NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud
â threfniadau cyfatebol y
DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau
parhad yn y gofal i oedolion
yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol
i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil
Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Gofal
NDM5331 Gwenda Thomas
(Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM5247,
y darpariaethau pellach hynny yn y Bil Gofal sy’n ymwneud â threfniadau
cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd
meddwl ar gyfer pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Hydref 2013 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch
i:
Bill documents
– Care Bill [HL] 2013-14 – UK Parliament (Saesneg un unig)
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
17.48
NDM5331 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig
NNDM5247, y darpariaethau pellach
hynny yn y Bil Gofal sy’n
ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd meddwl ar gyfer
pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cyfarfod: 13/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)
Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Gofal
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
1.1
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Gofal a chytunodd arno.
1.2
Cytunodd y Pwyllgor i osod yr Adroddiad cyn y terfyn amser a bennwyd gan y
Pwyllgor Busnes.
Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
8 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol: y Bil Gofal
Dogfennau ategol:
- HSC(4)-31-13 - Papur 5
- HSC(4)-31-13 - Papur 5 - Atodiad A
- HSC(4)-31-13 - Papur 5 - Atodiad B
Cofnodion:
8.1
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil
Gofal a chytunodd i ystyried adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf ar 13
Tachwedd 2013.
Cyfarfod: 07/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil Gofal - trefniadau cyfatebol ar gyfer awdurdodau lleol yn yr Alban
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
5.1 Nododd
y Pwyllgor y llythyr.
Cyfarfod: 17/10/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Gofal
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
- Cyfyngedig 24
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y memoranda diwygiedig ac atodol ar y Bil Gofal a chytunodd i ddychwelyd at y pwnc ar ôl y toriad hanner tymor.
Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gofal
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
- Cyfyngedig 29
- Cyfyngedig 30
- Cyfyngedig 31
Cofnodion:
7.1 Trafododd y Pwyllgor y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar gyfer y Bil Gofal.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad
ynghylch pam yr ymddengys nad yw'r Bil Gofal yn cynnwys gofyniad cyfatebol ar
awdurdodau lleol yn yr Alban i ddiwallu anghenion gofal a chymorth oedolion a
leolir yno gan awdurdodau lleol Cymru.
Cyfarfod: 09/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 12.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal - gohiriwyd
NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud â threfniadau
cyfatebol y DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau
parhad yn y gofal i oedolion yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn
ofynnol i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Dogfennau Ategol
Mae Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2013
yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bil Gofal 2013
(Saesneg yn unig)
Y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol y Bil Gofal
Cyfarfod: 20/06/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gofal -Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36
Cofnodion:
1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei
adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Gofal.
Cyfarfod: 12/06/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1)
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gofal
HSC(4)-19-13 papur 1
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 39
Cofnodion:
1.1 Bu’r Pwyllgor
yn ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i gyflwyno
adroddiad ar ei gasgliadau.