Cyfarfodydd

Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Deintyddol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/01/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Sesiwn ddilynol i'r sesiwn graffu gyffredinol gyda'r Prif Swyddog Deintyddol (Rhagfyr 2013)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

2.1 Ailedrychodd y Pwyllgor ar y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Swyddog Deintyddol yn ystod y sesiwn graffu gyffredinol a gynhaliwyd yn nhymor yr hydref a chytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 21/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Deintyddol - trafodaeth breifat i ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gynharach gyda’r Prif Swyddog Deintyddol.

 


Cyfarfod: 21/11/2013 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyffredinol gyda’r Prif Swyddog Deintyddol

Tystion:

David Thomas - Prif Swyddog Deintyddol

Lisa Howells - Uwch Swyddog Deintyddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu gyffredinol gyda David Thomas, y Prif Swyddog Deintyddol, a’i gydweithiwr Lisa Howells, sy’n Uwch-swyddog Deintyddol.

 

2.2 Cytunodd y Prif Swyddog Deintyddol i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor:

 

·         gwybodaeth ychwanegol am y gwerthusiadau a wnaed mewn perthynas â safon a chanlyniadau’r cynlluniau peilot deintyddol ar gyfer plant a phobl ifanc;

·         gwybodaeth ychwanegol am y rhesymau pam na chaiff dyraniadau cyllid i ddeintyddfeydd unigol eu cyhoeddi mwyach;

·         copi o ganllawiau diwygiedig Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ymdrin ag achosion o golli apwyntiadau, pan fyddant ar gael; 

·         nodyn ar y gwasanaethau orthodontig ychwanegol a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, a chopi o’r data ychwanegol ar weithgarwch orthodontig yng Nghymru y cyfeiriodd ato yn ystod y cyfarfod;

·         nodyn ar y camau y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn eu cymryd mewn perthynas â gwynnu dannedd ac achosion o roi triniaeth ddeintyddol yn anghyfreithlon;

·         gwybodaeth am nifer yr ymweliadau deintyddol i’r cartref a gynhaliwyd yng Nghymru y llynedd.