Cyfarfodydd

Gwasanaethau orthodontig yng Nghymru

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwasanaethau orthodontig yng Nghymru

NDM5590 David Rees (Aberafan)

 

Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2014.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2014.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.48

 

NDM5590 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


Cyfarfod: 02/07/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

 


Cyfarfod: 04/06/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dr Sandra Sandham, Cadeirydd y Grwp Ymgynhorol Strategol Orthodonteg

David Thomas, Prif Swyddog Deintyddol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Gweinidog yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ofyn i’r Athro Stephen Richmond ystyried yr angen am isafswm oedran ar gyfer atgyfeirio at wasanaethau orthodontig, ar wahân i’r 2% o blant a ddyfynnwyd gan y Prif Swyddog Deintyddol fel rhai sydd wedi’u nodi i fod ag angen am atgyfeirio cynnar.

 


Cyfarfod: 08/05/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 2

Cynrychiolwyr Byrddau Iechyd Lleol

·         Karl Bishop, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt (Deintyddiaeth), Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

·         Yr Athro Stephen Richmond, Athro mewn Orthodonteg, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro

·         Bryan Beardsworth, Arweinydd Gwasanaethau Deintyddol, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

·         Warren Tolley, Cynghorydd Deintyddol Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1     Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

7.2 Cytunodd Warren Tolley i ddarparu data i'r Pwyllgor ar y cyfraddau o ran triniaethau orthodontig arbenigol nad cynhaliwyd a'r effeithiau yn sgîl hynny.

 

7.3     Cytunodd Karl Bishop i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynglŷn â'r canlynol:

·         Nifer yr apwyntiadau yn yr ysbyty am wasanaethau orthodontig arbenigol a gollwyd;

·         Y trefniadau sydd ar waith o ran darparu gwasanaethau orthodontig arbenigol i unigolion a atgyfeiriwyd yn wreiddiol i gael eu hasesu a'u trin yn ardal bwrdd lleol arall.


Cyfarfod: 08/05/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i wasanaethau orthodontig yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 1

Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

·         Stuart Geddes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yng Nghymru

 

Cymdeithas Orthodontig Prydain

·         Peter Nicholson, Orthodontydd Ymgynghorol, Ysbyty Brenhinol Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

6.2 Cytunodd Peter Nicholson i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am nifer y bobl a gaiff eu hatgyfeirio flwyddyn yn gynnar a blwyddyn yn hwyr at wasanaethau orthodontig arbenigol, a rhagor o dystiolaeth i ategu'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â chynnydd yn nifer y darparwyr mawr corfforaethol sy'n cynnig gwasanaethau orthodontig arbenigol.