Cyfarfodydd
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015/16
NDM5621
Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer
2015-16, fel y pennir yn Nhabl 1 "Cynigion Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol
Cymru 2015-16", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd 2014 a'i bod
yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog
20.26(ii).
Dogfennau
Ategol:
Dogfen
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.05
NDM5621 Rosemary Butler
(Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16, fel y
pennir yn Nhabl 1 "Cynigion Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2015-16", a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Tachwedd 2014 a'i bod yn
cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog
20.26(ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 19/02/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Comisiwn y Cynulliad: Cyllideb Atodol 2013-14: Llythyr gan Angela Burns AC (12 Chwefror 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 14/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14
NDM5090 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14, fel y’i pennir yn Nhabl 1 “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2012 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii).
Dogfennau ategol:
Dogfen
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5090 Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14, fel y’i pennir yn Nhabl 1 “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2012 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 27/09/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb ddrafft 2013-14
Papur 2
Cofnodion:
Mae'r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn osod ei gyllideb ddrafft yn flynyddol erbyn 1 Hydref. Mae cyllideb ddrafft 2013-14 y Comisiwn yn nodi'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i ddarparu gwaith Gwasanaethau'r Cynulliad sy'n flaenoriaeth yn ogystal â'r gyllideb sydd ei hangen i ariannu Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.
Cytunodd y Comisiwn ar ei gyllideb ddrafft, a gofyn iddo gael ei osod yn unol â'r Rheolau Sefydlog. Bydd Angela Burns AC, y Comisiynydd â chyfrifoldeb dros adnoddau, yn mynd i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref 2012 i sesiwn graffu ar y gyllideb ddrafft.
Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am eu gwaith ar y gyllideb ddrafft hyd yma.
Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi gan y
byddai'r gyllideb ddrafft yn cael ei gosod y diwrnod canlynol.
Cam i'w gymryd: Swyddogion i osod dogfen cyllideb ddrafft 2013-14 gerbron y Cynulliad ar 28 Medi 2012
Cyfarfod: 12/07/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cyllideb ddrafft 2013-14
Papur 2
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Comisiynwyr eto eu hymrwymiad i weithio o
fewn y gwariant dangosol ar gyfer 2013-14 a nodwyd yn nogfen gyllidebol y
llynedd.
Mae disgwyl y bydd y Comisiwn yn cytuno ar y gyllideb yn
ei gyfarfod ar 27 Medi, cyn ei gosod gerbron y Cynulliad ar 28 Medi.
Cyfeiriodd y Comisiynwyr at y ddogfen sydd ar waith gan
ddiolch i'r swyddogion am eu gwaith ar gyllideb 2013-14.
Camau i'w cymryd: Bydd swyddogion yn parhau i weithio ar ddogfen y gyllideb yn ystod toriad yr haf, gan gynnwys y materion a drafodwyd yn y cyfarfod ynddi.