Cyfarfodydd

Maes Awyr Caerdydd - Y Pedwerydd Cynulliad

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Maes Awyr Caerdydd: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-10-16 Papur 5

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai newidiadau.

 


Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Chris Cain, Northpoint Aviation (23 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Undeb Rygbi Cymru - Cyfyngedig (24 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (24 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan James Price, Llywodraeth Cymru (24 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth ychwanegol gan Simon Jones, Cadeirydd Holdco (19 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (22 Chwefror 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.


Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 5

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Transport Scotland

 

John Nicholls, Cyfarwyddwr - Teithiau Awyrennau a Llongau,  Camlesi  a Chludo Nwyddau

Transport Scotland

Andrew Miller, Cadeirydd Maes Awyr Glasgow Prestwick

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Nicholls, Cyfarwyddwr, Teithiau Awyrennau a Llongau, Camlesi a Chludo Nwyddau Transport Scotland ac Andrew Miller, Cadeirydd Maes Awyr Glasgow Prestwick fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.


Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 4

PAC(4)-06-16 P1

PAC(4)-06-16 P2

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Arbenigwyr Teithiau Awyren a Thrafnidiaeth

 

Chris Cain - Cyfarwyddwr a Phennaeth Ymchwil, Northpoint Aviation

Yr Athro Stuart Cole CBE - Athro Emeritws Economeg a Pholisi Trafnidiaeth, Prifysgol De Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Chris Cain, Cyfarwyddwr a Phennaeth Ymchwil, Northpoint Aviation a'r Athro Stuart Cole CBE, Athro Emeritws Economeg a Pholisi Trafnidiaeth, Prifysgol De Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.


Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Llywodraeth Cymru

 

James Price - Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol, Llywodraeth Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i Lywodraeth Cymru yn caffael a pherchnogi maes awyr Caerdydd.

3.2 Cytunodd James Price i anfon y wybodaeth ganlynol at y Pwyllgor:

·         Rhestr o'r Cwmnïau Angori yng Nghymru ynghyd â'r meini prawf er mwyn bod yn Gwmni Angor;

·         Nodyn yn cynnwys ffigurau teithwyr a nifer yr hediadau dros y 25 mlynedd diwethaf;

·         Cynllun a rhestr o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gaffael;

·         Eglurhad o'r brys ynghylch pam bod rhaid cwblhau'r pryniant mewn amser byr a pham y defnyddiwyd gweithdrefn S128 yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006;

·         Manylion llawn o'r gwahanol brisiadau a wnaed cyn y caffaeliad;

·         Cadarnhad ynghylch a gynhaliwyd y gwerth tir gwreiddiol ar y safle fel maes awyr neu Werth Tir Gweddilliol safle'r maes awyr cyn adeg y pryniant;

·         A yw'r cyfrifiadau ar y Gwerth Tir Gweddilliol ar gael; a

Nodyn ar ba ddull prisio a ddefnyddiwyd i roi gwerth ar yr asedau yng nghyfrifon blynyddol Holdco.


Cyfarfod: 09/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Maes Awyr Caerdydd: Llythyr oddi wrth Roger Lewis, Cadeirydd - Maes Awyr Caerdydd (26 Ionawr 2016)

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 09/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 09/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn dystiolaeth 2

Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Cwmni Daliannol Llywodraeth Cymru (Cwmni DalLlC)

 

Simon Jones – Cadeirydd, Cwmni DalLlC, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Simon Jones o gwmni daliannol Llywodraeth Cymru (WGC Holdco), fel rhan o'r ymchwiliad i gamau Llywodraeth Cymru i gaffael Maes Awyr Caerdydd a'i pherchenogaeth ohono.

3.2 Cytunodd Simon Jones i anfon y wybodaeth a ganlyn i gynorthwyo ymchwiliad y Pwyllgor:

·       A dderbyniodd BA unrhyw gymhelliant ariannol gan Lywodraeth Cymru i leoli ei gyfleusterau cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd;

·       Data ar sut y mae teithwyr yn cyrraedd Maes Awyr Caerdydd;

·       Gwerth presennol Maes Awyr Caerdydd; ac

·       Enwau darparwyr y benthyciadau i'r meysydd awyr hynny y dywedwyd yn y sesiwn dystiolaeth eu bod wedi derbyn benthyciadau.

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Maes Awyr Caerdydd: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 


Cyfarfod: 02/02/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Maes Awyr Caerdydd: Sesiwn Dystiolaeth 1

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Roger Lewis – Cadeirydd, Maes Awyr Caerdydd

Debra Barber – Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Roger Lewis, Cadeirydd, a Debra Barber, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredu, Maes Awyr Caerdydd fel rhan o’r ymchwiliad i gaffael a pherchnogaeth Llywodraeth Cymru o Faes Awyr Caerdydd

3.2 Cytunodd Debra Barber i ddarparu ffigurau ar drwybwn teithwyr o’r tu allan a gallu’r maes awyr yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd ac Uwchgynhadledd NATO.

3.3 Estynnodd Roger Lewis wahoddiad i’r Pwyllgor i ddod ar ymweliad i weld y gwelliannau a wnaed i’r seilwaith yn y maes awyr.

 


Cyfarfod: 26/01/2016 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

Maes Awyr Caerdydd: Gwybodaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

4.1 Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru wybodaeth i'r Pwyllgor am ei adroddiad sydd ar y gweill (i'w gyhoeddi ar 28 Ionawr) ynghylch Llywodraeth Cymru yn Caffael a Pherchnogi Maes Awyr Caerdydd.

 


Cyfarfod: 20/03/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Maes Awyr Caerdydd (11.45-12.30)

 

Tystion:

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

Jeff Collins, Rheolwr Prosiect-Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Cefnogwyd y Gweinidog gan James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru a Jeff Collins, Rheolwr Prosiect, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Cymru.

 

5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:

 

- nodyn am y gronfa cysylltedd teithiau awyr rhanbarthol a gyhoeddwyd yn y gyllideb a sut y bydd hynny’n cyd-fynd â’r canllawiau newydd ar gymorth gwladwriaethol;

 

- nodyn am gymorth gwladwriaethol yng nghyd-destun y twf a ragwelir yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r maes awyr;

 

- nodyn am ddefnydd swyddogol Llywodraeth Cymru o faes awyr Caerdydd;

 

- nodyn am ddefnyddio llain lanio maes awyr Caerdydd gyda’r nos - ardal fenter Sain Tathan.

 


Cyfarfod: 30/01/2013 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Craffu ar Waith y Prif Weinidog: Tasglu Maes Awyr Caerdydd (09.30 - 10.30)

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

 

Jeff Collins, Cyfarwyddwr, Cyflenwi, BETS

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Croesawodd y Cadeirydd y Prif Weinidog a’i swyddogion. Bu’r Aelodau yn holi’r tystion.