Cyfarfodydd
Bwrdd Pensiynau Aelodau’r Cynulliad
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/09/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w thrafod/i'w phenderfynu: Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
3.1 Trafododd y Bwrdd benodiad Cadeirydd
Annibynnol Proffesiynol y Bwrdd Pensiynau. Mae'r penodiad am bedair blynedd a
bydd penodiad y Cadeirydd presennol yn dod i ben ym mis Mai 2020.
3.2 Trafododd y Bwrdd ei opsiynau gan gynnwys
hysbysebu am benodiad newydd neu ymestyn penodiad y Cadeirydd presennol am
bedair blynedd arall.
3.3 Gan nodi perfformiad y Cadeirydd presennol,
cytunodd y Bwrdd i ymestyn ei phenodiad am dymor arall o bedair blynedd.
Cam
gweithredu:
- Rhoi gwybod i Glerc y Bwrdd
Pensiynau am benderfyniad y Bwrdd i ymestyn penodiad y Cadeirydd presennol am
bedair blynedd arall.
Cyfarfod: 04/07/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Eitem i'w thrafod: Ymgynghori ar bensiynau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
6.1
Cynigiodd y
Bwrdd newidiadau i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau ar ôl cael cyngor
cyfreithiol ynghylch goblygiadau posibl gwahaniaethu ar sail oedran.
6.2
Cytunodd y
Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio Rheolau'r Cynllun Pensiwn.
6.3
Y dyddiad
cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 11 Hydref 2019.
Cam
gweithredu:
Bydd yr
ysgrifenyddiaeth yn:
-
cyhoeddi a
hyrwyddo'r ymgynghoriad;
-
paratoi
crynodeb o'r ymatebion i'w hystyried gan y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol
Cyfarfod: 23/05/2019 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Adolygiad o Reolau'r Cynllun Pensiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
2.1
Trafododd
y Bwrdd y cyngor cyfreithiol diweddar ar oblygiadau gwahaniaethu posibl ar sail
oed yn deillio o nifer o ddarpariaethau yng Nghynllun Pensiwn Aelodau'r
Cynulliad.
2.2
Gan mai'r
Bwrdd sy'n gyfrifol am osod rheolau'r Cynllun, cytunodd i wneud rhai newidiadau
i'r rheolau gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben.
2.3
Cytunodd y
Bwrdd hefyd i rannu ei gynigion â'r Bwrdd Pensiynau cyn ymgynghori â
rhanddeiliaid ar y newidiadau hyn yn ddiweddarach yn yr haf.
Cyfarfod: 22/11/2018 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Eitem i'w phenderfynu: Cynllun Pensiwn yr Aelodau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
3.1. Trafododd y Bwrdd y broses ar gyfer prisio'r
terfyn uchaf ar gostau Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad.
3.2. Cytunodd y Bwrdd i fonitro'r sefyllfa.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i
roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am y broses o brisio'r terfyn uchaf ar
gostau yn y flwyddyn newydd.
Cyfarfod: 12/10/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem i'w thrafod: Cynllun Pensiwn Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Lwfans Blynyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
2.1.
Nododd y Bwrdd oblygiadau'r Lwfans Blynyddol sy'n lleihau'n raddol ar y
lefel y tâl a geir.
2.2.
Dywedodd Donna Davies, Pennaeth Pensiynau yn y Cynulliad, wrth y Bwrdd fod
Ieuan Wyn Jones (cyn Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru) wedi'i enwebu i fod yn
un o gynrychiolwyr yr Aelodau ar y Bwrdd Pensiynau, yn lle Gareth Jones (cyn
Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru). Cymeradwyodd y Bwrdd yr enwebiad.
Cyfarfod: 11/07/2017 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Eitem ar gyfer penderfyniad: Adolygiad o Brisiad Actiwaraidd Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
2.1
Trafododd y Bwrdd y papur ar yr adolygiad o Brisiad Actiwaraidd Cynllun Pensiwn
Aelodau'r Cynulliad.
2.2
Cadarnhaodd y Bwrdd eu bod yn fodlon â chyfradd gyfrannu uwch y Comisiwn a
chytunwyd i hysbysu Actiwari'r Cynllun, sy'n gosod cyfradd cyfraniad y
Comisiwn.
Cam
gweithredu:
Bydd yr
Ysgrifenyddiaeth yn hysbysu Actiwari'r Cynllun o safbwyntiau'r Bwrdd.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Pensiynau Aelodau'r Cynulliad: Trafod y rolau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Pensiynau a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â'r Bwrdd Pensiynau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
6.1 Trafododd y
Bwrdd y rolau a'r cyfrifoldebau sydd wedi'u gosod yn y Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Bwrdd a'r Bwrdd Pensiynau, a chytuno arnynt
6.2 Nododd y
Bwrdd y byddai'r Bwrdd Pensiynau newydd yn trafod y ddogfen yn ei gyfarfod
cyntaf ar 11 Gorffennaf. Caiff y ddogfen hefyd ei gwrth-lofnodi gan Brif
Weithredwr y Cynulliad fel Swyddog Cyfrifyddu.
6.3 Cytunodd y
Bwrdd ar y rhagdybiaethau o ran demograffeg a gaiff eu defnyddio i osod cap ar
gostau'r cyflogwr yng Nghynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad. Bydd y Bwrdd
Pensiynau newydd yn trafod y rhagdybiaethau yn ei gyfarfod ar 11 Gorffennaf.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem i wneud penderfyniad yn ei chylch: Penodi Bwrdd Pensiynau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
5.1 Penododd y
Bwrdd y sawl a fydd yn aelodau ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer Cynllun Pensiwn
Aelodau'r Cynulliad yn ffurfiol:
• Jill Youds (Cadeirydd Annibynnol) - ers
dechrau'r Pumed Cynulliad
• Gareth Jones (cyn-Aelod Cynulliad Plaid
Cymru) - ers dechrau'r Pumed Cynulliad
• Mike Hedges (Aelod Cynulliad Llafur) -
ers dechrau'r Pumed Cynulliad
• Suzy Davies (Aelod Cynulliad y
Ceidwadwyr a Chomisiynydd y Cynulliad)
• Cyfarwyddwr Cyllid, Comisiwn y Cynulliad
(yn wag ar hyn o bryd, i'w benodi).
5.2 Roedd gan y
Bwrdd rai amheuon ynghylch penodi aelod o staff Comisiwn y Cynulliad ar y Bwrdd
Pensiynau, yn enwedig os byddai sefyllfa'n codi lle bo'n rhaid iddynt wneud
penderfyniadau am Aelodau Cynulliad unigol. Cytunodd y Bwrdd i geisio cael
trywydd sicr gan y Comisiwn ar y pwynt hwn.
Camau gweithredu:
• Bydd y Pennaeth Pensiynau yn hysbysu
Comisiwn y Cynulliad yn ffurfiol o benodiad aelodau'r Bwrdd.
• Cytunodd y Bwrdd i ysgrifennu at Brif
Weithredwr a Chlerc Comisiwn y Cynulliad ynghylch cynrychiolaeth Comisiwn y
Cynulliad ar y Bwrdd.
Cyfarfod: 06/07/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Cyflwyniad i Gadeirydd Annibynnol y Bwrdd Pensiynau
Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5)
Eitem ar gyfer penderfyniad: Pensiynau'r Aelodau: Ystyried rolau a chyfrifoldebau mewn perthynas â’r Cynllun Pensiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
5.1
Bu'r Bwrdd yn trafod papur a oedd yn nodi'n glir y rolau a'r cyfrifoldebau
mewn perthynas â'r Cynllun Pensiynau newydd fel sail ar gyfer Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth newydd rhwng y Bwrdd Pensiynau a'r Bwrdd Taliadau.
5.2
Nododd y Bwrdd y rolau a'r cyfrifoldebau a'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
a chadarnhaodd ei fod yn fodlon ar sut y câi rôl y Bwrdd Taliadau ei chyflawni
mewn egwyddor.
5.3
Cytunodd y Bwrdd y dylid gwahodd sylwadau gan Adran Actiwari’r Llywodraeth
a'r Bwrdd Pensiynau newydd ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a'r rolau a'r
cyfrifoldebau.
5.4
Nododd y Bwrdd hefyd y byddai'r
Bwrdd yn cael papur ar brisiadau'r terfyn uchaf ar gostau i'w ystyried yn ei
gyfarfod ym mis Gorffennaf.
Cyfarfod: 24/03/2016 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Eitem ar gyfer penderfyniad: Cynllun Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad: Darpariaeth ar gyfer Cynghorwr Ariannol Annibynnol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
4.1
Trafododd y Bwrdd bapur yn amlinellu Cynllun Pensiwn Staff Cymorth
Aelodau'r Cynulliad a gyflwynwyd gan Donna Davies, Pennaeth Pensiynau Comisiwn
y Cynulliad.
4.2
Nododd y Bwrdd fod Cynghorwr Ariannol Annibynnol
ynghlwm wrth y Cynllun a'i fod yn cael ei dalu gan y Comisiwn ar hyn o bryd am
y gwasanaethau a ddarperir a chostau disgwyliedig y gwasanaeth yn y dyfodol, o
ystyried na fyddai'n gweithredu ar y sail honno mwyach.
4.3
Bu'r Bwrdd yn trafod adborth staff
cymorth Aelodau'r Cynulliad ar y gwasanaeth hwn ac awgrymiadau ar gyfer
gwella'r cymorth a roddir iddynt o ran deall eu cynllun pensiwn.
4.4
Nododd y Bwrdd y byddai Comisiwn y Cynulliad yn cynnal adolygiad o Gynllun
Pensiwn Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad yn fuan.
4.5
Cytunodd y Bwrdd y dylid rhoi terfyn
ar gontract y Cynghorwr Ariannol Annibynnol presennol. Yn lle hynny, cytunodd y Bwrdd mai Tîm Pensiynau Comisiwn y Cynulliad
ddylai fod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau staff cymorth Aelodau'r
Cynulliad ynglŷn â'u
pensiynau.
4.6
Cytunodd y Bwrdd y dylai'r tîm Pensiynau ysgrifennu at aelodau a'u staff er
mwyn egluro'r newid a chadarnhau'r trefniadau newydd.
Cam gweithredu:
·
Y Pennaeth Pensiynau i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd wrth weithredu'r ddarpariaeth newydd
ynghylch cyngor ar bensiynau i staff cymorth Aelodau'r Cynulliad.
Cyfarfod: 10/12/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 5.)
Y diweddaraf am bensiynau Aelodau'r Cynulliad a'r camau nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 36
Cyfarfod: 03/07/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)
Pensiynau Aelodau’r Cynulliad: Y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad, ac effaith gwahaniaethu cyflog ar bensiynau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
- Cyfyngedig 39
- Cyfyngedig 40
Cyfarfod: 22/05/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4.)
Pensiynau Aelodau'r Cynulliad: Adolygu
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cyfarfod: 24/04/2015 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)
Pensiynau Aelodau'r Cynulliad: Adolygiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 44
- Cyfyngedig 45
Cyfarfod: 16/10/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 6.)
Pensiynau Aelodau'r Cynulliad: Llywodraethu gorau ar gyfer rhoi'r cynllun pensiwn ar waith
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cyfarfod: 29/08/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2.)
Trefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 49
- Cyfyngedig 50
- Cyfyngedig 51
Cyfarfod: 19/06/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3.)
Materion i'w penderfynu a chasgliad: Pensiynau
·
Adolygiad o'r gwaith hyd yma a chrynodeb o'r ymatebion i'r
ymgynghoriad – Papur 10, Atodiad
·
Trafod y ddogfen ymgynghori ar
drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad – Papur 11, Atodiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
- Cyfyngedig 54
- Cyfyngedig 55
- Cyfyngedig 56
- Cyfyngedig 57
- Cyfyngedig 58
Cyfarfod: 09/04/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 1.)
Ymgynghoriad ar drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol - Ebrill 2014
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 60
Cyfarfod: 21/03/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Materion i benderfynu ac ymgynghori yn eu cylch: Pensiynau
·
Adolygiad o'r gwaith hyd yn hyn – Papur 5
·
Trefniadau llywodraethu ar gyfer pensiynau Aelodau'r
Cynulliad – Papur 6
Egwyl
·
Adroddiad cyfreithiol terfynol gan Wragge & Co – Papur 7
·
Cytuno ar y dogfennau ymgynghori terfynol ac ar yr
ymgynghoreion – Papur 8
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
- Cyfyngedig 63
- Cyfyngedig 64
- Cyfyngedig 65
Cofnodion:
Adolygiad
o'r gwaith hyd yma
3.1 Trafododd y Bwrdd ei gynnydd o ran gweithredu trefniadau pensiwn
addas ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad ar gyfer y Pumed Cynulliad, a
chytunodd ar ddogfen ymgynghori gyhoeddus, a fyddai'n cael ei chyhoeddi ym mis
Ebrill. Dyma fyddai'r rhan gyntaf mewn ymgynghoriad dwy ran, yn ceisio barn
rhanddeiliaid am y cynllun yn gyffredinol. Bydd ail ymgynghoriad yn ddiweddarach
yn y flwyddyn yn ceisio barn am gynllun mwy manwl.
Trefniadau
Llywodraethu ar gyfer pensiynau Aelodau'r Cynulliad
3.2 Ystyriodd y Bwrdd bapur a baratowyd gan y
Gwasanaeth Ymchwil a chytunodd i ymgynghori ag Ymddiriedolwyr ynghylch
trefniadau llywodraethu ar gyfer y cynllun newydd.
Adroddiad
cyfreithiol terfynol gan Wragge & Co.
3.3 Croesawodd y Bwrdd Paul Carberry,
Cyfarwyddwr, a Hannah Beacham, Uwchgyfreithiwr, Grŵp Adnoddau Dynol,
Wragge & Co. i'r cyfarfod.
3.4 Ystyriodd y Bwrdd adroddiad cyfreithiol
terfynol Wragge & Co. a chytunodd ar ei gynnwys.
Dogfennau
ymgynghori terfynol ac ymgyngoreion
3.5 Trafododd y Bwrdd y dogfennau ymgynghori
drafft ar drefniadau pensiwn yr Aelodau, a ddarparwyd gan Carys Evans a Richard
Bettley. Cytunodd y Bwrdd y byddai modd cyflwyno'r ymgynghoriad ar bensiynau
wedi mân newidiadau a awgrymwyd gan Mary a Stuart.
Cyfarfod: 31/01/2014 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Pensiynau
·
Adolygu'r gwaith hyd yma
– Papur 4a
·
Ystyried cynigion ar gyfer cynllun newydd - Papurau 4b a 4c
·
Opsiynau ymgynghori - Papur 4d
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 68
- Cyfyngedig 69
- Cyfyngedig 70
- Cyfyngedig 71
Cofnodion:
Adolygiad
o'r gwaith hyd yma (Papur 4a)
4.3 Nododd y Bwrdd y
gwaith hyd yma ar y trefniadau pensiwn newydd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.
Ystyried
cynigion ar gyfer cynllun newydd
4.4 Croesawodd y
Cadeirydd Paul Carberry a Hannah Beacham o Wragge & Co a gwahoddwyd hwy i
gyflwyno eu drafft o'r adroddiad cyfreithiol ar y trefniadau pensiwn
arfaethedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad o fis Ebrill 2015.
4.5 Hefyd,
croesawodd y Cadeirydd Mark Packham o PwC a gwahoddwyd ef i gyflwyno'r
adroddiad cynghorol actiwaraidd cychwynnol.
Holodd y Bwrdd Wragge & Co a PwC am eu hadroddiadau.
Cam i’w
gymryd:
·
Byddai'r Ysgrifenyddiaeth yn trafod y trefniadau llywodraethu
ar gyfer unrhyw gynllun pensiwn arfaethedig gyda'r cynghorwyr cyfreithiol.
Opsiynau
ar gyfer ymgynghori
4.6 Nododd y Bwrdd
bapur a luniwyd gan Carys Evans a Richard Bettley yn cynnig opsiynau ar gyfer
ymgynghoriad y Bwrdd ar drefniadau pensiwn yr Aelodau.
4.7 Trafododd y
Bwrdd opsiynau ymgynghori, gan gynnwys pa randdeiliaid i ymgynghori â hwy, a dull
a strwythur yr ymgynghoriad.
4.8 Cytunodd y Bwrdd
ar broses ymgynghori dau gam. Byddai'r
cam cyntaf ym mis Ebrill/Mai yn canolbwyntio ar y materion ehangach, ac yna
cyflwynir cynnig manylach yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 3)
Pensiynau Aelodau’r Cynulliad – Briff gan y cynghorwyr cyfreithiol a benodwyd
·
Papur 3 – cyngor gan y cwmni cyfreithiol a benodwyd
·
Papur 4 – dogfen dendro gan y cwmni cyfreithiol a benodwyd
·
Papur 5 – PwC - cyngor actiwaraidd
·
Papur 6 – Strawman - prif delerau cynllun pensiwn newydd
arfaethedig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 74
- Cyfyngedig 75
- Cyfyngedig 76
- Cyfyngedig 77
- Cyfyngedig 78
- Cyfyngedig 79
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dros Dro Paul Carberry, Prif
Bartner; Helen Beacham, Uwch Gyfreithiwr, y Grŵp Adnoddau Dynol; a Kevin
Milton, Cyfreithiwr Cyswllt o Wragge & Co. Cyflwynwyd eu cynigion ar gyfer
darparu trefniadau pensiwn Aelodau’r Cynulliad.
3.2 Bu’r Bwrdd yn
holi Wragge & Co am eu cynigion.
3.3 Cytunodd y Bwrdd
ar y materion a ganlyn:
• Trafododd
aelodau’r Bwrdd gynigion Wragge & Co, a phwysleisiwyd, gan y byddai unrhyw
gynllun pensiwn arfaethedig yn gynllun bach, y byddai angen trefniadau ar gyfer
terfyn cost uchaf, i atal costau rhag cynyddu’n ormodol;
• O gofio y
byddai unrhyw gynllun newydd yn debygol o fod o’r un ysbryd â’r Ddeddf
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, roedd yn debygol na fyddai cynllun cyflog
terfynol yn addas ar gyfer trefniadau pensiwn yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd
fod angen i’r cynllun fod yn gadarn, a bod angen iddo fod wedi’i ddiogelu rhag
unrhyw broblemau ariannol byd-eang posibl;
3.4 Byddai’r Bwrdd
yn gofyn am gyngor ynghylch cynnal Asesiad o Effaith unrhyw gynigion ar
Gydraddoldeb. Dylid cynnal un Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb ar y pecyn
taliadau yn ei gyfanrwydd yn nes ymlaen.
3.5 Nododd y Bwrdd
Taliadau fod y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys camau Diogelu
Trosiannol dros 10 mlynedd, a chytunodd y byddai’n edrych yn fanwl ar ba mor
briodol oedd yr amserlen hon o gofio beth yw hyd cyfnodau’r Cynulliad. Nodwyd
bod yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol wedi dewis cael gwarchodaeth
drosiannol am 10 mlynedd ar gyfer Aelodau Seneddol.
3.6 Nododd y Bwrdd y
rhestr o faterion a ddarparwyd gan Wragge & Co, a chytunodd ei bod yn rhoi
darlun cywir o’r materion a oedd dan sylw hyd yma.
3.7 Cytunodd Wragge
& Co i roi gwybodaeth i’r Bwrdd am gasgliadau’r adroddiad ar dreuliau
Aelodau Seneddol, yr oedd disgwyl iddo gael ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Safonau
Seneddol Annibynnol erbyn diwedd 2013.
3.8 Cytunodd Wragge
& Co i ddarparu cwestiynau i’r Bwrdd y byddai modd i Drysorlys Ei Mawrhydi
eu hateb.
Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 2)
Pensiynau Aelodau’r Cynulliad - Adolygiad o waith a gyflawnwyd hyd yma
·
Papur 2 – Nodyn gan staff y Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 82
Cofnodion:
2.1 Yn dilyn cynnal
proses gaffael drylwyr a manwl, dewisodd y Bwrdd Taliadau y cwmni Wragge &
Co i ddarparu cyngor cyfreithiol ar drefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r
Cynulliad, yn ei gyfarfod ar 30 Hydref.
2.2 Trafododd y
Bwrdd y datganiad dull a ddarparwyd gan PwC, a phenodwyd y cwmni hwnnw’n
ffurfiol i ddarparu cyngor actiwaraidd ar drefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r
Cynulliad.
2.3 Nododd y Bwrdd
fod Adran Actiwari’r Llywodraeth wedi cael ei chadarnhau ar gyfer costio unrhyw
gynigion.
2.4 Cytunodd y Bwrdd
y dylai Mary a Stuart barhau i arwain y gwaith ar drefniadau pensiwn i sicrhau
bod modd gwneud cynnydd rhwng cyfarfodydd y Bwrdd.
2.5 Nododd y Bwrdd y
bydd angen i unrhyw drefniadau pensiwn gydymffurfio mewn ysbryd â Deddf
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, hyd yn oed lle nad yw’r Ddeddf ei hun yn
gymwys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
2.6 Cytunodd y Bwrdd
y byddai angen iddynt gwrdd â swyddogion o Drysorlys Ei Mawrhydi, i ofyn am
eglurhad ar rai materion, gan gynnwys llywodraethu.
2.7 Bu’r Bwrdd yn
trafod y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r opsiynau a ganlyn:
o Cadw’r cynllun
pensiwn presennol;
o Symud tuag at
gynllun Enillion Cyfartalog Gyrfa
wedi’u Hail-werthuso (CARE);
o Symud tuag at
gynllun o fath arall, er enghraifft, cynllun balans arian.
2.8 Cytunodd y
Bwrdd, pa bynnag opsiwn a ddewisir, y byddai’n bwysig ystyried y goblygiadau
posibl o ran y gost a’r risgiau i gostau, o newid o gynllun pensiwn cyflog
terfynol, yn benodol, mewn perthynas â hawliau sefydliedig a hawliau cronnus,
(hynny yw, buddion pensiwn sydd wedi cronni hyd at y dyddiad y bydd unrhyw
drefniadau newydd yn cael eu rhoi ar waith).
Cyfarfod: 14/11/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Pensiynau Aelodau’r Cynulliad – Trafod y camau nesaf
Cofnodion:
4.1 Ystyriodd y
Bwrdd y drafodaeth â Wragge & Co, a thrafododd y camau nesaf yn y broses o
ddarparu trefniadau pensiwn ar gyfer Aelodau’r Cynulliad.
4.2 Penodwyd PwC yn
ffurfiol gan y Bwrdd fel cynghorwyr actiwaraidd ar y trefniadau pensiwn ar
gyfer Aelodau’r Cynulliad, a nodwyd y byddai cyfarfod â chynrychiolwyr o PwC yn
cael ei gynnal erbyn diwedd mis Tachwedd.
4.3 Byddai’r Bwrdd
yn gwneud cais i PwC gyfrif cyfradd gyfraniadau y cyflogwr/cyflogai.
4.4 Cytunodd y Bwrdd
y dylai’r materion a ganlyn gael eu codi gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi:
- Materion
llywodraethu;
- eu gofynion;
- hyblygrwydd i
gydymffurfio â deddfwriaeth;
- rhagor o fanylion am
y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus;
- Goblygiadau Deddf
Llywodraeth Cymru (2006) a’r Mesur Taliadau (2010);
- Rhagor o wybodaeth am
derfynau uchaf costau;
- Rhagor o wybodaeth
ynghylch a ddylid ymgynghori â rheoleiddiwr pensiynau ai peidio.
Camau i’w cymryd:
- Yr ysgrifenyddiaeth i
gysylltu â Llywodraeth Cymru yn gofyn am y cyngor a ddarparwyd gan Wragge
& Co mewn perthynas â dyfodol prif bensiwn y gwasanaethau cyhoeddus
yng Nghymru;
- Yr ysgrifenyddiaeth i
ystyried goblygiadau cyfreithiol yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac
ymateb i Wragge & Co;
- Yr ysgrifenyddiaeth i
baratoi nodyn ar ganlyniadau terfynau ariannu uchaf mewn cynlluniau
pensiwn;
- Yr ysgrifenyddiaeth i
drefnu cyfarfod â Thrysorlys Ei Mawrhydi cyn gynted â phosibl.
Cyfarfod: 21/06/2013 - Bwrdd Taliadau (2010 - 2020) (Eitem 4)
Pensiynau
·
Papur 4 - Y camau nesaf
-
Atodiad A: Ymatebion
-
Atodiad B: Adroddiad PwC
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 87
- Cyfyngedig 88
- Cyfyngedig 89
- Cyfyngedig 90
Cofnodion:
23. Trafododd y Bwrdd yr Adolygiad o bensiynau
Aelodau’r Cynulliad, a chydnabu y byddai heb amheuaeth, yn rhannol, yn cael ei
lywio gan yr ymgynghoriad IPSA yn San Steffan, sydd i’w gynnal yn ddiweddarach
y mis hwn.
24. Trafododd Aelodau’r Bwrdd effaith y Ddeddf
Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 ar ei drafodaethau ar drefniadau pensiwn
Aelodau’r Cynulliad yn y dyfodol.
25. Ystyriodd y Bwrdd y prosesau a’r amseru o
ran yr Adolygiad, a’r gwaith rhagbaratoawl y byddai angen iddo ei gyflawni. Fel
cam gweithredu cychwynnol, cytunodd y Bwrdd i:
i) Ddiweddaru Ymddiriedolwyr Pensiwn y
Cynulliad ynghylch cynlluniau arfaethedig y Bwrdd, a thrafod cost debygol y
cyngor cyfreithiol a’r trefniadau wrth gefn y byddai’n ofynnol iddo eu gwneud.
Byddai hefyd yn trafod yr awgrym ynghylch defnyddio cynllun caffael y
Llywodraeth ar y cyd â phroses dendro o bosibl.
ii) Ysgrifennu at y Trysorlys i nodi beth yw
ei fwriadau cychwynnol ar gyfer yr Adolygiad ac egluro materion yn ymwneud â
chymeradwyaeth gan y Trysorlys i unrhyw gynllun newydd pe baent yn penderfynu
dilyn y trywydd hwn.
iii) Cynnal ymarferiad caffael i benodi
cynghorwyr actiwaraidd a chynghorwyr cyfreithiol dros doriad yr haf, yn y
gobaith y byddent yn bresennol yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd yn yr hydref. Byddai hyn yn cynnwys cysylltu â’r
Ymddiriedolwyr ynghylch y graddau y gallai’r Bwrdd weithio gydag Adran
Actiwari’r Llywodraeth, a fu’n cynghori Ymddiriedolwyr y cynllun presennol.