Cyfarfodydd
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 25/05/2011 - Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Busnes y Cynulliad am weddill y tymor
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylai Dadleuon Byr gael eu cynnal
rhwng 14 Mehefin a diwedd y tymor, ac y dylai balot gael
ei gynnal i ddewis enwau’r Aelodau a all gyflwyno
testunau i’w trafod tan ddiwedd Mehefin. Caiff dyddiadau’r Dadleuon
Byr eu penderfynu
gan y Pwyllgor Busnes ar 8 Mehefin.
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i roi ystyriaeth pellach i sut y bydd amser
y Cynulliad yn cael ei ddefnyddio
am weddill y tymor ar 8 Mehefin.