Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Anna Daniel (Clerc)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Gwahoddir y Pwyllgor i
benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix):
Caiff bwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o
gyfarfod: (ix) lle mae unrhyw fater sy’n ymwneud â busnes mewnol y pwyllgor, neu
fusnes mewnol y Cynulliad, i gael ei drafod. Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix). |
|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Y Pwyllgor Busnes – Ffyrdd o Weithio Cofnodion: Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried
ei ffyrdd o weithio a chytunodd ar yr hyn
a ganlyn:
|
|
Trefn Busnes |
|
Amserlen y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gyhoeddi amserlen dros dro
ar gyfer busnes y Cynulliad yn amlinellu:
Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y byddai’r amseroedd ar gyfer
cyfarfodydd pwyllgorau’r Cynulliad yn cael
eu cyhoeddi pan gaiff system y pwyllgorau ei chytuno. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i ymgynghori â’r grwpiau plaid ar:
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad i’w ystyried yn
y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai amser pleidleisio ddydd Mercher ddigwydd
ar ôl yr
eitem olaf o fusnes. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor amserlen fusnes y Llywodraeth ar gyfer y 3 wythnos
nesaf. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylai’r Cyfarfod Llawn ddechrau am 09.30 ddydd Mercher 8 Mehefin 2011 oherwydd amgylchiadau eithriadol. |
|
Busnes y Cynulliad am weddill y tymor Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylai Dadleuon Byr gael eu cynnal
rhwng 14 Mehefin a diwedd y tymor, ac y dylai balot gael
ei gynnal i ddewis enwau’r Aelodau a all gyflwyno
testunau i’w trafod tan ddiwedd Mehefin. Caiff dyddiadau’r Dadleuon
Byr eu penderfynu
gan y Pwyllgor Busnes ar 8 Mehefin. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i roi ystyriaeth pellach i sut y bydd amser
y Cynulliad yn cael ei ddefnyddio
am weddill y tymor ar 8 Mehefin. |
|
Pwyllgorau |
|
Sefydlu’r pwyllgorau a’u cylch gwaith Cofnodion: Bu’r Pwyllgor Busnes
yn ystyried papur yn amlinellu
opsiynau cychwynnol ar gyfer sefydlu
system bwyllgorau y Pedwerydd
Cynulliad, i’w thrafod ymhellach â’r grwpiau plaid. Caiff y papur ei
drafod eto
ar 14 Mehefin. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes mewn egwyddor y dylai pwyllgorau i drafod deisebau ac is-ddeddfwriaeth gael eu sefydlu cyn gynted
â phosibl, a gofynnodd am ragor o wybodaeth am gylchoedd gwaith ac aelodaeth posibl erbyn y cyfarfod ar 8 Mehefin. Bydd y system bwyllgorau
yn ei chyfanrwydd
yn cael ei
hystyried yn y cyfarfod ar 14 Mehefin. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Addysg |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Mesur Seneddol ynghylch Lleoliaeth Cofnodion: Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried dau bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer gwelliannau a gyflwynwyd i’r Bil Seneddol ynghylch Addysg a’r Bil Seneddol ynghylch Lleoleiddio. Oherwydd nid oes unrhyw bwyllgorau wedi cael eu sefydlu i ystyried y memoranda hyn, cytunodd y Pwyllgor Busnes, o dan Reol Sefydlog 29.4, na ddylent gael eu cyfeirio at bwyllgorau i gael eu hystyried, felly byddant yn cael eu cyflwyno i’w trafod yn y Cyfarfod Llawn. |
|
Y trefniadau ar gyfer craffu ar is-ddeddfwriaeth Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes bapur mewn perthynas â nifer o Offerynnau Statudol a gyflwynwyd yn nyddiau olaf y Trydydd Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ddosbarthu adroddiad arbennig ar rinweddau gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol blaenorol ymhlith Aelodau’r Cynulliad i dynnu eu sylw at yr Offerynnau Statudol hyn. |
|
Busnes arall |
|
Cwestiynau llafar y Cynulliad: y weithdrefn ar gyfer cynnal balot Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar drefn newydd ar gyfer cyflwyno cwestiynau llafar i adlewyrchu newidiadau i’r Rheolau Sefydlog, lle bydd y Llywydd yn gyntaf yn cynnal balot i ddewis enwau’r Aelodau a fydd wedyn yn cael cyflwyno cwestiynau llafar. Cytunodd y Pwyllgor i adolygu’r broses ar ddiwedd tymor yr haf. |
|
Cynnig i benodi Comisiwn y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i benodi Comisiynwyr y Cynulliad, i’w gytuno gan y Cynulliad ddydd Mercher. |
|
Y cyfarfod nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnal y cyfarfod nesaf am 08.30 ar 8 Mehefin. |
|
Trawsgrifiad Dogfennau ategol: |