Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes y cynhelir y pleidleisiau ar bob eitem o fusnes
ac eithrio'r ddadl Cyfnod 3 cyn cychwyn trafodion Cyfnod 3 ddydd Mawrth, ac y byddai
pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) yn cael ei chynnal yn ystod, ac ar ôl, trafodion Cyfnod 3. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl
Fer ddydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i
amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 12 Mawrth 2014 ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud) |
|
Pwyllgorau |
|
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cais i gynnal cyfarfod oddi ar y safle Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes â chais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
i gynnal cyfarfod ffurfiol yn Aberystwyth ar 20 Chwefror 2014. |
|
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Cais am gyfarfod ychwanegol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol i gynnal cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor ddydd Llun 31 Mawrth
2014. |
|
Cyfarfod Llawn |
|
Papur i'w nodi: Cyngor cyfreithiol ar gyfer dadl Aelodau unigol ar gyn-weithwyr Visteon Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes bapur sy'n sôn wrth Aelodau am eu cyfrifoldebau,
a'r amgylchiadau lle byddent yn cael eu dwyn i drefn mewn perthynas â'r ddadl
Aelodau unigol ar gyn-weithwyr Visteon, a gynhelir ddydd Mercher 12 Chwefror.
Dosberthir nodyn i Aelodau'r Cynulliad cyn y ddadl. Cafodd y Rheolwyr Busnes wybod hefyd y gall unrhyw Aelod sydd am gael
cyngor cyfreithiol penodol ar ei gyfraniadau cyn y ddadl wneud hynny. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa o'r drefn pan gaiff y Cyfarfod Llawn
ei atal dros dro y caiff y gloch ei chanu bum munud cyn i'r Cyfarfod Llawn
ailymgynnull, a chyfrifoldeb yr Aelodau yw cyrraedd mewn amser i siarad am yr
eitem gyntaf. Ni fydd y Llywydd na'r Dirprwy Lywydd yn atal y trafodion dros
dro ar gyfer Aelodau sy'n cyrraedd yn hwyr. Yn dilyn adnabod effeithiau canlyniadol newydd ar welliannau a drafodwyd
wythnos diwethaf, ond na chynhelir pleidlais arnynt tan heddiw, dywedodd y
Llywydd y byddai'n galw ar Lindsay Whittle i godi Pwynt o Drefn cyn cynnal y
bleidlais ar welliant y Llywodraeth. |