Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Eitemau
Rhif |
Eitem |
1. |
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
|
2. |
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
|
3. |
Trefn Busnes
|
3(i) |
Busnes yr wythnos hon
Cofnodion:
Byddai’r Cyfnod Pleidleisio yn
cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid
cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
|
3(ii) |
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cofnodion:
Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
|
3(iii) |
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cofnodion:
Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol
o fusnes:
Dydd Mercher 19 Mawrth 2014
·
Datganiad gan Darren Millar: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod -
Bil Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) (30 munud)
·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr
Cymreig (120 munud)
- Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60
munud)
·
Dadl fer - Paul Davies (Preseli sir Benfro) (30 munud)
|
4. |
Deddfwriaeth
|
4(i) |
Y Bil Meysydd Carafannau Gwyliau (Cymru)
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn
egwyddor i gyfeirio’r Bil Meysydd Carafanau Gwyliau (Cymru) at y Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer trafodaethau Cyfnod 1.
Cytunodd Rheolwyr Busnes i ohirio
penderfyniad am amserlen y Bil a’i drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol, er mwyn
medru ymgynghori â’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
|