Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer
eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol
o fusnes: Dydd Mercher
26 Mawrth 2014
|
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dadreoleiddio Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
mewn perthynas â’r Bil Dadreoleiddio. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm atodol at y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn 1 Mai
2014, er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod
Llawn ar 6 Mai 2014. |