Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y cynhelir y pleidleisiau ar bob eitem o fusnes ac eithrio'r
ddadl Cyfnod 3 cyn cychwyn trafodion Cyfnod 3 ddydd Mawrth, ac y byddai pob
pleidlais mewn perthynas â'r Bil Addysg (Cymru) yn cael ei chynnal yn ystod
trafodion Cyfnod 3. Ddydd
Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y
Ddadl Fer. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i drefnu'r eitemau o fusnes a
ganlyn: Dydd Mercher
2 Ebrill 2014
|
|
Deddfwriaeth |
|
Y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar 24 Hydref 2014 fel terfyn amser i Bwyllgor Cyfnod 1 gyflwyno
adroddiad a 6 Chwefror 2015 fel terfyn amser i gwblhau trafodion Pwyllgor
Cyfnod 2. |