Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer
eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Pwyllgor Busnes ei bod wedi cytuno i gynnig ar gyfer newid
aelodaeth Plaid Cymru o’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd (Alun Ffred
Jones i gymryd lle Dafydd Elis-Thomas fel aelod a Chadeirydd y Pwyllgor) gael
ei gymryd un union ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ddydd Mawrth. Rhoddodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i’r
Pwyllgor am newidiadau i Fusnes y Llywodraeth gan gynnwys y ffaith y byddai
cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (15 munud) yn cael ei gymryd yn union ar ôl y
Cyfnod Adrodd ddydd Mawrth. Nododd y
Rheolwyr Busnes y byddai’r pleidleisiau ar yr holl eitemau busnes ar wahân i’r
rheini mewn perthynas â’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn
cael eu cynnal cyn i drafodion y Cyfnod Adrodd gychwyn, ac y byddai’r holl
bleidleisiau mewn perthynas â’r Bil yn cael eu cynnal yn ystod ac yn dilyn
trafodion y Cyfnod Adrodd. Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am ei bwriad i atal y cyfarfod ddydd Mawrth
am ddeng munud cyn cychwyn y Cyfnod Adrodd. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol
o fusnes: Dydd Mercher
30 Ebrill 2014
|
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl: Dydd Mercher
26 Mawrth 2014
Mick Antoniw
(Pontypridd) Dafydd
Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: yn ymrwymo i
chwarae ei ran lawn mewn materion Ewropeaidd; ac yn benodol: a) yn
cydnabod y gwerth i Gymru ac i’r UE yn sgil ymgysylltu cadarnhaol Cymru yn
Ewrop; b) yn
defnyddio sgiliau, profiad ac arloesedd y Llywodraeth a phobl Cymru i hyrwyddo
cyfiawnder cymdeithasol, ffyniant economaidd a llywodraethu democrataidd ledled
Ewrop Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai’r ddadl nesaf gan Aelod unigol gael ei chynnal ddydd
Mercher 14 Mai 2014. |
|
Busnes y Cyfarfod Llawn |
|
Dadl ar Raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU Cofnodion: Gwahoddwyd y
Pwyllgor Busnes i gymeradwyo cynnig ar gyfer dyddiad dadl eleni ar raglen
ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, ac i ystyried ar ba fformat y dylid cynnal y
ddadl. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i’r ddadl ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y
DU gael ei amserlennu ar gyfer 11 Mehefin 2014 ac i gynnwys dadl eleni ddilyn
yr un fformat â’r llynedd. |