Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

The minutes were noted by the Committee for publication.

 

3.

Trefn Busnes

3(i)

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3(ii)

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3(iii)

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:

 

Dydd Mercher 2 Ebrill 2014

 

  • Cynnig i ddiwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010) (5 munud)

 

Dydd Mercher 7 Mai 2014

 

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

  • Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

  • Dadl Fer (30 munud)

 

4.

Busnes y Cyfarfod Llawn

4(i)

Cynnig i ddiwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) (2010)

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes fwriad Comisiwn y Cynulliad i gyflwyno cynnig a fyddai'n penderfynu diwygio Atodlen 1 i Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dadl ar y cynnig ar gyfer 2 Ebrill 2014 (a neilltuo 5 munud i'r eitem).

 

5.

Amserlen y Cynulliad

5(i)

Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Cynulliad 2014 - 2015

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Unrhyw Fusnes Arall

Ethol Cadeiryddion y Pwyllgor

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur ar y prosesau amgen posibl ar gyfer ethol Cadeiryddion pwyllgorau, a nodwyd fod yr Ysgrifenyddiaeth wrthi'n paratoi papur ar adolygu Rheolau Sefydlog yn fwy cyffredinol.

 

Adroddiad wedi'i ddatgelu

 

Holodd Elin Jones ynghylch pa gamau a oedd yn cael eu cymryd gan y Comisiwn i nodi ffynhonnell adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gafodd ei ddatgelu yr wythnos diwethaf.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ailddatgan pwysigrwydd cyfrinachedd i'w grwpiau a bydd y Llywydd yn ystyried pa gamau, os o gwbl, y bydd yn eu cymryd.

 

Grwpio cwestiynau

 

Cwestiynodd Elin Jones benderfyniad y Llywydd i grwpio dau gwestiwn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar 12 Mawrth, gan awgrymu nad oedd y cwestiynau'n ddigon tebyg i'w grwpio.

 

Eglurodd y Llywydd ei hymagwedd tuag at grwpio cwestiynau, gan egluro ei fod yn golygu y gellir gofyn mwy o'r cwestiynau a gyflwynir yn yr amser sydd ar gael.

 

Dadl Cyfnod 4 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru)

 

Nododd y Rheolwyr Busnes sylwadau a wnaed gan Elin Jones ynghylch natur dadl Cyfnod 4 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr wythnos diwethaf.

 

Bil Cymru

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth am gyhoeddi Bil Cymru a bwriad y Llywodraeth mewn perthynas â Chynnig Cydsyniad Deddfwriaethol. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n dod â phapur i'r cyfarfod nesaf.