Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Anfonodd y Dirprwy Lywydd ei ymddiheuriadau. |
|||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|||||||||||
Trefn Busnes |
|||||||||||
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Pwyllgor Busnes ei bod hi
wedi cytuno i gynnig i newid aelodaeth y Ceidwadwyr Cymreig ar y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus (William Graham i gymryd lle Mohammad Asghar) gael ei gymryd
yn union ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ddydd Mawrth. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr
eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod
Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|||||||||||
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai'r cwestiynau i'r
Cwnsler Cyffredinol a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 7 Mai 2014 yn cael eu symud i ddydd Mercher 30
Ebrill, a chytunwyd nad oedd angen atal
y Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn i hynny ddigwydd. Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth
ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|||||||||||
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a
chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 14 Mai 2014
|
|||||||||||
Deddfwriaeth |
|||||||||||
Bil Cymru - Gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a datganiad ysgrifenedig Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes gynnig y Llywodraeth i ohirio
gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a datganiad ysgrifenedig tan fod
Llywodraeth y DU wedi gosod ei gwelliannau i'w hystyried yn y cyfnod
Pwyllgor. Cytunodd
Rheolwyr Busnes mewn egwyddor y dylid cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol er mwyn iddynt graffu arno a byddant yn cadarnhau'r penderfyniad
hwnnw ac yn cytuno ar ddyddiad ar gyfer cyhoeddi adroddiad yn ddiweddarach,
unwaith y bydd y Llywodraeth wedi gosod y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol. |
|||||||||||
Pwyllgorau |
|||||||||||
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cais i ymweld â Dulyn a Glasgow Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg i ymweld â Dulyn a Glasgow ddydd Mercher 30 Ebrill – dydd Gwener 2 Mai 2014. |
|||||||||||
Amserlen y Cynulliad |
|||||||||||
Dyddiadau toriadau'r Cynulliad 2014 - 2015 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddyddiadau toriadau'r
hydref a'r Nadolig ar gyfer 2014 a dyddiadau dros dro ar gyfer toriadau hyd at
doriad y Pasg 2015 (gweler isod). Trafododd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau amgen ar gyfer
toriadau ond barn y mwyafrif oedd y dylid cadarnhau'r dyddiadau a gynigiwyd ac
ail-edrych ar y mater wrth ystyried Amserlen y Cynulliad ar gyfer 2015.
*Dyddiadau
dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes. |
|||||||||||
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg 2014 Cofnodion: Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno
arfaethedig ar gyfer toriad y Pasg a chyfnodau gwyliau banc. |
|||||||||||
Unrhyw Fusnes Arall Aelodau yn gadael y Siambr Yn sgîl Aelodau'n gadael y Siambr yr wythnos ddiwethaf
ar ôl cymryd rhan mewn dadl / gofyn cwestiwn, nododd y Dirprwy Lywydd ar y pryd
y byddai canlyniadau i bobl o ran peidio â chael eu galw yn y dyfodol. Cafodd y neges hon ei hail-adrodd gan y
Llywydd i'r Rheolwyr Busnes. Cwestiynau a dynnwyd yn ôl Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes mai dim ond o dan
amgylchiadau annisgwyl ac anochel y dylid tynnu cwestiynau llafar y Cynulliad
yn ôl, a gallai tynnu cwestiynau yn ôl o dan amgylchiadau eraill olygu
canlyniadau i Aelodau o ran cael eu galw i siarad yn y dyfodol. Cyflwyno Cwestiynau Nododd y Pwyllgor Busnes mai dim ond 14 cwestiwn a
gyflwynwyd i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau yr wythnos hon, oedd yn golygu bod
chwe Aelod yr oedd eu henwau wedi eu dewis o'r balot heb gyflwyno cwestiynau. Y Bil Dadreoleiddio Rhoddodd
Gweinidog Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor Busnes y dylai ddisgwyl
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol i'r Bil Dadreoleiddio ond bod yr
amseru'n ansicr ar hyn o bryd. |