Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am newidiadau i fusnes y Llywodraeth.

 

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:

 

Dydd Mercher 21 Mai 2014

 

  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad mewn Chwaraeon (60 munud)

 

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

  • Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Addysg Uwch (Cymru)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Addysg Uwch (Cymru) at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i’w ystyried yng Nghyfnod 1.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio’r penderfyniad ar amserlen y Bil am bythefnos, i roi amser ar gyfer ymgynghori â’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Dadreoleiddio

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Dadreoleiddio.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm atodol at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn 19 Mehefin 2014, er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mehefin 2014.

 

Unrhyw Fusnes Arall

Bil Cymru: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth wybod i’r Pwyllgor Busnes bod y Llywodraeth yn cadw at yr amserlen a nodwyd cyn toriad y Pasg, a’i bod yn bwriadu gosod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyn diwedd yr wythnos hon, gyda phapur sydd i gael ei ystyried gan y Pwyllgor Busnes yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

Ymweliadau gan bwyllgorau

 

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y dylai unrhyw Aelod sy’n cymryd rhan mewn ymweliad pwyllgor sy’n effeithio ar eu presenoldeb yn y Cyfarfod Llawn dynnu eu henwau o’r balot, neu, beidio â chyflwyno cwestiwn ar gyfer y diwrnod hwnnw o leiaf. Mae tynnu cwestiynau’n ôl ar ôl i’r Swyddfa Gyflwyno gynnal y balot a’r hapddewis yn atal Aelodau eraill rhag cael y cyfle i ofyn cwestiynau i’r Gweinidogion.