Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y
Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am newidiadau i fusnes y
Llywodraeth. Ddydd Mawrth, ni fydd Cyfnod Pleidleisio. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth
ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol
o fusnes: Dydd Mercher
4 Mehefin 2014
|
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer
dadl: Dydd Mercher 14 Mai 2014 NNDM5502 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir
Faesyfed) Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r cynnig yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru
ar gynigion ar gyfer Bil Iechyd y Cyhoedd i wahardd y defnydd o sigaréts
electronig mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd yng Nghymru. 2. Yn nodi bod 2.1 miliwn o oedolion yn y DU, yn ôl
amcangyfrif, yn defnyddio sigaréts electronig ar hyn o bryd. 3. Yn nodi bod canllawiau iechyd y cyhoedd oddi wrth y
Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, ‘Tobacco:
harm-reduction approaches to smoking’, yn cefnogi’r defnydd o gynnyrch
trwyddedig sy’n cynnwys nicotin i helpu pobl i ysmygu llai neu i roi'r gorau i
ysmygu. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r dystiolaeth
sy’n sail i’r cynigion ar sigaréts electronig, er mwyn darparu eglurder ar
gyfer cyfiawnhau'r cynigion hyn ym Mil Iechyd y Cyhoedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r ddadl nesaf gan
Aelod unigol gael ei chynnal ddydd Mercher 9 Gorffennaf 2014. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cymru Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth
ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Cymru. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gadarnhau'r penderfyniad
mewn egwyddor a wnaed ar 1 Ebrill i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r
Pwyllgor Cyllid at ddibenion craffu. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r
pwyllgorau gyflwyno adroddiad ar y memorandwm erbyn 26 Mehefin 2014, fel y
gellir cynnal dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar
1 Gorffennaf 2014. |
|
Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth yn
amlinellu ei phrif weithgarwch deddfwriaethol dros y misoedd nesaf. Dywedodd y Rheolwyr Busnes y byddent am weld unrhyw
newidiadau i gynlluniau a nodwyd eisoes yn cael eu hamlinellu mewn
diweddariadau yn y dyfodol. Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y
Llywodraeth y byddai diweddariad ar y Bil Mynediad yn cael ei ddarparu yn y
cyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Adolygu Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cofnodion: Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, gofynnodd y
Rheolwyr Busnes am bapur yn amlinellu dull arfaethedig o adolygu'r Rheolau
Sefydlog yn ystod gweddill y Cynulliad hwn. Roedd y papur yn cynnwys gwybodaeth
am adolygiadau sydd eisoes yn cael eu cynnal ac adolygiadau eraill sydd ar y
gweill, yn ogystal ag awgrymiadau ynghylch agweddau eraill ar y Rheolau
Sefydlog y gallai'r Rheolwyr Busnes fod am eu hystyried dros y ddwy flynedd
nesaf. Nododd y Rheolwyr Busnes yr adolygiadau o'r Rheolau
Sefydlog sydd eisoes yn cael eu cynnal a'r adolygiadau dilynol sydd ar y gweill
ac a gytunwyd arnynt eisoes. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ystyried cyflwyno'r
Rheolau Sefydlog newydd a amlinellwyd yn y papur a'r adolygiadau arfaethedig
eraill. Cytunodd y Rheolwyr Busnes nad oeddent am adolygu
agweddau eraill ar y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd. Yn ogystal, cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y dull
arfaethedig o weithredu'r broses o adolygu'r Rheolau Sefydlog. |
|
Pwyllgorau |
|
Gweithdrefnau ar gyfer ethol Cadeiryddion pwyllgorau Cofnodion: Yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, gofynnodd y Rheolwyr
Busnes am bapur ar brosesau amgen posibl ar gyfer ethol Cadeiryddion
pwyllgorau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i fynd â'r cynigion yn ôl
i'w grwpiau er mwyn cynnal trafodaeth arnynt, ac i ddychwelyd at y mater ar ôl
toriad y Sulgwyn. |