Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Rhoddodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf am y
Bil Mynediad, fel y cytunwyd ac y nodwyd yng nghofnodion yr wythnos diwethaf. Nododd y
Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i’r
Pwyllgor am newidiadau i fusnes y Llywodraeth. Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol
o fusnes: Dydd Mercher
11 Mehefin 2014
|
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Addysg Uwch (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd y
Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 29 Ebrill, i gyfeirio Bil
Addysg Uwch (Cymru) i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer ei
ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai’r dyddiad terfyn i’r Pwyllgor adrodd
ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 3 Hydref 2014, a’r dyddiad terfyn ar gyfer
cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 28 Tachwedd 2014. |
|
Cyllideb |
|
Adolygiad o Broses y Gyllideb Cofnodion: Ysgogwyd cais
y Pwyllgor Busnes am y papur hwn gan ddigwyddiadau yn dilyn y cyfnod o ystyried
y gyllideb yn yr hydref. Bwriad y papur hwn oedd cefnogi ystyriaeth y Rheolwyr
Busnes ynghylch a ddylid adolygu proses bresennol y gyllideb. Dangosodd y
Rheolwyr Busnes eu cefnogaeth gyffredinol i’r cynigion yn y papur, a chytunwyd
i ystyried y mater eto mewn cyfarfod yn y dyfodol, pan y byddent yn ystyried yn
fanylach y cynnig i ymestyn y cyfnod sydd ar gael ar gyfer craffu ar y gyllideb
gan y pwyllgorau. |
|
Cyfarfod Llawn |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Ym mis Ionawr
2013, ystyriodd y Pwyllgor Busnes nifer o opsiynau ar gyfer diwygio Cwestiynau
Llafar y Cynulliad, o ran cyflwyno mwy o amseroldeb ac amrywiaeth i waith
craffu meincwyr cefn ar waith Gweinidogion. Bwriad y papur hwn oedd rhoi cyfle
i’r Rheolwyr Busnes ystyried llwyddiant neu fethiant y diwygiadau hyn, a ph’un
ai a oes unrhyw ddiwygiadau eraill a allai fod yn ddymunol. Gofynnodd y
Rheolwyr Busnes am bapur pellach sy’n nodi cynigion manwl, i’w gyflwyno i’w
grwpiau ar gyfer ymgynghori yn ei gylch. |