Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cadarnhaodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y byddai
llythyr yn cael ei anfon at y Llywydd yr wythnos hon mewn perthynas â phroses y
gyllideb. Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y byddai cynnig i newid
aelodaeth y blaid Lafur ar y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, yn cael ei
gyflwyno ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ddydd Mawrth, pan fyddai Gwyn
Price yn cymryd lle Vaughan Gething. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i ohirio’r
eitem ganlynol o fusnes: Dydd Mercher 11 Mehefin 2014 ·
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch Ariannu Addysg Uwch (60
munud) Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 11 Mehefin 2014 ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) Dydd Mercher 18 Mehefin 2014 ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer craffu arno.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y
memorandwm erbyn 3 Gorffennaf 2014, fel y gellir cynnal dadl ar y Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf 2014. |
|
Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru: diweddariad ar raglen ddeddfwriaethol y DU 2013-14 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y papur sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd
y Biliau a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, sef biliau a gyflwynwyd yn Senedd
y DU a biliau a gyhoeddwyd ar ffurf drafft. |
|
Bil Tai (Cymru) - trafodion Cyfnod 2 Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer trafodion
Cyfnod 2 ar y Bil Tai (Cymru) am un wythnos bwyllgora, tan ddydd Gwener 6
Mehefin. |
|
Ystyried profiadau diweddar o graffu ar ddeddfwriaeth Cofnodion: Diben y papur oedd llywio ystyriaeth Rheolwyr Busnes o’r ffordd y mae’r
Cynulliad yn ymdrin â deddfwriaeth, gan gynnwys, a fyddai angen unrhyw
newidiadau i’r Rheolau Sefydlog. Mae’r papur wedi cael ei lywio gan brofiadau
diweddar o ddeddfwriaeth, yn enwedig y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru). Mae’n cynnwys rhai newidiadau y gellid eu hystyried ar unwaith yn
ogystal â rhai cynigion hirdymor. Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr argymhellion yn y papur, a nododd y
byddai cynigion mwy manwl yn dilyn maes o law. |