Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu
cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd
Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal
y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i
amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 25 Mehefin 2014 ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer – Andrew RT Davies (Canol De Cymru) (30 munud) |
|
Pwyllgorau |
|
Gweithdrefnau ar gyfer ethol Cadeiryddion pwyllgorau Cofnodion: Yn ei gyfarfod ar 6 Mai 2014, trafododd
y Pwyllgor Busnes gynigion ynghylch prosesau amgen posibl ar gyfer ethol
Cadeiryddion pwyllgorau. Cytunodd aelodau'r Pwyllgor i gymryd y cynigion yn ôl
i'w grwpiau er mwyn cynnal trafodaeth arnynt, ac i ddychwelyd at y mater yn y
cyfarfod heddiw. Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes nad ydynt
yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol ar hyn o bryd. |
|
Cyllideb |
|
Adolygiad o Broses y Gyllideb Cofnodion: Ysgogwyd y Pwyllgor Busnes i wneud cais
am bapur yn trafod a ddylai proses y gyllideb gael ei hadolygu gan y
digwyddiadau a welwyd yn sgil ystyried cyllideb yr hydref. Yn ystod y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 13 Mai 2014, nododd y Rheolwyr Busnes eu cefnogaeth gyffredinol
i'r cynigion yn y papur. Cytunodd y rheolwyr i ddychwelyd i'r mater yn y
cyfarfod heddiw, pan fyddant yn ystyried yn fanylach y cynnig i ymestyn y
cyfnod sydd ar gael i bwyllgorau graffu ar y gyllideb. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd y
Llywydd yn ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid yn amlinellu'r materion a godwyd
gan gadeiryddion y pwyllgorau ac awgrymiadau ynghylch sut y gellir gwella'r
broses. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd
y Llywydd yn ysgrifennu at gadeiryddion y pwyllgorau i'w hysbysu bod ganddynt
yr hawl i gynnal cyfarfodydd y tu allan i'r amserlen arferol yn ystod y cyfnod
craffu, unwaith y bydd yr amserlen ar gyfer craffu ar gyllideb eleni wedi'i
chytuno. Nododd y Rheolwyr Busnes ymrwymiad y Llywodraeth
i gyflwyno'r gyllideb ddrafft wythnos yn gynharach eleni i ganiatáu mwy o amser
ar gyfer craffu, ond roeddent yn cydnabod efallai na fyddai hynny'n bosibl y
flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant gan Lywodraeth y
DU. Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd y byddai newidiadau ehangach i'r broses o
graffu ar y gyllideb yn sgil adroddiad Silk yn rhan o unrhyw adolygiad. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur i'w
ystyried gan y Pwyllgor Busnes yn gynnar yn 2015, yn amlinellu cynigion ar
gyfer ystyriaethau'r gyllideb y flwyddyn honno. |
|
Busnes y Cyfarfod Llawn |
|
Pleidleisio yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes bapur yn
amlinellu'r ffactorau sydd wedi achosi problemau yn ddiweddar yn ystod y Cyfnod
Pleidleisio, a'r camau a gymerwyd gan staff y Comisiwn i'w datrys ac i'w hatal
rhag digwydd eto. Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes nad ydynt
ar hyn o bryd yn dymuno diwygio'r Rheolau Sefydlog fel bod angen trothwy uwch o
ran gwrthwynebiadau cyn y cynhelir pleidlais drwy alw enwau. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am nodyn ar
gynlluniau wrth gefn ar gyfer pleidleisio ar ddeddfwriaeth. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes
fod angen i'r holl Aelodau fod yn bresennol ar gyfer dechrau unrhyw eitem y
maent yn bwriadu cyfrannu ati. |