Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Roedd y Llywydd wedi ymddiheuro gan ei bod ar ymweld dinesig â Georgia yn
rhinwedd ei swydd. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes, y byddai'r bleidlais ar ddadl Araith
y Frenhines yn cael ei chynnal ar ddiwedd yr eitem ac y byddai'r holl
bleidleisiau eraill yn cael eu cynnl cyn y Ddadl Fer. Nododd y Rheolwyr Busnes bapur ar y trefniadau ar gyfer presenoldeb yr
Ysgrifennydd Gwladol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, fel rhan o'r ddadl ar
raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (Araith y Frenhines). Roedd Elin Jones yn pryderu am enwi Aelodau ac ymgeiswyr yn nhestun cynnig
neu welliant. Cytunodd y swyddogion i godi'r mater gyda'r Llywydd wedi iddi
ddychwelyd. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i
amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2014 ·
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynghylch Ariannu Addysg Uwch (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer - Peter Black (Gorllewin De Cymru) (30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Y Bil Cam-drin Domestig, Trais ar sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes o ran egwyddor i gyfeirio'r Bil Cam-drin
Domestig, Trais ar sail Rhywedd a Thrais Rhywiol (Cymru) at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio'r penderfyniad ar amserlen
y Bil am bythefnos, i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
yn dweud eu bod yn teimlo bod cynnwys y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd yn fwy perthnasol i Faterion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac nad oeddent, felly, yn bwriadu cyflwyno
adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. |