Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cafodd y cofnodion eu nodi gan y
Pwyllgor cyn eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y
Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gais Nick Ramsay i ohirio ei Ddadl Fer a drefnwyd ar gyfer
dydd Mercher. Cynhelir y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher,
cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r cyfnod pleidleisio hefyd yn cael ei
gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes absenoldeb y Prif Weinidog o’r Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf,
ac y bydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn ateb
Cwestiynau i’r Prif Weinidog ddydd Mawrth 24 Mehefin 2014. Nododd y
Rheolwyr Busnes y byddai’r Ymateb i Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a
Chydfuddiannol Cymru bellach yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig,
ond gofynnodd bod datganiad llafar ar y mater yn cael ei drefnu yn y dyfodol
agos. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o
fusnes: Dydd Mercher
9 Gorffennaf 2014
|
|
Amserlen y Cynulliad Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar Amserlen y Pwyllgor ar gyfer 2014 -15, gan ddechrau ar 15
Medi 2014 yn ôl trefn wythnos 1. Nododd y Rheolwyr Busnes fod slot y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn afreolaidd ac y dylid ei adolygu ar
gyfer y Cynulliad nesaf. Cadarnhaodd y
Rheolwyr Busnes ddyddiadau toriadau’r gwanwyn a’r Pasg yn 2015, a chytunodd ar
ddyddiadau dros dro ar gyfer toriad y Sulgwyn a gwyliau’r haf yn 2015. Nododd y
Rheolwyr Busnes y rhestr o Gwestiynau Llafar i’r Prif Weinidog, Gweinidogion
Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer 2014-15, a chytunodd ar yr amserlen ar
gyfer Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. |
|
Deddfwriaeth |
|
Y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio’r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio’r penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr
wythnos nesaf i roi amser ar gyfer ymgynghori â’r Pwyllgor hwn. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Dadreoleiddio Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â’r Bil Dadreoleiddio ynghylch gwelliannau
i’r Bil o ran Pedolwyr a Chytundebau rhwng y cartref a’r ysgol. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm atodol at y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol atodol erbyn 11 Medi 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Medi 2014. Hefyd,
gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth rybuddio Clercod y Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol rhag ofn bod y pwyllgorau hynny yn awyddus
i graffu arno o safbwynt polisi. |
|
Pwyllgorau |
|
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Cais am gyfarfod ychwanegol Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynnal
cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor yn ystod wythnos gyntaf toriad yr haf os bydd
ei angen i gwblhau ymchwiliad byr. |
|
Cyfarfod Llawn |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Yn ei
gyfarfod ar 13 Mai 2014, bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod papur ar ddiwygio
Cwestiynau Llafar y Cynulliad. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am bapur pellach yn
nodi cynigion manwl. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’u grwpiau ar y diwygiadau posibl a amlinellir yn
y papur hwn, gan gytuno i ddychwelyd at y mater ymhen pythefnos. |
|
Unrhyw Fater Arall Dywedodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth i’r Pwyllgor Busnes fod y
Nodyn Esboniadol ar y Bil Tai (Cymru) ar gael yn Saesneg yn unig tan ddiwedd yr
wythnos. |