Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y byddai'r pleidleisio ar bob eitem oni bai am yng Nghyfnod 3
yn digwydd cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau ddydd Mawrth, ac y byddai pob
pleidlais ar y Bil Tai (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3. Nododd y
Pwyllgor Busnes hefyd y byddai egwyl o ddeng munud cyn i drafodion Cyfnod 3
ddechrau, a bod 3.5 awr wedi ei neilltuo ar gyfer yr eitem. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. Nododd y Rheolwyr Busnes bapur ar y cynlluniau
penodol sydd wrth gefn ar gyfer pleidleisio mewn dadl yng Nghyfnod 3. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
(wedi hynny, dosbarthodd y Llywodraeth amserlen tair wythnos wedi ei diwygio i Reolwyr Busnes i'w chynnwys
yn y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes). Holodd y
Rheolwyr Busnes a fyddai 30 munud yn ddigon ar gyfer datganiad y Gweinidog
Adnoddau Naturiol a Bwyd ynghylch y Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ar 8
Gorffennaf. Yn ogystal,
holodd y Rheolwyr Busnes a fyddai 30 munud yn ddigon ar gyfer y ddwy set o
reoliadau ar Les Anifeiliaid (Bridio ac Adnabod Cŵn) ar 15 Gorffennaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd ar amserlen ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol: Dydd Mercher
16 Gorffennaf 2014
|
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Seilwaith Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth am Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ynghylch y Bil Seilwaith. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd i wneud gwaith craffu arno. Cytunodd y Pwyllgor
Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm erbyn 18
Medi 2014, er mwyn trafod y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn
ar 23 Medi 2014. |
|
Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) at y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'w ystyried yng Nghyfnod 1. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil am
bythefnos, i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cofnodion: Cadarnhaodd y
Rheolwyr Busnes eu penderfyniad a wnaed mewn egwyddor ar 10 Mehefin 2014 i
gyfeirio'r Bil Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
(Cymru) i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i'w ystyried
yng Nghyfnod 1, a chytunodd ar y dyddiad cau i'r Pwyllor yng Nghyfnod 1 i
gyflwyno adroddiad arno, sef 14 Tachwedd 2014, a'r dyddiad cau a nodwyd ar gyfer
cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 yw 6 Chwefror 2015. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cofnodion: Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu
penderfyniad a wnaed mewn egwyddor ar 17 Mehefin 2014 i gyfeirio'r Bil Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i'w
ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunodd ar y dyddiad cau i'r Pwyllgor yng Nghyfnod
1 i gyflwyno adroddiad arno, sef 21 Tachwedd 2014, a'r dyddiad cau a nodwyd ar
gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 yw 6 Chwefror 2015. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Dywedodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth wrth y Pwyllgor y byddai'r
Llywodraeth yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol diwygiedig ar y Bil
Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd, gan fod
Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gwelliannau ychwanegol yn ddiweddar
ynghylch cynllunio, sydd â thebygrwydd clir i'r darpariaethau sy'n destun i'r
memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynwyd eisoes. Yn ogystal,
dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor y byddai'r Llywodraeth hefyd yn cyflwyno
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r
Llysoedd o ganlyniad i welliannau ar wahân gan Lywodraeth y DU yn ymwneud â
throseddau newydd, sef esgeulustod bwriadol a cham-drin gan ofalwyr. Cadarnhaodd y
Gweinidog y byddai papur ffurfiol yn cael ei gyflwyno ar gyfer y Pwyllgor
Busnes yr wythnos nesaf. |