Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y
Rheolwyr Busnes y cynhelir y pleidleisiau ar bob eitem o fusnes ac eithrio'r
ddadl Cyfnod 3 cyn cychwyn trafodion Cyfnod 3 ddydd Mawrth, ac y byddai pob
pleidlais mewn perthynas â'r Bil Tai (Cymru) yn cael eu cynnal yn ystod
trafodion Cyfnod 3. Nododd y
Pwyllgor Busnes hefyd y byddai egwyl o 15 munud cyn y bydd trafodion Cyfnod 3
yn dechrau, a bod 3 awr wedi cael eu neilltuo ar gyfer yr eitem. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes
y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau canlynol o
fusnes: Dydd Mercher
9 Gorffennaf 2014
Dydd Mercher
17 Medi 2014
|
|
Dadl Aelod Unigol: Dewis y Cynnig ar gyfer y Ddadl Cofnodion: Dewisodd y
Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl: Dydd Mercher
9 Gorffennaf 2014 NNDM5536 Ann Jones
(Dyffryn Clwyd) Andrew RT
Davies (Canol De Cymru) Aled Roberts
(Gogledd Cymru) Bethan
Jenkins (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi'r
awydd llethol ymhlith cefnogwyr pêl-droed i weld cyfleusterau sefyll diogel yn
cael eu cyflwyno; Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chymdeithasau chwaraeon ac awdurdodau
rheoleiddio i hyrwyddo cyfleusterau sefyll ddiogel yn stadia chwaraeon yng
Nghymru; ac Yn galw ar
Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cynllun peilot ar gyfer cyfleusterau sefyll
diogel yng Nghymru. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai'r ddadl nesaf gan Aelod unigol gael ei chynnal ddydd
Mercher 15 Hydref 2014. |
|
Y Gyllideb |
|
Amserlen ar gyfer Cyllideb 2015-16: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes fwriad y Llywodraeth i osod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16
ar 30 Medi 2014 ac i gyflwyno cynnig ar y gyllideb flynyddol ar 2 Rhagfyr 2014. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid cyn penderfynu ar y dyddiad
terfyn i'r Pwyllgor Cyllid gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar y gyllideb
ddrafft. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig: Y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol diwygiedig mewn perthynas â'r Bil Cyfiawnder Troseddol a'r
Llysoedd. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
diwygiedig at bwyllgor craffu, a nododd y bydd y Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol diwygiedig yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf
2014. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â'r Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm atodol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y
dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
atodol erbyn 25 Medi 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei
drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 30 Medi 2014. |
|
Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) Cofnodion: Cadarnhaodd y
Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 24 Mehefin 2014 i gyfeirio'r
Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn
i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 14 Tachwedd 2014, a'r
dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 29
Ionawr 2015. |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes gynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 i weithredu argymhellion
y cytunwyd arnynt gan y Rheolwyr Busnes yn eu cyfarfod ar 20 Mai 2014. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd at y mater mewn pythefnos. |
|
Pwyllgorau |
|
Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Cais i gynnal cyfarfod ffurfiol yn Sioe Frenhinol Cymru Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes â chais y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal
cyfarfod ffurfiol yn Sioe Frenhinol Cymru ar 23 Gorffennaf 2014. |
|
Cyfarfod Llawn |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Yn y cyfarfod
ar 17 Mehefin 2014, ystyriodd y Rheolwyr Busnes gynigion ar adolygu Cwestiynau
Llafar y Cynulliad a chytunwyd i ymgynghori â'u grwpiau ar y diwygiadau posibl
a amlinellir yn y papur, ac i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod heddiw. Roedd
Rheolwyr Busnes y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn
cefnogi'r cynigion ar gyfer Cwestiynau ar Faterion Cyfoes a Chwestiynau
Llefarwyr. Roedd y Gweinidog Llywodraeth
Leol a Busnes y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig ar gyfer Cwestiynau Llefarwyr. Bydd y
Llywydd yn ystyried yr opsiynau yng ngoleuni sylwadau'r Rheolwyr Busnes, ac yn
dychwelyd i'r mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Dywedodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth wrth y Pwyllgor fod cynnig
cydsyniad deddfwriaethol atodol pellach (Memorandwm Rhif 4) wedi cael ei osod
heddiw ar y Bil Dadreoleiddio, ac y byddai papur yn cael ei gyflwyno i gyfarfod
yr wythnos nesaf. |