Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Rhoddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor am newidiadau i fusnes y Llywodraeth. Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer
ddydd Mercher. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair
wythnos nesaf. Dywedodd y Dirprwy Lywydd fod Adnewyddu’r Polisi Newid Hinsawdd yn bwnc
pwysig o ddiddordeb yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif
Weinidog, a chredai efallai y byddai datganiad llafar yn briodol. Holodd y Rheolwyr Busnes pam bod y Rheoliadau Lles Anifeiliaid wedi cael
eu gohirio tan fis Medi; cytunodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y
Llywodraeth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn y cyfarfod yr wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r
eitemau canlynol o fusnes: Dydd Mercher 24 Medi 2014 ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer (30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Dadreoleiddio Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â’r Bil Dadreoleiddio yn ymwneud
â deddfwriaeth ynglŷn â blaendaliadau tenantiaeth. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol atodol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor
gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol erbyn 2
Hydref 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol atodol gael ei drafod
yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Hydref 2014. |
|
Cyllideb |
|
Amserlen ar gyfer Cyllideb 2015-16: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn
cadarnhau bod y Pwyllgor yn fodlon
gweithio at y dyddiad cau arfaethedig o 11 Tachwedd 2014 i gyflwyno
adroddiad ar y gyllideb ddrafft. Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes y dyddiad cau a bydd Ysgrifenyddiaeth y
Pwyllgor Busnes yn cyhoeddi’r amserlen ar gyfer ystyried y gyllideb, yn unol â
Rheol Sefydlog 20.4 ac yn rhoi gwybod i gadeiryddion pwyllgorau. |
|
Pwyllgorau |
|
Bil Cymru: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes lythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn tynnu sylw Rheolwyr Busnes at argymhelliad
yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cymru. Mae’r adroddiad yn argymell bod y
Pwyllgor Busnes yn edrych ar ddiwygio Rheol Sefydlog 29 i gynnwys rhoi
swyddogaethau ar y Cynulliad o fewn ei gwmpas. Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon i swyddogion weithio gyda Llywodraeth
Cymru i fwrw ymlaen â’r argymhelliad hwn, ac i ddod â phapur i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor Busnes am y cynnydd a wnaed, mewn cyfarfod yn y
dyfodol. Bydd y Llywydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi gwybod am benderfyniad y Pwyllgor. |
|
Cyfarfod Llawn |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf Cofnodion: Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer
toriad yr haf. |
|
Unrhyw Fater Arall Uwchgynhadledd NATO Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y bydd sesiwn friffio arbennig
gyda’r heddlu i holl Aelodau’r Cynulliad ar uwchgynhadledd NATO yn syth ar ôl y
Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth yn ystafell friffio’r cyfryngau. Dadleuon a Phwyllgorau’r Gwrthbleidiau Yn dilyn y ddadl ar dwristiaeth yr
wythnos ddiwethaf, lle mynegodd aelodau’r pwyllgor, gan gynnwys Cadeirydd, farn
ar fater a oedd ar hyn o bryd yn destun ymchwiliad gan bwyllgor. Cododd y
Llywydd bryderon y gallai tystion gael eu troi yn erbyn rhoi tystiolaeth os
ydynt yn gweld bod yr Aelodau eisoes wedi gwneud eu penderfyniad. Gofynnodd y
Llywydd i’r Rheolwyr Busnes ystyried hyn. Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Yn dilyn ystyriaeth yr wythnos
ddiwethaf o gynigion i adolygu Cwestiynau Llafar y Cynulliad, holodd Elin Jones
am yr amserlen ar gyfer unrhyw newidiadau. Cytunodd y Llywydd i ddod â phapur i
gyfarfod y Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf. |