Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Yn
absenoldeb Andrew RT Davies a Kirsty Williams ddydd Mawrth, bydd Paul Davies ac
Aled Roberts yn cymryd rhan yn sesiwn Cwestiynau'r Arweinwyr yn eu lle. Bydd y
Llywydd yn gwneud datganiad am Ymgysylltu â Phobl Ifanc ar ddechrau'r cyfarfod.
Bydd Arweinwyr y Pleidiau hefyd yn cael eu galw i siarad. Rhoddodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth y wybodaeth ddiweddaraf i'r
Pwyllgor am newidiadau i fusnes y Llywodraeth. Bydd y
Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd
Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Darparodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth amserlen wedi'i diwygio ar
gyfer cwestiynau llafar. Nododd y
Rheolwyr Busnes fod y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth a Physgodfeydd wedi cwrdd
â llefarwyr y pleidiau ynghylch y Rheoliadau Lles Anifeiliaid, ac awgrymodd fod
angen rhagor o amser arni i ystyried y rheoliadau. Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd ar amserlen ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol: Dydd
Mercher 1 Hydref 2014 ·
Amser a
neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer
(30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol: Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU ar gyfer 2014/2015 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes y papur sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr holl Filiau a
gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines, gan gynnwys y rhai sydd ar ffurf drafft a'r
rhai nad ydynt ar ffurf drafft, ar gyfer y pedwerydd sesiwn Seneddol. Rhoddodd y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor y bydd y
Llywodraeth yn adolygu pryd y bydd cynigion cydsyniad deddfwriaethol yn ofynnol
yn y dyfodol, yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys yr wythnos diwethaf ar y
Bil Sector Amaethyddol (Cymru). |
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad Cofnodion: Wedi gwaith ymgynghori â grwpiau,
cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddiwygio'r darpariaethau yn Rheol Sefydlog 26
ynghylch Memoranda Esboniadol diwygiedig, a'r amser rhwng y cyfnodau diwygio
terfynol a Chyfnod 4. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y cynigion ynghylch diwygio Rheol Sefydlog 26 a bydd
ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor Busnes yn paratoi adroddiad drafft i'r Pwyllgor ei
ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Y Cyfarfod Llawn |
|
Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad Cofnodion: Yn y
cyfarfod ar 1 Gorffennaf 2014, ystyriodd y Rheolwyr Busnes gynigion ar gyfer
diwygio Cwestiynau Llafar y Cynulliad. Cafwyd cefnogaeth unfrydol i'r cynnig
ynghylch Cwestiynau'r Llefarwyr. Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd
Cwestiynau'r Llefarwyr yn cychwyn ddechrau tymor yr hydref 2014, a bydd
Cwestiynau'r Llefarwyr yn disodli'r arfer bresennol o ganiatáu i lefarwyr ofyn
dau gwestiwn atodol ar gwestiwn a gyflwynwyd o'u dewis. Cytunodd y Rheolwyr Busnes pan
fydd llefarydd yn dymuno gofyn cwestiynau sy'n dod o dan gyfrifoldeb Dirprwy
Weinidog, caiff y Llywodraeth ei
hysbysu'r bore hwnnw. |