Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk)
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Lesley Griffiths a dirprwyodd Jane Hutt, y Gweinidog newydd
dros Fusnes y Llywodraeth, ar ei rhan. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf
gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i
Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd
Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal
y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y bydd cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad yn cael eu cyflwyno
wythnos ynghynt, set 1 Hydref, a bob pedair wythnos wedi hynny. Diben hyn yw
creu gwell cydbwysedd o ran busnes o ystyried yr amserlen newydd ar gyfer
Cwestiynau Llafar y Cynulliad, sy'n cynnwys cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol yn ystod yr wythnos honno. Penderfynodd
y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a
ganlyn: Dydd
Mercher 8 Hydref 2014 ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar arfer gorau mewn prosesau cyllidebol (60 munud) ·
Dadl ar adroddiad
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wasanaethau orthodontig yng Nghymru. ·
Amser a
neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer
(30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Cynllunio Drafft (Cymru): Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Cynllunio (Cymru) at y Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes y byddent yn gohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr
wythnos nesaf i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor
Menter a Busnes er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y
dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
erbyn 16 Hydref 2014 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 21 Hydref 2014. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad Cofnodion: Trafododd a
chymeradwyodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft ar ddiwygio Rheol Sefydlog 26
mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad. Cytunodd y
Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried
gan y Cynulliad ddydd Mercher 24 Medi 2014. |
|
Unrhyw Fater Arall |