Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones (Clerk) 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i'w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.

 

Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Atgoffodd y Llywydd y Gweinidog y dylai cyhoeddiadau pwysig ar bolisi'r Llywodraeth gael eu gwneud yn y Siambr yn gyntaf.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 1 Hydref 2014

 

·         Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau’r Cynulliad

 

Dydd Mercher 15 Hydref 2014

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

·         Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Dadl Fer - Aled Roberts (Gogledd Cymru) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 16 Medi i gyfeirio'r Bil Cynllunio (Cymru) i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w drafod yng Nghyfnod 1, a chytunwyd ar 30 Ionawr 2015 fel y dyddiad cau i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar Gyfnod 1 a 27 Mawrth 2015 fel dyddiad ar gyfer cwblhau trafodion Pwyllgor Cyfnod 2.

 

Unrhyw Fater Arall

Trafododd y Rheolwyr Busnes Gwestiynau Llefarwyr yn sgil eu cyflwyno'r wythnos diwethaf, gan gytuno i gadw'r fformat newydd dan sylw dros yr wythnosau nesaf.